Gwneud cais i fod yn ddirprwy panel
Defnyddiwch y canllawiau hyn i wneud cais i fod yn ddirprwy panel.
Yn berthnasol i Gymru a Loegr
Dogfennau
Manylion
Ffurflen y mae angen i chi ei llenwi
Mae鈥檙 ffurflen y mae angen i chi ei llenwi yn dibynnu ar p鈥檜n a ydych yn gwneud cais fel unigolyn neu fel corfforaeth ymddiriedolaeth.
Os ydych yn gwneud cais fel unigolyn, bydd angen i chi lenwi ffurflen gais dirprwy panel. Rhaid i ymgeiswyr fod yn un o鈥檙 canlynol:
- cyfreithwyr a reoleiddir gan yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr (SRA)
- cyfrifwyr a reoleiddir gan Sefydliad y Cyfrifwyr Siartredig yng Nghymru a Lloegr (ICAEW) neu Gymdeithas y Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig (ACCA)
- cynghorwyr ariannol a reoleiddir gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA)
- elusennau a reoleiddir gan y Comisiwn Elusennau
Os ydych chi鈥檔 gorfforaeth ymddiriedolaeth, bydd angen i chi lenwi ffurflen gais Corfforaeth yr Ymddiriedolaeth.
Rhaid i chi anfon y ffurflen wedi鈥檌 llenwi at y t卯m cymorth dirprwyon yn [email protected] erbyn 16 Mai 2025.
Fe鈥檆h cynghorir i gadw copi o鈥檆h ffurflen wedi鈥檌 llenwi ar gyfer eich cofnodion eich hun.
Darganfyddwch beth mae Swyddfa鈥檙 Gwarcheidwad Cyhoeddus (OPG) yn ei wneud gyda鈥檆h gwybodaeth
Mae Swyddfa鈥檙 Gwarcheidwad Cyhoeddus yn casglu ac yn prosesu data personol er mwyn cyflawni ei swyddogaethau cyhoeddus ei hun a swyddogaethau cyhoeddus cysylltiedig. Mae rhagor o wybodaeth yn yr聽hysbysiad preifatrwydd ar oruchwylio dirprwyon.
Os bydd eich cais i fod yn ddirprwy panel yn llwyddiannus, byddwch yn cael eich rhestru ar 188体育 yn y聽rhestr o weithwyr proffesiynol cymeradwy.