Ffurflen

Sut i gofrestru fel busnes sy'n gwerthu cynhyrchion diogelu planhigion (PPPs) amatur

Diweddarwyd 30 Medi 2022

Yn berthnasol i Gymru, Loegr a Scotland

Pwy sy鈥檔 gorfod cofrestru

Rhaid i werthwyr cynhyrchion diogelu planhigion (PPPs) amatur ym Mhrydain Fawr (Cymru, Lloegr neu鈥檙 Alban) gofrestru gyda鈥檙 ffurflen hon.聽Nid yw PPPs amatur wedi鈥檜 bwriadu ar gyfer dibenion proffesiynol a does dim angen ardystiad ar ddefnyddwyr amatur i鈥檞 taenu.

Does dim angen i fusnesau yng Ngogledd Iwerddon, Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw gofrestru gyda鈥檙 ffurflen hon.

Sut i gofrestru

Lawrlwythwch a llenwch ffurflen i gofrestru fel gwerthwr cynhyrchion diogelu planhigion amatur.

Lawrlwytho鈥檙 ffurflen

Mae鈥檙 ffurflen ar fformat taenlen. Mae angen meddalwedd taenlen fel Microsoft Excel, LibreOffice neu Mac OS Numbers ar eich dyfais i agor a llenwi鈥檙 ffurflen.

Mae鈥檙 ffurflen ar gael mewn 2 wahanol fath o ffeiliau:

  • Fformat OpenDocument (.ods)
  • Fformat Excel (.xlsx)

Os ydych chi鈥檔 defnyddio dyfais Apple a bod gennych chi OpenOffice neu LibreOffice, defnyddiwch y math o ffeil OpenDocument (.ods). Os ydych chi鈥檔 defnyddio Numbers, bydd angen ichi allforio a chadw eich ffeil orffenedig ar fformat Excel (.xls neu .xlsx) neu OpenDocument (.ods.)

Gwerthu PPPs amatur

Mae鈥檙 ffurflen yn gofyn ichi amcangyfrif faint o PPPs amatur rydych chi鈥檔 eu gwerthu mewn blwyddyn arferol.

Os yw鈥檙 swm rydych chi鈥檔 ei werthu yn newid o flwyddyn i flwyddyn, nodwch swm y byddech yn ei werthu mewn blwyddyn arferol. Os ydych chi鈥檔 gwerthu PPPs yn ystod rhai blynyddoedd ond nid eraill, rhowch y swm nodweddiadol y byddech yn ei werthu mewn blwyddyn rydych chi鈥檔 ei wneud.

Dychwelyd y ffurflen

Ar 么l ei llenwi, cadwch y ffurflen fel ffeil OpenDocument (.ods) neu Excel (.xls neu .xlsx).

Ebostiwch eich ffeil .ods, .xls neu .xlsx i [email protected].

Dim ond ffurflenni sydd wedi鈥檜 cadw yn y fformatau hyn y gall Defra eu prosesu. Os anfonwch chi鈥檆h eich ffurflen mewn fformat ffeil gwahanol, megis dogfen PDF neu Word, ni fydd yn cael ei phrosesu a gofynnir ichi ailgyflwyno鈥檙 wybodaeth.

Os bydd eich cwmni鈥檔 cau ar 么l cofrestru, rhaid ichi roi gwybod i [email protected].

Help gyda鈥檙 ffurflen

I gael help gyda鈥檙 ffurflen, gallwch:

  • ebostio: [email protected] (defnyddiwch y llinell bwnc 鈥榊mholiad cofrestru OCR-PPP鈥�)
  • ffonio鈥檙 llinell gymorth: 03459 33 55 77

Oriau agor: Dydd Llun i ddydd Gwener, 8:30am i 5pm.

Gwybodaeth am daliadau am alwadau (yn Saesneg).

I gysylltu 芒 Defra ynghylch cwyn, dilynwch y weithdrefn gwyno (yn Saesneg).