Osgoi Gwaharddiadau: cyngor i gyfarwyddwyr cwmn茂au
Diweddarwyd 24 Ionawr 2017
Pam ddylai cyfarwyddwyr helpu cwmn茂au i osgoi torri cyfraith cystadleuaeth?
Mae gan gyfarwyddwyr cwmn茂au gyfrifoldeb arbennig i fod yn ymwybodol iawn o arferion eu cwmni ac i sicrhau eu bod yn cydymffurfio gyda鈥檙 gyfraith.
Os cant eu dal yn torri cyfraith cystadlu, gall cyfarwyddwyr gael eu datgymhwyso o weithredu fel cyfarwyddwr cwmni neu gyflawni rolau penodol eraill o fewn cwmni am hyd at 15 mlynedd.
Gallai gwybod am arferion anghyfreithlon heb gymryd camau i鈥檞 hatal fod yn sail dros ddatgymhwyso cyfarwyddwr.
Os yw cwmni yn torri cyfraith cystadlu heb i鈥檙 cyfarwyddwr wybod amdano ond nad oedd yn ddiwyd ac y dylai fod wedi gwybod, gallai hyn hefyd fod yn sail dros ddatgymhwyso.
Pa gamau sydd angen i gyfarwyddwyr cwmn茂au eu cymryd?
Rhaid i chi sicrhau eich bod yn ddigon ymwybodol o faterion eich cwmni i nodi ac atal arferion anghyfreithlon cyn gynted 芒 phosibl.
Os ydych chi鈥檔 amau arferion busnes anghyfreithlon, dylech ymchwilio.
Os dewch yn ymwybodol o arferion gwrth gystadleuol, dylech gymryd camau ar unwaith i鈥檞 hatal a cheisio cyngor cyfreithiol.
Arwain trwy esiampl - cyfarwyddwch eich hun 芒 risgiau cyfraith cystadlu a rhaeadru cyngor i staff 鈥� mae鈥檙 CMA wedi cyhoeddi detholiad o ganllawiau byr a syml a chanllaw risg i helpu.
Profwch i ba raddau mae eich cwmni yn cydymffurfio 芒 chyfraith cystadleuaeth, dyma rai cwestiynau i鈥檞 gofyn:
-
Beth yw ein risgiau cydymffurfiad cyfraith cystadleuaeth presennol?
-
Beth yw鈥檙 risgiau uchel, canolig ac isel?
-
Pa fesurau ydyn ni鈥檔 eu cymryd i liniaru鈥檙 risgiau hyn?
-
Pryd ydyn ni鈥檔 adolygu effeithlonrwydd y mesurau hyn nesaf?
Annog a hwyluso rhoi adroddiadau
Dynodwch berson annibynnol, y gellir ymddiried ynddo yn eich cwmni i staff adrodd ar bryderon iddo/iddi (er enghraifft, ysgrifennydd cwmni).
Ceisiwch gyngor cyfreithiol os oes gennych chi bryder am gyfraith cystadlu.
Beth yw cart茅l a sut mae bod yn rhan o un yn effeithio arnoch chi?
Yn syml, mae cart茅l yn gytundeb rhwng busnesau i beidio cystadlu gyda鈥檌 gilydd. Fel arfer mae鈥檔 gytundeb cyfrinachol ac anffurfiol.
Mae cartelau yn doriad arbennig o ddifrifol o gyfraith cystadleuaeth. Gall unigolion sy鈥檔 aelodau o gart茅l gael eu carcharu am hyd at bum mlynedd. Gall busnesau sy鈥檔 torri cyfraith cystadleuaeth gael dirwy o hyd at ddeg y cant o drosiant.
Os ydych chi wedi bod yn rhan o gart茅l anghyfreithlon eich hun
Efallai y byddwch yn cael budd o gael eich trin yn fwy trugarog os mai chi wnaiff gamu ymlaen gyntaf i鈥檙 CMA.
Ewch i鈥檔 gwefan am ragor o wybodaeth am drugaredd.