Arweinwyr y byd yn mynd i giniawa yn adeiladau eiconig Cymru
Bydd gwesteion rhyngwladol yn mynd i giniawau gwaith yn adeiladau eiconig Cymru ar gyfer Uwchgynhadledd NATO yng Nghymru.

Cardiff Castle
Mae Castell Caerdydd a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru wedi cael eu dewis fel dau o鈥檙 lleoliadau ciniawa, yn ogystal 芒 Bae Caerdydd, lle bydd HMS Duncan, llong ddistryw math 45 ddiweddaraf y Llynges Frenhinol, wedi docio drwy gydol yr uwchgynhadledd.

Royal Welsh College of Music and Drama
Gyda鈥檌 gilydd ar ddydd Iau 4 Medi, byddant yn croesawu Penaethiaid Gwladwriaethau a Llywodraethau, Gweinidogion Tramor a Gweinidogion Amddiffyn o 28 o wledydd y Gynghrair.

HMS Duncan
Bydd yr uwchgynhadledd hefyd yn arddangos T欧 Tredegar, Casnewydd, lle bydd derbyniad ar gyfer cannoedd o gynrychiolwyr o鈥檙 cyfryngau rhyngwladol a fydd yn rhoi sylw i鈥檙 cyfarfod.

Tredegar House
Bydd bwyd a diod o Gymru鈥檔 cael eu gweini wrth i lywodraethau Cymru a鈥檙 DU fanteisio ar y cyfle i arddangos Cymru i鈥檙 byd.
Dywedodd Stephen Crabb, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
Yn Uwchgynhadledd NATO yng Nghasnewydd bydd y casgliad mwyaf o arweinwyr rhyngwladol ym Mhrydain erioed, ac mae hefyd yn gyfle heb ei ail i arddangos Cymru i鈥檙 byd.
Mae yma leoliadau hynod ysblennydd yng Nghymru. Rwy鈥檔 falch y bydd cynrychiolwyr o bob cwr o鈥檙 byd yn cael cyfle i fwynhau hanes cyfoethog a threftadaeth ddiwylliannol Cymru eu hunain, yn ogystal 芒 mwynhau ein lletygarwch a鈥檔 croeso cynnes traddodiadol.
Meddai Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones:
Rwy鈥檔 falch iawn y bydd rhai o adeiladau mwyaf trawiadol Casnewydd a Chaerdydd yn cael eu defnyddio i gyflwyno lletygarwch gorau Cymru yn ystod Uwchgynhadledd NATO. Mae鈥檙 cyhoeddiad hwn yn ychwanegu at y cyffro ynghylch y digwyddiad.
Bydd llygaid y byd ar Gymru, ac mae llawer iawn o waith yn cael ei wneud i sicrhau y bydd yr uwchgynhadledd yn rhedeg yn llyfn ac yn llwyddiannus, gyda Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn cydweithio鈥檔 agos i fanteisio i鈥檙 eithaf ar y cyfle unigryw hwn.
Mae鈥檙 ddwy lywodraeth wedi gweithio gyda heddlu Gwent a heddlu De Cymru i sicrhau y bydd y digwyddiadau hyn yn tarfu ar drigolion lleol cyn lleied 芒 phosib.
Rhagor o wybodaeth am Uwchgynhadledd NATO yng Nghymru 2014 neu dilynwch gyfrif Twitter swyddogol yr uwchgynhadledd @NATOWales
Llun T欧 Tredegar trwy law Russell Ede ar Flickr, defnyddiwyd trwy Creative Commons. Llun HMS Duncan trwy law Mark Harkin ar Flickr, defnyddiwyw trwy Creative Commons.