Gwneud cais drwy'r post am Dystysgrif Awdurdodi Pleidleisiwr os ydych yn byw dramor, yn y lluoedd arfog, yn un o Weision y Goron neu'n un o gyflogeion y British Council
Ffurflen i'w defnyddio i wneud cais drwy'r post am Dystysgrif Awdurdodi Pleidleisiwr.
Yn berthnasol i Gymru, Loegr a Scotland
Dogfennau
Manylion
Defnyddiwch y ffurflen hon i wneud cais drwy鈥檙 post am Dystysgrif Awdurdodi Pleidleisiwr os ydych chi naill ai
- yn byw dramor,
- yn y lluoedd arfog,
- yn un o Weision y Goron, neu
- yn un o gyflogeion y British Council
Bydd angen i chi argraffu鈥檙 ffurflen, ei llenwi a鈥檌 hanfon i鈥檆h Swyddfa Cofrestru Etholiadol leol.
Dim ond os ydych yn bwriadu pleidleisio鈥檔 bersonol mewn gorsaf bleidleisio yn rhai o etholiadau a refferenda鈥檙 DU y bydd angen prawf adnabod ffotograffig a dderbynnir arnoch. Ni allwch ddefnyddio Tystysgrif Awdurdodi Pleidleisiwr fel prawf adnabod am unrhyw reswm arall.
Gwnewch gais am Dystysgrif Awdurdodi Pleidleisiwr o dan yr amgylchiadau canlynol:
- os ydych yn bwriadu pleidleisio鈥檔 bersonol mewn gorsaf bleidleisio
- os nad oes gennych brawf adnabod ffotograffig a dderbynnir
- os nad ydych yn edrych fel y ffotograff ar eich prawf adnabod mwyach
- os yw鈥檙 enw ar eich prawf adnabod ffotograffig yn wahanol i鈥檙 enw ar y gofrestr etholiadol
Cysylltwch 芒鈥檆h Swyddog Cofrestru Etholiadol os bydd angen unrhyw help arnoch i ddeall y ffurflen hon neu i鈥檞 chwblhau.