Merched Cymru yn arwain y ffordd wrth i gyflogaeth fod ar ei uchaf erioed bron
Mae cyflogaeth yng Nghymru wedi cyrraedd y lefelau uchaf bron gyda chynnydd yn nifer y merched sy鈥檔 gweithio.

Labour Market Statistics
Daeth y tueddiad i鈥檙 amlwg yn ystadegau diwethaf y Farchnad Lafur ar gyfer Cymru yn ymwneud 芒 Mawrth i Fai 2015. Yn 么l y ffigyrau a gyhoeddwyd bore heddiw (Mercher, Gorffennaf 15):
- Y nifer uchaf erioed o ferched yn gweithio yng Nghymru, gyda lefelau cyflogaeth wedi cynyddu 18,000 yn ystod y chwarter diwethaf.
- Y lefelau uchaf erioed bron o gyflogaeth yng Nghymru - wedi cynyddu 36,000 dros y flwyddyn ddiwethaf ac 19,000 yn y chwarter diwethaf yn unig.
- Gwelodd Gymru y cynnydd mwyaf yn y gyfradd gyflogaeth ymhlith unrhyw un o genhedloedd neu ranbarthau鈥檙 DU dros y flwyddyn a thros y chwarter.
- Fe wnaeth anweithgarwch economaidd yng Nghymru ostwng mwy nag yn unrhyw un o genhedloedd neu ranbarthau鈥檙 DU - 26,000 yn is dros y chwarter a 34,000 yn is dros y flwyddyn.
- Roedd nifer y bobl ifanc yn hawlio Lwfans Ceisio Gwaith 500 yn is ym Mehefin, a 4,400 yn is dros y flwyddyn.
Dywedodd Stephen Crabb, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
Ddiwrnod yn unig ar 么l i鈥檙 Prif Weinidog addo cau鈥檙 blwch cyflog rhwng dynion a merched, mae鈥檔 wych gweld merched Cymru yn arwain y ffordd yn 么l i鈥檙 gweithle.
Mae鈥檙 niferoedd uchaf erioed bron mewn gwaith yng Nghymru erbyn hyn, gyda鈥檙 cynnydd yn ein cyfradd gyflogaeth yn well nag yn Llundain, yr Alban a De-ddwyrain Lloegr. Wrth i鈥檙 adferiad ledu drwy Gymru, rydym yn torri鈥檙 cylchoedd dibyniaeth ac yn sicrhau bod gwaith yn talu.
Mae Cymru wedi gweld y gostyngiad mwyaf mewn anweithgarwch economaidd yn unrhyw le yn y DU wrth i bobl symud draw oddi wrth ddibyniaeth tuag at chwilio am waith. Mae鈥檙 cynnydd yn y gyfradd ddiweithdra yn adlewyrchu鈥檙 ffaith fod mwy o bobl nawr yn cymryd eu cam cyntaf yn 么l i鈥檙 gweithle drwy fynd ati i chwilio am waith.