Cydweithio i wneud y gorau o fanteision Uwchgynhadledd NATO
David Jones a Carwyn Jones yn pwysleisio'r pwysigrwydd o gydweithio ar Uwchgynhadledd NATO.
Secretary of State David Jones MP and First Minister Carwyn Jones AM meet Welsh crew members aboard HMS Dragon
Mae Prif Weinidog, Carwyn Jones ac yr Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David Jones wedi pwysleisio pa mor bwysig yw hi i lywodraeth y DU a Chymru gydweithio ar Uwchgynhadledd NATO lwyddiannus yng Nghymru, a hynny yn ystod ymweliad ar y cyd 芒 llong ddistryw y Llynges Frenhinol, HMS Dragon.
Yn ystod y daith o amgylch y llong ryfel, sydd yng Nghaerdydd er mwyn rhoi Rhyddfraint y Ddinas i griw鈥檙 llong, tynnodd y Gweinidogion sylw at ba mor amserol y mae鈥檙 ymweliad o ran codi ymwybyddiaeth am Uwchgynhadledd NATO sydd ar y gorwel ym mis Medi.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Gwladol David Jones AS:
Yn Uwchgynhadledd NATO, bydd yr ymgynulliad mwyaf erioed o arweinwyr y byd yn y Deyrnas Unedig. Mae鈥檔 gyfle digynsail i Gymru ddisgleirio ar lefel fyd-eang. Mae gan fusnesau a sefydliadau academaidd Cymru gryfderau o ran gweithgynhyrchu, arloesi, gwyddorau bywyd, TG ac awyrofod, ac maen nhw鈥檔 dechrau mewn marchnadoedd newydd bob blwyddyn.
Mae potensial aruthrol yng Nghymru ar gyfer buddsoddiad a busnes, twristiaeth ac astudio. Bydd yr Uwchgynhadledd yn rhoi sylw rhyngwladol fel nas gwelwyd erioed o鈥檙 blaen i hyrwyddo鈥檙 potensial hwn, ac mae angen i ni wneud y gorau o hyn.
Dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones:
Uwchgynhadledd NATO yng Nghasnewydd fydd y digwyddiad rhyngwladol mwyaf erioed i鈥檞 gynnal yng Nghymru. Bydd cyfryngau鈥檙 byd yn hoelio鈥檜 sylw ar Gymru dros nifer o ddiwrnodau, gan roi鈥檙 fath o sylw byd-eang nad ydyn ni erioed wedi鈥檌 gael o鈥檙 blaen. Mae鈥檔 llywodraethau yn benderfynol o wneud y gorau o hyn. Rydyn ni鈥檔 gweithio gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig i roi lliw Cymreig penodol i鈥檙 Uwchgynhadledd a thargedu鈥檙 cannoedd o newyddiadurwyr a fydd yn dod i Gymru ym mis Medi.
Yn ystod yr ymweliad heddiw 芒鈥檙 Llong Ddistryw Math-45, un o longau rhyfel mwyaf modern y Llynges Frenhinol, tywyswyd y Gweinidogion gan y Capten Rex Cox a chyfarfu鈥檙 ddau ag aelodau o鈥檙 criw o Gymru.
Ychwanegodd y Prif Weinidog:
Mae ymweliad HMS Dragon 芒 Chaerdydd yn atgyfnerthu鈥檙 cysylltiadau cryf rhwng pobl Cymru a鈥檔 Lluoedd Arfog. Mae porthladdoedd Cymru yn croesawu llongau鈥檙 llynges yn rheolaidd. Mae HMS Pembroke ar ymweliad 芒 Phenfro ar hyn o bryd, tref sy鈥檔 bodoli diolch i鈥檙 Llynges Frenhinol, i helpu i ddathlu ei daucanmlwyddiant.
Cynhelir Uwchgynhadledd NATO ar 4 a 5 Medi 2014 yng Ngwesty鈥檙 Celtic Manor, ac mae Llywodraeth y DU wrthi鈥檔 ei threfnu ar ran NATO.