Gweithdrefn gwyno
Sut i wneud cwyn am y ffordd mae PecynUK yn gweithredu a'r gwasanaethau rydym yn darparu.
Gweithdrefn gwyno
Gobeithio y bydd y mwyafrif o bobl yn fodlon 芒鈥檙 gwasanaeth i gwsmeriaid rydyn ni鈥檔 ei roi, ond rydyn ni鈥檔 cydnabod y gall rhai fod yn anfodlon.
Mae gan PecynUK broses gwyno ffurfiol a thryloyw ar waith i ymdrin 芒 chwynion am y ffordd rydyn ni鈥檔 gweithredu neu am y gwasanaethau rydyn ni鈥檔 eu darparu. Yr enw ar y cwynion yma yw cwynion safonau gwasanaeth.
Pethau i鈥檞 hystyried cyn gwneud cwyn
Dyw鈥檙 broses o gwyno am safonau gwasanaeth ddim yn ymwneud 芒 phrosesau cwyno mewnol i鈥檙 staff, na gwrthwynebiadau i bolis茂au鈥檙 sefydliad.
Cyn gwneud cwyn am safon gwasanaeth, dylech ystyried yn y lle cyntaf a ydy鈥檙 g诺yn yn ymwneud 芒 PecynUK ynteu a ddylai gael ei chyfeirio at Defra, y rheoleiddiwr priodol ar gyfer eich rhanbarth chi neu un o bedair gwlad y Deyrnas Unedig.
Sut i gwyno
Os oes gennych chi g诺yn am safonau gwasanaeth sy鈥檔 ymwneud 芒鈥檙 ffordd rydyn ni鈥檔 gweithredu neu鈥檙 gwasanaethau rydyn ni鈥檔 eu darparu, rhowch wybod inni cyn gynted 芒 phosibl drwy ddefnyddio鈥檙 ffurflen isod.
Mae gennyn ni broses dau gam sydd wedi鈥檌 bwriadu i ddelio 芒 chwynion yn gyflym, yn effeithiol ac yn deg.
Cam 1 (y cam cychwynnol)
Dylech gyfeirio鈥檆h cwyn at d卯m cwynion PecynUK. T卯m cwynion PecynUK sy鈥檔 gyfrifol am ymchwilio i gwynion am safonau gwasanaeth.
Gall y t卯m gymryd hyd at bum diwrnod gwaith i dderbyn cwyn. Os yw eich cwyn wedi cael ei derbyn, fe gewch chi ymateb o fewn 20 diwrnod gwaith.
Cam 2 (ailystyried)
Os ydych chi鈥檔 anfodlon ar yr ymateb a gewch chi yn ystod y cam yma, gallwch ofyn i鈥檆h cwyn gael ei throsglwyddo i uwch-reolwr 鈥� sy鈥檔 cael ei alw yn ailystyried.
Mae gennych chi 28 diwrnod calendr ar 么l cael ein hymateb cychwynnol i ofyn i鈥檆h cwyn gael ei huwchgyfeirio. I wneud hyn, ymatebwch i d卯m cwynion PecynUK mewn ysgrifen gan egluro pam nad ydych chi鈥檔 fodlon 芒鈥檙 canlyniad; yna bydd eich cwyn yn cael ei chyfeirio at uwch-reolwr ar gyfer y maes perthnasol. Bydd yr uwch-reolwr yn anelu at ymateb ichi mewn ysgrifen o fewn 20 diwrnod gwaith ar 么l cael eich cais am uwchgyfeirio.
Dyfarniad annibynnol
Os byddwch chi鈥檔 dal yn anfodlon ar benderfyniad yr uwch-reolwr, cewch ofyn i unrhyw Aelod Seneddol gyfeirio鈥檆h cwyn at :
PHSO
Millbank Tower
Millbank
London
SW1P 4QP
Er ein bod bob amser yn anelu at ateb eich cwyn hyd eithaf ein gallu, allwn ni ddim ymateb i geisiadau am yr un wybodaeth dro ar 么l tro.