Sarah Williams-Gardener

Bywgraffiad
Penodwyd Sarah Williams-Gardener yn Gyfarwyddwr Anweithredol y DVLA ym mis Chwefror 2024.
Addysg
Gadawodd Sarah yr ysgol ar ôl cwblhau Lefelau ‘O�. Yn ddiweddarach aeth ymlaen i astudio MBA a noddwyd gan IBM yn INSEAD.
Gyrfa
Treuliodd Sarah 17 mlynedd yn IBM, yn ddiweddarach fel Cyfarwyddwr Materion y Llywodraeth yn gweithio gydag adrannau’r llywodraeth, yn ogystal â gweithio ar brosiectau masnachol ac arloesi. Roedd Sarah yn un o sylfaenwyr y tîm y tu ôl i’r banc herio Starling. Ar ôl gadael Starling ym mis Mehefin 2019, bu Sarah yn Brif Swyddog Gweithredol dros dro yn yr elusen ‘Hope for Children�, ac yna contract ymgynghori yn Fair 4 All Finance, gan sefydlu eu tîm mewnwelediadau defnyddwyr a marchnad.
Sarah yw Cadeirydd FinTech Cymru ar hyn o bryd, sef cydweithfa aelodau sy’n canolbwyntio ar rymuso’r FinTech a’r gwasanaethau ariannol yng Nghymru ac arwain y sefydliad i sefydlu Cymru fel canolbwynt rhagoriaeth FinTech a gydnabyddir yn fyd-eang. Mae Sarah hefyd yn ymddiriedolwr ar gyfer Goroesi Cam-drin Economaidd.
Cyfarwyddwr Anweithredol
Yn gyfrifol am gyflwyno syniadau ac yn darparu cyngor, o’i phrofiad yn y byd busnes ehangach ac o’i safbwynt hi fel dinesydd preifat.