Datganiad i'r wasg

Datblygiad Wylfa Newydd yn cyrraedd carreg filltir allweddol

Asesiad o Adweithydd D诺r Berw Uwch y DU yn symud i鈥檙 cam nesaf

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Wylfa Power Station

惭补别鈥檙 datblygiad arfaethedig o orsaf niwclear newydd ar Ynys M么n wedi cyrraedd carreg filltir allweddol arall, meddai Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David Jones heddiw (6 Ionawr), wrth iddo gael ei gyhoeddi fod yr asesiad o adweithydd niwclear arloesol wedi symud ymlaen i鈥檙 cam nesaf.

Ar hyn o bryd cynigir Adweithydd D诺r Berw Uwch y DU (ABWR y DU) ar gyfer ei ddefnyddio yn Wylfa Newydd ar Ynys M么n ac Oldbury yn Swydd Gaerloyw. 惭补别鈥檙 broses yn rhan hanfodol o鈥檙 Asesiad Dyluniad Generig (GDA) sy鈥檔 mynd rhagddo ar hyn o bryd i sicrhau fod yr adweithydd yn cwrdd 芒 safonau diogelwch llym.

Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David Jones, wedi nodi fod y cyhoeddiad yn gam sylweddol ymlaen ar gyfer datblygiad Wylfa Newydd sydd i ddod yn ganolbwynt Ynys Ynni Ynys M么n.

Dywedodd Mr Jones:

Rwyf i鈥檔 bersonol yn ystyried datblygiad niwclear newydd yn Wylfa Newydd ac ymrwymiad y Llywodraeth hon i ddyfodol ar gyfer niwclear yn y DU yn bwysig iawn.

Fodd bynnag, mae鈥檔 gwbl gywir i ddyluniad arfaethedig unrhyw adweithydd i鈥檞 adeiladu yn y wlad hon fod yn destun asesiadau diogelwch llym dan arweiniad y rheoleiddwyr annibynnol. Rwy鈥檔 hynod falch i weld fod y broses hon yn symud ymlaen i ail gam yr asesiad.

Mae Hitachi-GE Nuclear Energy wedi nodi鈥檙 cyhoeddiad drwy lansio gwefan newydd yn benodol ar gyfer egluro technoleg yr adweithydd ac yn gwahodd sylwadau ar y dyluniad fel rhan o raglen ymgysylltu 芒鈥檙 cyhoedd a rhanddeiliaid.

惭补别鈥檙 cwmni mawr o Siapan eisoes wedi nodi ei ddull gweithredu cychwynnol o ran defnyddio cyflenwyr lleol a hyfforddi gweithwyr lleol, gan weithio gyda Horizon Nuclear Power i gyflawni gwaddol economaidd hirdymor yng Ngogledd Cymru.

Yn ystod ei daith fasnach i Asia ym Mawrth 2013, ymwelodd yr Ysgrifennydd Gwladol 芒 Hitachi City yn Tokyo i glywed sut yr oedd cynlluniau i adeiladu gorsafoedd newydd yn mynd rhagddynt.

Ymwelodd Mr Jones 芒 gorsaf niwclear Ohma sydd wrthi鈥檔 cael ei hadeiladu ar hyn o bryd. Yno, cyfarfu 芒鈥檙 perchnogion a鈥檙 gweithredwyr, J-Power a aeth ag ef ar daith o gwmpas y safle lle gwelodd drosto鈥檌 hun adweithydd d诺r berw uwch yn cael ei adeiladu.

Yn ystod yr ymweliad, manteisiodd Mr Jones ar y cyfle i drafod y cyfoeth o gyfleoedd a fyddai ar gael yn y gadwyn gyflenwi i gwmn茂au yn y DU yn ystod cyfnod adeiladu鈥檙 adweithyddion niwclear arfaethedig.

Ychwanegodd:

Mae gan Ynys M么n eisoes lawer o fanteision o ran adeiladu gorsaf niwclear newydd, yn nhermau sgiliau rhagorol gweithlu presennol Wylfa, a brwdfrydedd y prentisiaid ifanc yng Nghanolfan Ynni Coleg Menai yn Llangefni.

惭补别鈥檙 manteision all ddeillio i fusnesau lleol, a busnesau ledled Cymru, o fuddsoddiad Hitachi-GE yn y DU yn ddi-ben-draw. 惭补别鈥檙 cwmni eisoes wedi dweud ei fod disgwyl y bydd oddeutu 60% o鈥檙 gadwyn gyflenwi a fydd yn gysylltiedig ag adeiladu鈥檙 gorsafoedd niwclear yn gwmn茂au o鈥檙 DU.

Rhaid i fusnesau Cymreig yn awr fod yn barod i fanteisio ar y cyfleoedd gwych a gyflwynir gan Wylfa Newydd a defnyddio鈥檙 profiad y byddant yn ei ennill fel ffordd o gael mynediad at farchnadoedd eraill.

NODIADAU I OLYGYDDION

  • Disgwylir i fuddsoddiad Hitachi-GE mewn gorsaf niwclear newydd ddod 芒 rhwng 5,000 a 6,000 o swyddi adeiladu i Ogledd Cymru, yn ogystal 芒 hyd at 1,000 o gyfleoedd gwaith o ansawdd uchel, gyda chyflogau da, pan fydd y safle鈥檔 weithredol.

  • Ym mis Ionawr 2013, gofynnodd yr Adran Ynni a Newid Hinsawdd (DECC) i鈥檙 rheoleiddwyr niwclear gychwyn trafodaethau ffurfiol 芒 Hitachi-GE Nuclear Energy, Ltd., (Hitachi-GE) ynghylch Asesiad Dyluniad Generig (GDA) o Adweithydd D诺r Berwedig Uwch (ABWR) y DU.

  • Mae Asesiad Dyluniad Generig (GDA) yn cael ei gynnal ar yr Adweithydd D诺r Berw Uwch, y dyluniad mwyaf modern o adweithydd niwclear sydd ar hyn o bryd yn cael ei weithredu鈥檔 fasnachol yn unrhyw le yn y byd. Mae pedwar ABWR eisoes wedi鈥檜 hadeiladu yn Siapan, ac mae tri arall wrthi鈥檔 cael ei hadeiladu yn Siapan a Thaiwan.

  • Cynhelir y broses Asesiad Dyluniad Generig (GDA) ar y cyd gan y Swyddfa Rheoleiddio Niwclear (ONR) ac Asiantaeth yr Amgylchedd. Cwblheir y broses drwy gyhoeddi Cadarnhad o Dderbyn Dyluniad (DAC) a Datganiad o Dderbynioldeb y Dyluniad (SODA).

  • 惭补别鈥檙 yn rhoi trosolwg o ddyluniad yr adweithydd ac yn amlinellu rhai o鈥檌 nodweddion allweddol. 惭补别鈥檙 safle hefyd yn rhoi cyfle i gyflwyno sylwadau neu gwestiynau am ddyluniad yr adweithydd, neu ar y cyflwyniadau y mae Hitachi-GE wedi eu gwneud i鈥檙 rheoleiddwyr.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 6 Ionawr 2014