Llofnodi contract adeiladu Wrecsam
Disgwylir y bydd gwaith o adeiladu carchar newydd yng Ngogledd Cymru yn cael hwb ar 么l i'r contract i'w adeiladu gael ei lofnodi'n swyddogol.

llofnododd y Weinyddiaeth Gyfiawnder y contract gwerth 拢156.9m 芒 Lend Lease wrth i鈥檙 prosiect gyrraedd y garreg filltir allweddol ddiweddaraf.
Mae llofnodi鈥檙 contract yn golygu y gall y gwaith adeiladu ddechrau o ddifrif ar 么l misoedd o waith paratoi, a oedd yn cynnwys lefelu鈥檙 safle, codi ffens ddiogel o amgylch y ffin a chloddio鈥檙 sylfeini ar gyfer y bloc tai cyntaf.
Dywedodd Andrew Selous, y Gweinidog Carchardai:
Rwy鈥檔 falch iawn fod y contract wedi cael ei lofnodi nawr, i nodi dechrau鈥檙 gwaith adeiladu llawn yn Wrecsam.
Bydd y carchar o fudd mawr i鈥檙 yst芒d ac i Ogledd Cymru, a chredir y bydd y prosiect yn rhoi hwb o oddeutu 拢23m y flwyddyn i鈥檙 economi ranbarthol ac yn creu hyd at 1,000 o swyddi pan fydd y carchar ar waith.
Mae Lend Lease hefyd wedi ymrwymo i wario o leiaf 拢30m gyda busnesau lleol yn ystod y cyfnod adeiladu. Maen nhw wedi gwario 拢1.2m yn barod, felly maen nhw o flaen eu targed ar hyn o bryd.
Amcangyfrif o gost gyffredinol y prosiect yw 拢212m - sylweddol is na鈥檙 amcangyfrif gwreiddiol, sef 拢250m - ac mae鈥檔 cynnwys cost dylunio ac adeiladu o 拢156.9m
Bydd y carchar yn darparu oddeutu 2,100 lle Categori C i droseddwyr gwrywaidd o Ogledd Cymru a Gogledd Orllewin Cymru, gan gynnwys swyddogaeth remand fechan i wasanaethu llysoedd Gogledd Cymru. Bydd yn cynnwys llefydd ar gyfer addysg, 12 gweithdy mawr, a swyddogaethau ailsefydlu, yn helpu troseddwyr a fydd yn cael eu cadw dan glo yn nes at eu cartref i ailintegreiddio yn eu cymunedau ar 么l iddynt gael eu rhyddhau.
Dywedodd Gweinidog Swyddfa Cymru, Alun Cairns:
Mae鈥檙 ffaith fod y contract ar gyfer y carchar wedi鈥檌 lofnodi bellach a bod modd i鈥檙 gwaith adeiladu fynd rhagddo鈥檔 iawn, yn newyddion gwych i Wrecsam ac i Gymru.
Bydd y carchar yn rhoi hwb enfawr i economi Gogledd Cymru, drwy greu cannoedd o swyddi a chyfleoedd di-ri i fusnesau lleol yn Wrecsam a鈥檙 ardaloedd cyfagos.
Dyma enghraifft amlwg o ymrwymiad llywodraeth y DU i sicrhau bod gan Gymru seilwaith o鈥檙 radd flaenaf, ac mae鈥檔 rhan o鈥檔 cynllun hirdymor i adfer cydbwysedd yr economi. Mae angen economi gref ar wasanaethau cyhoeddus cryf.
Y mis diwethaf, cyhoeddwyd y byddai Gwasanaeth Carchardai EM yn rhedeg y carchar ac mae鈥檙 gwaith o recriwtio cyfarwyddwr y prosiect eisoes wedi dechrau. Bydd y cyfarwyddwr yn gweithio鈥檔 agos gyda Llywodraeth Cymru a鈥檙 bwrdd iechyd lleol i gytuno ar y ddarpariaeth addysg ac iechyd, cyn ymgymryd 芒鈥檙 r么l fel Llywodraethwr, wrth i鈥檙 carchar ddechrau derbyn carcharorion yn gynnar yn 2017.