Ffurflen

Gwneud cais am orchymyn rhag molestu neu orchymyn anheddu: Ffurflen FL401

Gofyn i鈥檙 llys wneud gorchymyn i鈥檆h amddiffyn chi ac unrhyw blentyn perthnasol rhag camdriniaeth neu aflonyddwch gan berson a enwir, neu eu hatal rhag byw yn eich cartref.

Dogfennau

Gwneud cais am fformat hygyrch.
Os ydych chi'n defnyddio technoleg gynorthwyol (er enghraifft, rhaglen darllen sgrin) a bod angen fersiwn o'r ddogfen hon arnoch mewn fformat mwy hygyrch, e-bostiwch [email protected]. Rhowch wybod i ni pa fformat sydd ei angen arnoch. Bydd yn ein helpu ni os byddwch chi'n dweud pa dechnoleg gynorthwyol rydych chi'n ei defnyddio.

Gwneud cais am fformat hygyrch.
Os ydych chi'n defnyddio technoleg gynorthwyol (er enghraifft, rhaglen darllen sgrin) a bod angen fersiwn o'r ddogfen hon arnoch mewn fformat mwy hygyrch, e-bostiwch [email protected]. Rhowch wybod i ni pa fformat sydd ei angen arnoch. Bydd yn ein helpu ni os byddwch chi'n dweud pa dechnoleg gynorthwyol rydych chi'n ei defnyddio.

Manylion

Gallwch ddefnyddio ffurflen FL401 i wneud cais am:

  • Gorchymyn rhag molestu, sy鈥檔 eich amddiffyn chi ac unrhyw blentyn perthnasol rhag camdriniaeth neu aflonyddwch. Gall y gorchymyn hwn hefyd atal rhywun rhag dod i鈥檆h cartref neu yn agos at eich cartref
  • Gorchymyn anheddu, pan fydd y llys yn penderfynu pwy ddylai fyw yn y cartref neu ddychwelyd i鈥檙 cartref, neu unrhyw ran ohono

Mae鈥檙 gorchmynion hyn yn fathau o waharddeb.

Nid oes rhaid talu ffi鈥檙 llys i wneud cais. Gallwch wneud cais am y naill orchymyn neu鈥檙 llall neu鈥檙 ddau orchymyn, gan ddibynnu ar eich sefyllfa.

Mae鈥檙 ffurflen yn cynnwys gwybodaeth ac arweiniad pellach i鈥檆h helpu chi i gwblhau eich cais.

Mae鈥檔 rhaid i chi hefyd baratoi datganiad tyst. Mae ein templed wedi鈥檌 gynllunio i鈥檆h helpu chi i ddarparu鈥檙 holl wybodaeth sydd ei hangen ar y llys. Nid oes rhaid i chi ddefnyddio鈥檙 templed hwn os byddai鈥檔 well gennych ysgrifennu eich datganiad eich hun. Fodd bynnag, efallai y bydd y cyfarwyddyd o gymorth i chi.

Os byddwch yn penderfynu ysgrifennu eich datganiad tyst eich hun, rhaid iddo gynnwys y 鈥榙atganiad gwirionedd鈥� canlynol, yn ogystal 芒鈥檆h llofnod a鈥檙 dyddiad:

Deallaf y gellir dwyn achos dirmyg llys yn erbyn unrhyw un sy鈥檔 gwneud datganiad anwir, neu sy鈥檔 achosi i ddatganiad anwir gael ei wneud mewn dogfen a ddilysir gan ddatganiad gwirionedd heb gredu鈥檔 onest ei fod yn wir.

Cefnogaeth wrth wneud cais am orchymyn

Mae CourtNav yn adnodd ar-lein (a ddarperir gan Cyngor ar Bopeth y Llysoedd Barn Brenhinol) a fydd yn eich helpu chi i gyflwyno eich cais. Bydd yr adnodd hefyd yn eich rhoi mewn cysylltiad 芒 chynghorwyr cyfreithiol i drafod eich opsiynau.

Os byddwch yn penderfynu defnyddio CourtNav, ni fydd angen i chi lenwi鈥檙 ffurflen FL401 hon neu ddarparu datganiad i gefnogi eich cais - bydd CourtNav yn gwneud hyn ar eich rhan.

Agor dogfen

Gallwch lawrlwytho ac agor dogfennau PDF ar eich dyfais. Mae lawrlwytho yn galluogi defnyddio mwy o nodweddion, fel argraffu.

Mae Adobe Reader yn raglen gweld ffeiliau PDF sydd yn rhad ac am ddim i鈥檞 lawrlwytho. Gallwch ddefnyddio hwn i weld, llenwi ac argraffu dogfennau PDF. Nid oes angen i chi gofrestru ar gyfer treial am ddim.

Dilynwch y camau hyn:

  1. am ddim.

  2. Cliciwch gydag ochr dde y llygoden ar y ddolen a dewiswch 鈥楽ave link as鈥� neu 鈥楧ownload linked file鈥�.

  3. Cadw鈥檙 ffurflen (yn eich ffolder 鈥榙ocuments鈥�, er enghraifft).

  4. Agorwch Adobe Reader ac yna dewiswch y ffurflen yr ydych wedi鈥檌 chadw.

Os nad yw鈥檙 ffurflen yn agor o hyd, cysylltwch 芒 [email protected].

Os oes angen fersiwn brintiedig arnoch cysylltwch 芒鈥檆h llys lleol.

Gofyn am fformatau hygyrch

Gallwch ofyn am:

  • fersiwn Braille

  • fersiwn print bras

  • fersiwn hawdd ei darllen

Gofyn am fformat hygyrch drwy e-bost - [email protected]

Microsoft Word

Yn gyffredinol, nid yw Microsoft Word yn addas ar gyfer ein dogfennau. Gallwch ond gofyn am drosi ffurflen PDF i fformat Word fel addasiad rhesymol o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Cewch ragor o wybodaeth am Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn y canllawiau.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 10 Tachwedd 2021
Diweddarwyd ddiwethaf ar 6 Ionawr 2025 show all updates
  1. Added information about applying for a domestic abuse protection order instead (if you are eligible).

  2. Guidance for requesting accessible formats has been updated.

  3. Large print versions of the English and Welsh forms uploaded.

  4. Uploaded a new easy read version of the form and the template supporting statement

  5. Uploaded a new version of the FL401

  6. Added translation

Argraffu'r dudalen hon