Gweithwyr Cymru i elwa ar fynediad ar-lein i wybodaeth am bensiynau
Lansio dangosfwrdd pensiynau newydd gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig yn ystod ymweliad 芒 ffatri basteiod Peter鈥檚 ym Medwas heddiw

- Bydd cynilwyr ledled Cymru yn gallu cael gafael ar wybodaeth am bensiynau ar ff么n clyfar neu gyfrifiadur tabled
- Bydd y cynlluniau yn cynorthwyo鈥檙 diwydiant i ddarparu gwasanaethau am ddim sy鈥檔 hawdd eu defnyddio
Bydd dangosfyrddau pensiynau newydd yn cynnig mynediad i bobl at eu gwybodaeth o bensiynau lluosog ar adeg o鈥檜 dewis, cyhoeddodd Amber Rudd, yr Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau, yn ystod ymweliad 芒 Gwasanaeth Bwyd Peter鈥檚 ym Medwas heddiw (4 Ebrill).
Mae Peter鈥檚, sy鈥檔 enwog am ei basteiod, yn un o gyflogwyr cynhyrchu bwyd mwyaf Cymru. Mae ganddo bron i 700 o weithwyr, a bydd dros 100 ohonynt yn cyrraedd oedran pensiwn yn y degawd nesaf.
Bydd y dangosfyrddau pensiwn yn galluogi pawb yng Nghymru sydd 芒 phensiwn i weld yr holl ffeithiau a ffigurau am eu cronfeydd pensiwn ac incwm ymddeol posibl mewn un lle - ar ffonau clyfar, cyfrifiaduron tabled a chyfrifiaduron.
Dywedodd Amber Rudd, yr Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau:
Gyda鈥檙 niferoedd uchaf erioed yn cynilo ar gyfer ymddeol o ganlyniad i鈥檔 diwygiadau chwyldroadol, mae鈥檔 bwysicach nag erioed bod pobl yn deall eu pensiynau ac yn paratoi ar gyfer diogelwch ariannol yn ddiweddarach mewn bywyd.
Mae gan ddangosfyrddau y potensial i drawsnewid y ffordd rydym i gyd yn ystyried ac yn cynllunio ar gyfer ymddeol, gan ddarparu gwybodaeth glir a syml am gynilion pensiwn mewn un lle ar-lein. Rwy鈥檔 edrych ymlaen at weld dangosfyrddau cyntaf y diwydiant yn ddiweddarach eleni.
Bydd Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns, yn cadw cwmni i Ms Rudd ar yr ymweliad, lle byddant yn cwrdd 芒 rhai o staff Peter鈥檚 a fydd yn elwa yn sgil y cyhoeddiad. Mae鈥檙 cwmni, sydd wedi ei leoli yng Nghaerffili ers bron i hanner canrif, yn gwneud pasteiod, bwydydd crwst a rholiau sy鈥檔 cael eu gwerthu i archfarchnadoedd a chwsmeriaid gwasanaethau bwyd ledled y wlad.
Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
Y dyddiau hyn gallwch weld y rhan fwyaf o鈥檆h gwybodaeth ariannol ar-lein, ac ni ddylai eich cronfeydd pensiwn fod yn eithriad yn hynny o beth.
Mae bron i 300,000 yn rhagor o bobl ledled Cymru yn cynilo drwy bensiwn yn y gweithle erbyn hyn diolch i gofrestru awtomatig, felly ni fu erioed amser gwell i helpu pobl i wneud penderfyniadau gwybodus am eu dewisiadau cynilo drwy ddarparu gwybodaeth syml wrth bwyso botwm.
Dywedodd Mike Grimwood, Rheolwr Gyfarwyddwr Gwasanaeth Bwyd Peter鈥檚:
Fel un o frandiau mwyaf eiconig a phoblogaidd Cymru, rydym yn croesawu鈥檙 cyfle i arddangos ein cynnyrch yn ogystal 芒鈥檔 staff ymroddedig sy鈥檔 eu cynhyrchu a鈥檜 darparu.
Mae Peter鈥檚 yn cyflogi ei holl staff yn uniongyrchol, sy鈥檔 anarferol i鈥檔 sector, ac rydym yn falch o鈥檙 ymrwymiad y mae pawb yn ei roi i鈥檙 busnes. Mae鈥檔 hanfodol bod pawb yn cynllunio ar gyfer eu dyfodol ac mae unrhyw beth sy鈥檔 helpu unigolion i ddeall a chynllunio eu pensiynau ymddeol yn hynod bwysig, pa un ai pensiynau a ddarparwn ydynt ynteu gynlluniau eraill.
DIWEDD
Nodiadau i olygyddion:
- Yng Nghymru mae 787,000 o dderbynwyr pensiwn preifat, sy鈥檔 511,000 o gynnydd ers 2012.
Mae manylion allweddol cynlluniau Llywodraeth y Deyrnas Unedig, a gyhoeddwyd heddiw yn ei hymateb i ymgynghoriad ar ddangosfyrddau, yn cynnwys:
- Ymrwymiad i gyflwyno deddfwriaeth ar y cyfle cyntaf i orfodi pob darparwr pensiynau i sicrhau bod data defnyddwyr ar gael iddynt drwy ddangosfwrdd;
- Disgwyliad y bydd mwyafrif y cynlluniau yn barod i 鈥榝ynd yn fyw鈥� gyda鈥檜 data o fewn ffenestr o dair i bedair blynedd;
- Cadarnhad y bydd gwybodaeth am Bensiwn y Wladwriaeth yn cael ei chynnwys cyn gynted 芒 phosibl;
- Bydd dangosfyrddau yn helpu i ailgysylltu pobl 芒 chronfeydd pensiwn 鈥榗oll鈥�, sydd o fudd i gynilwyr a darparwyr.