Hysbysiad preifatrwydd APHA ar gyfer Cadw Golwg ar Weithgareddau Masnach a Phrofion Diagnostig mewn Labordai
Diweddarwyd 30 Medi 2024
Yn berthnasol i Gymru, Loegr a Scotland
Mae eich data鈥檔 cael eu casglu gan
Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) yw鈥檙 rheolydd data ar gyfer data personol y byddwch yn eu rhoi i APHA.
Mae APHA yn un o asiantaethau gweithredol Defra. Gallwch gysylltu 芒 Rheolwr Diogelu Data APHA drwy e-bost yn: [email protected].
Dylid anfon unrhyw gwestiynau am y ffordd y mae Defra/APHA yn defnyddio eich data personol a鈥檆h hawliau cysylltiedig i鈥檙 cyfeiriad uchod.
Gellir cysylltu 芒鈥檙 Swyddog Diogelu Data sy鈥檔 gyfrifol am fonitro bod Defra/APHA yn bodloni gofynion y ddeddfwriaeth drwy e-bost yn: [email protected].
Pa ddata personol sy鈥檔 cael eu casglu
Mae a wnelo鈥檙 data personol sy鈥檔 cael eu casglu 芒鈥檙 perchennog a鈥檙 anifeiliaid y cyflwynir samplau ohonynt i鈥檞 profi (enw, cyfeiriad, rhif adnabod yr anifail, manylion symptomau). Caiff data personol eu casglu a鈥檜 storio ar gyfer swyddogaethau statudol APHA mewn perthynas 芒 rheoli clefydau; yn benodol mewnforion ac allforion, diogelwch bwyd, clefyd hysbysadwy a llesiant.
Hefyd, mae swyddogaethau gwyliadwriaeth sganio a gyflawnir gan APHA yn angenrheidiol er mwyn cyflawni tasg a wneir er budd y cyhoedd neu er mwyn ymarfer awdurdod swyddogol a roddir i鈥檙 rheolydd data i reoli clefydau anifeiliaid fferm o fewn Prydain Fawr.
Gall APHA hefyd ddefnyddio鈥檙 data hyn er mwyn cynnal ymchwil i鈥檙 ffordd y rheolir y clefydau hyn. Yn ogystal 芒 hyn, caiff data eu prosesu o dan gontract at ddibenion masnachol.
Ceir rhagor o wybodaeth am APHA yn gov.uk/apha.
Sut y cafwyd eich data
Ceir eich data drwy weithdrefnau cyflwyniadau sampl, ar ffurflenni a gwblheir gennych chi neu鈥檆h milfeddyg preifat fel rhan o鈥檙 broses o geisio gwasanaethau profi gan APHA. Yn achosion profion ac ymchwiliadau statudol, efallai y caiff y data eu casglu gan APHA neu swyddogion eraill wrth iddynt wneud eu gwaith i ategu gweithgarwch diogelu pobl ac iechyd anifeiliaid.
Pam y mae APHA yn defnyddio eich data
Mae APHA yn defnyddio eich data i ddarparu gwasanaeth profi a sicrhau bod yr holl ddata ar glefydau a gweithgarwch profi ar gael i鈥檞 defnyddio gan APHA at ddibenion diogelu pobl ac iechyd anifeiliaid ac mewn perthynas 芒 rhyddid rhag clefydau a masnach ryngwladol.
Y sail gyfreithiol dros brosesu eich data
- Cyflawni tasg a wneir er budd y cyhoedd neu wrth arfer awdurdod swyddogol a roddir i鈥檙 rheolwr
- Cydymffurfio 芒 rhwymedigaeth gyfreithiol sydd gan y rheolwr
- Cyflawni contract y mae鈥檙 gwrthrych data yn rhan ohono neu er mwyn cymryd camau ar gais y gwrthrych data cyn ymrwymo i gontract
Gofyniad cyfreithiol neu gytundebol i ddarparu data personol
Yn dibynnu ar y rheswm dros gyflwyniadau diagnostig, mae鈥檙 data sydd eu hangen naill ai鈥檔 ofyniad cyfreithiol er mwyn cyflawni rhwymedigaethau statudol (gwyliadwriaeth statudol ar glefydau, profion masnach ryngwladol), neu鈥檔 rhan o鈥檙 contract ar gyfer darparu gwasanaethau (profion diagnostig arferol) er mwyn galluogi APHA i fonitro tueddiadau o ran clefydau a chadw golwg am fygythiadau clefydau newydd a chlefydau sy鈥檔 ailymddangos.
Eich hawliau
Darllenwch am .
Canlyniadau peidio 芒 rhoi data personol
Ar gyfer swyddogaethau statudol APHA mewn perthynas 芒 rheoli clefydau, yn benodol mewnforion, diogelwch bwyd, clefyd hysbysadwy, a llesiant, mae gofyniad deddfwriaethol i roi鈥檙 data personol angenrheidiol.
Ar gyfer gwyliadwriaeth sganio anstatudol ategir y ddarpariaeth o ddata gofynnol gan delerau ac amodau defnyddio鈥檙 gwasanaeth profion.
I gael rhestr gyfredol o鈥檙 ddeddfwriaeth sy鈥檔 rheoli鈥檙 clefydau hyn ewch i .
Data personol a ddefnyddir i wneud penderfyniadau awtomataidd
Nid yw鈥檙 wybodaeth a roddir gennych yn gysylltiedig 芒鈥檙 canlynol:
- gwneud penderfyniadau unigol, hynny yw gwneud penderfyniad drwy ddulliau awtomataidd yn unig heb i unrhyw bobl fod yn rhan o鈥檙 broses
Data personol a ddefnyddir ar gyfer 鈥榩roffilio鈥� penderfyniadau a wneir yn awtomataidd a chanlyniadau hyn
Nid yw鈥檙 wybodaeth a roddir gennych yn gysylltiedig 芒鈥檙 canlynol:
- proffilio, hynny yw prosesu data personol yn awtomataidd er mwyn gwerthuso pethau penodol yngl欧n ag unigolyn Sut rydym yn defnyddio gwybodaeth bersonol arbennig o sensitif
Gyda phwy y bydd APHA yn rhannu eich data
Efallai y bydd data personol ar gael i awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus eraill yn y DU a鈥檙 UE er mwyn bodloni gofynion cyfreithiol.
Gallwn rannu data 芒 Defra a鈥檌 hasiantaethau, Llywodraeth Cymru, Llywodraeth yr Alban, yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Iechyd Cyhoeddus, a sefydliadau ac awdurdodau gorfodi eraill.
Mae鈥檔 bosibl y bydd angen i ni ryddhau gwybodaeth (gan gynnwys data personol a gwybodaeth fasnachol) o dan y ddeddfwriaeth ganlynol:
- Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol DU (GDPR DU)
- Deddf Diogelu Data 2018 y DU
- Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000
- Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004
Ni fyddwn yn caniat谩u unrhyw dor cyfrinachedd diangen ac ni fyddwn yn gweithredu鈥檔 groes i鈥檔 rhwymedigaethau o dan ddeddfwriaeth diogelu data y DU.
Storio a defnyddio data y tu allan i鈥檙 DU
Caiff canran fach iawn o gofnodion y llywodraeth sy鈥檔 cynnwys gwybodaeth bersonol, ei dewis er mwyn eu cadw鈥檔 barhaol yn yr Archifau Cenedlaethol. Sicrheir eu bod ar gael yn unol 芒 Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, fel y鈥檌 diwygiwyd gan Ddeddf Diogelu Data 2018.
Ni fydd y data a roddir gennych yn cael eu trosglwyddo y tu allan i鈥檙 DU. Ar achlysuron prin, pan fydd yn gyfreithlon ac yn ategu鈥檙 gwaith a gyflawnir gennym er budd y cyhoedd, mae鈥檔 bosibl y caiff data ymchwil eu trosglwyddo鈥檔 ddiogel y tu allan i鈥檙 DU.
Am faint o amser y bydd APHA yn cadw data personol
Bydd yr holl wybodaeth a ddelir o fewn APHA yn cael ei chadw yn unol 芒鈥檔 polisi cadw. Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag [email protected].
O dan amgylchiadau penodol, mae鈥檔 bosibl y caiff gwybodaeth ei dal am gyfnodau hwy. Dyma rai enghreifftiau:
- 补辫锚濒
- gweithgarwch archwilio
- cwyn
- afreoleidd-dra
- camau cyfreithiol
- cais ffurfiol am wybodaeth
- os yw鈥檔 gosod cynsail
- at ddibenion ymchwil wyddonol neu hanesyddol
Eich hawliau
Darllenwch am .
Cwynion
Mae gennych yr hawl i wneud cwyn am y defnydd o鈥檆h data personol i 鈥� yr awdurdod goruchwylio ar gyfer diogelu data, ar unrhyw adeg.
Siarter Gwybodaeth Bersonol APHA
Gweler hefyd Siarter Gwybodaeth Bersonol APHA, sy鈥檔 nodi鈥檔 fras fanylion prosesu data personol Defra.