Catherine Vaughan CB

Bywgraffiad
Penodwyd Catherine Vaughan CB yn Gyfarwyddwr Cyllid Cyffredinol i Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) fis Hydref 2022.
Cyn ymuno â DWP, Catherine oedd Cyfarwyddwr Cyffredinol a Phrif Swyddog Gweithredu Adran Masnach Ryngwladol (DIT).
Dechreuodd Catherine ei gyrfa â PricewaterhouseCoopers (PwC) ym maes archwilio sector cyhoeddus. Mae hi’n gyfrifydd cymwysedig gyda’r Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth (CIPFA). Mae ei rolau dilynol wedi cynnwys:
- Cyfarwyddwr Cyllid ac Adnoddau Cyngor Dinas Brighton a Hove
- Prif Swyddog Cyllid Awdurdod Parc Cenedlaethol South Downs
- Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Busnes Cofrestrfa Tir EF
Mae Catherine yn aelod o Grŵp Arweinyddiaeth Swyddogaeth Cyllid y Llywodraeth ac yn arwain ar dalent SCS. Mae hi hefyd wedi bod yn Gyfarwyddwr Anweithredol ar Fwrdd Pêl-rwyd Lloegr.
Cyfarwyddwr Cyffredinol, Cyllid
Mae’r Cyfarwyddwr Cyllid Cyffredinol yn gyfrifol am:
- arwain timau sy’n goruchwylio strategaeth fusnes a chynllunio adrannol DWP
- dyrannu adnoddau
- rheolaeth ariannol
- caffael masnachol a rheoli contractau
- diogelwch
Rolau blaenorol yn y llywodraeth
-
Director General and Chief Operating Officer
-
Director of Finance and Business Services