Cynllun cyhoeddi

Manylion am gynllun cyhoeddi'r Weinyddiaeth Gyfiawnder


Mae鈥檙 Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yn ein hannog i gyhoeddi cymaint o wybodaeth ag sy鈥檔 bosibl mewn ffordd ragweithiol.

Rydym yn cynnig maint sylweddol o wybodaeth o dan ein cynllun cyhoeddi. Mae hyn yn golygu y bydd yr wybodaeth yr ydych yn chwilio amdani ar gael yn barod yn aml iawn ac ni fydd angen i chi wneud cais ffurfiol o dan y Ddeddf.

Yr wybodaeth sydd ar gael

Mae鈥檙 wybodaeth sydd ar gael wedi ei grwpio o dan 7 categori:

  • pwy ydym a beth wnawn ni
  • faint a wariwn a sut yr ydym yn ei wario
  • beth yw ein blaenoriaethau a sut rydym yn llwyddo
  • sut rydym yn gwneud ein penderfyniadau
  • ein polis茂au a鈥檔 gweithdrefnau
  • rhestrau a chofrestrau
  • y gwasanaeth a gynigiwn

Sut mae鈥檙 cynllun yn gweithio a gwybodaeth am ffioedd

Mae鈥檙 wybodaeth sydd wedi鈥檌 rhestru yn ein cynllun cyhoeddi ar gael drwy鈥檙 wefan hon neu mewn print. Gallwch gael gafael ar yr wybodaeth mewn 3 ffordd:

  • ar y wefan - pan fydd gwybodaeth ar gael ar y wefan, neu ar un o鈥檔 gwefannau partner, byddwn yn rhoi cyfeiriad y wefan ac yn darparu dolen. Nid oes ffi am hynny
  • drwy e-bost - gallwch gyflwyno cais i鈥檙 adran ar y ffurflen gais Rhyddid Gwybodaeth - nid oes ffi am hynny
  • yn y post - os byddwch eisiau鈥檙 wybodaeth ar bapur efallai y bydd raid i ni godi ffi arnoch, ond byddwn yn ystyried pob achos ar wah芒n

Efallai y bydd gofyn i ni godi ffi os, er enghraifft, y bydd angen gwneud llawer o lungop茂o neu os yw鈥檙 gost yn uchel am bostio llawer o waith papur.

Dylid anfon ceisiadau yn y post i鈥檙 cyfeiriad yma:

Data Access and Compliance Unit
Postal Point 10.34, Floor 10
102 Petty France
London
SW1H 9AJ

Gwybodaeth mewn ieithoedd eraill

Mae cynllun iaith Gymraeg y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn nodi ein hymrwymiad i drin yr ieithoedd Cymraeg a Saesneg yn gyfartal, lle bo鈥檔 briodol ac yn ymarferol. Cymeradwywyd ein cynllun iaith Gymraeg gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg.

Os na allwch weld yr hyn yr ydych yn chwilio amdano

Os na allwch weld yr hyn yr ydych yn chwilio amdano, cysylltwch 芒 ni gan ddefnyddio鈥檙

Eich data personol

Os hoffech ofyn am eich data personol eich hun neu wybodaeth amdanoch eich hun, dylech wneud cais gwrthrych am wybodaeth o dan Ddeddf Diogelu Data 1998 ac nid o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth. Mae Deddf Diogelu Data 1998 yn gadael i chi ganfod pa wybodaeth a ddaliwn amdanoch chi. Yr enw ar hyn yw 鈥榟awl gwrthrych yr wybodaeth鈥�, gwelwch ein canllawiau yngl欧n 芒 sut i wneud cais gwrthrych am wybodaeth o dan y Ddeddf Diogelu Data.