Cydraddoldeb ac amrywiaeth

Sut mae Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM yn cefnogi defnyddwyr y llysoedd a thribiwnlysoedd sydd ag anableddau.


Yng Ngwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM (GLlTEM), rydym ni eisiau darparu:

  • profiad sy鈥檔 gweithio i bawb
  • gwasanaethau gall unigolion sydd ag anableddau eu defnyddio鈥檔 annibynnol lle bo鈥檔 bosibl
  • gwasanaethau gellir eu defnyddio mewn ffordd deg

Gwyddwn bydd pobl sydd ag anableddau weithiau angen ein cymorth a鈥檔 cefnogaeth i ddefnyddio ein gwasanaethau. Gall hyn olygu bod arnom angen darparu rhywbeth gwahanol er mwyn ichi allu cael mynediad at ein gwasanaethau yn yr un ffordd ag unigolyn heb anabledd. Gelwir hyn yn aml yn addasiad rhesymol.

Beth yw addasiad rhesymol?

Dyma sut rydym yn cynnig cefnogaeth i bobl sydd ag anableddau i sicrhau eu bod yn gallu cael mynediad at wasanaethau GLlTEM heb unrhyw rwystrau.

yn amddiffyn hawliau pobl sy鈥檔 byw gydag anableddau. Mae hyn yn golygu bod gennym ddyletswydd gyfreithiol i roi cymorth a chefnogaeth lle bo modd. Mae addasiadau rhesymol yn cael eu trafod yn Adran 20 y Ddeddf.

Mae pobl sydd ag anableddau yn gwybod beth sy鈥檔 peri anawsterau iddynt. Trwy wrando鈥檔 ofalus ac ymateb i鈥檞 hanghenion, gallwn wneud gwir wahaniaeth a helpu i ddarparu profiad sy鈥檔 gweithio i bawb.

Pa addasiadau rhesymol gallwn ni eu darparu?

Gallwn wneud llawer o bethau sy鈥檔 golygu gall bobl sydd ag anableddau ddefnyddio ein gwasanaethau yn annibynnol lle bo鈥檔 bosibl ac mewn ffordd deg, er enghraifft:

  • darparu ein ffurflenni mewn print bras
  • darparu ein canllawiau mewn fformat recordiad sain neu fformat 鈥楨asyRead鈥�
  • sicrhau bod systemau dolenni clyw ar gael ym mhob un adeilad llys a thribiwnlys
  • darparu man aros ar wah芒n
  • sicrhau bod rampiau a lifftiau ar gael

Nid yw鈥檙 rhestr hon yn cynnwys popeth y gallwn wneud i helpu, a byddwn wastad yn siarad gyda chi am eich anghenion yn gyntaf.

Os ydych angen cymorth neu gefnogaeth yn yr ystafell wrandawiadau byddwn hefyd yn trafod hyn gyda鈥檙 barnwr sy鈥檔 gwrando eich achos. Mae barnwyr wedi ymrwymo i sicrhau bod pawb yn gallu rhoi eu tystiolaeth orau a bod pawb yn cael gwrandawiad teg.

Sut i drefnu addasiad rhesymol

Mae anableddau yn effeithio ar unigolion mewn ffyrdd gwahanol felly ni fyddwn bob tro yn gwybod beth fydd yn helpu. Os oes gennych anabledd sy鈥檔 golygu na allwch gael mynediad at ein gwybodaeth neu鈥檔 gwasanaethau, yna cysylltwch 芒 ni os gwelwch yn dda. Gallwch wneud cais am gymorth a chefnogaeth fel addasiad rhesymol dros y ff么n, yn bersonol neu yn ysgrifenedig.

Bydd ein manylion cyswllt wedi鈥檜 nodi ar unrhyw lythyrau a gewch gennym, neu gallwch gysylltu 芒鈥檆h llys neu dribiwnlys lleol.

Dylech esbonio sut mae eich anabledd yn effeithio arnoch a rhoi cymaint o wybodaeth ac sy鈥檔 bosibl i鈥檔 helpu i ddarparu鈥檙 cymorth a鈥檙 gefnogaeth orau. Bydd hyn yn helpu ein staff neu鈥檙 barnwr ystyried beth fydd angen ichi wneud yn ystod eich achos ac ystyried unrhyw gymorth gallwn ni ei roi. Bydd ein staff wastad yn siarad gyda chi ac yn cytuno gyda chi ar unrhyw addasiadau rhesymol rydych eu hangen.