Cyhoeddi enillwyr Cymreig Gwobr y Frenhines am Wasanaeth Gwirfoddol 2020
Mae pedwar sefydliad yng Nghymru wedi derbyn y wobr eleni

Mae pedwar sefydliad o Gymru wedi ennill Gwobr fawreddog y Frenhines am Wasanaeth Gwirfoddol eleni.
Mae Roots Foundation Wales, Llyfrgell Gymunedol Cymer Afan, Hands Around the World a Chymdeithas Camlesi Abertawe wedi derbyn y wobr uchaf i sefydliadau sy鈥檔 darparu gwasanaeth eithriadol o fewn eu cymunedau.
Yn ystod Wythnos y Gwirfoddolwyr (1-7 Mehefin), mae Gwobr y Frenhines am Wasanaeth Gwirfoddol eleni yn dathlu gwaith ystod eang a gwych o grwpiau gwirfoddol sydd wedi gwella a chefnogi cymunedau lleol dros nifer o flynyddoedd.
Mae Gwobr y Frenhines yn cynnig cyfle i amlygu eu cyfraniad eithriadol i gymdeithas a hefyd i gydnabod y r么l hollbwysig y mae llawer wedi鈥檌 chwarae i gefnogi pobl sy鈥檔 agored i niwed yn ystod y pandemig.
Mae鈥檙 derbynwyr eleni yn dangos yr amrywiaeth o sefydliadau sy鈥檔 cefnogi ein cymunedau a hefyd eu gallu i arloesi 鈥� mae llawer wedi gallu addasu eu gwasanaethau o ganlyniad i achos y coronafeirws.
Pan gaeodd y banc bwyd lleol yng Nghastell-nedd Port Talbot am fod eu gwirfoddolwyr yn hunan-ynysu, penderfynodd Llyfrgell Gymunedol Cymer Afan ail-drefnu eu hadeilad, eu staff a鈥檜 gwirfoddolwyr yn gyflym a thrawsnewid y Llyfrgell yn fanc bwyd dros dro i鈥檙 gymuned.
Dywedodd Cadeirydd Pwyllgor Annibynnol Gwobr y Frenhines ar gyfer Gwasanaeth Gwirfoddol, Syr Martyn Lewis:
Mae Gwobrau鈥檙 Frenhines eleni yn tynnu sylw at lwyddiannau sylweddol grwpiau o wirfoddolwyr sydd wedi bod yn cael effaith wirioneddol ar adeiladwaith ein gwlad am flynyddoedd lawer 鈥� mewn rhai achosion, am ddegawdau. Wedi鈥檌 hysbrydoli gan bopeth sydd orau am yr ysbryd dynol, maent yn cynnwys pobl leol sydd wedi dod at ei gilydd i fynd i鈥檙 afael 芒 materion a phroblemau penodol sy鈥檔 wynebu eu cymunedau - yn aml mewn ffyrdd newydd a dychmygus.
Mae pob un o enillwyr y gwobrau hyn wedi dangos ymrwymiad hirdymor i wirfoddoli sy鈥檔 rhoi gwir ystyr i gymdeithas, ac sy鈥檔 dangos Prydain ar ei gorau. Ar ben hynny, mae rhai ohonynt hefyd wedi llwyddo i ddarparu cymorth gwerthfawr gyda鈥檙 frwydr yn erbyn Covid-19. Rydym yn ddyledus iddynt 鈥� ac yn eu llongyfarch.
Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Simon Hart:
Mae鈥檙 gwobrau hyn yn cydnabod yr oriau o waith caled mae gwirfoddolwyr a sefydliadau ledled y DU yn gwneud i wasanaethu eu cymunedau a chreu ymdeimlad o falchder lleol. Nid yw鈥檙 derbynwyr o Gymru eleni yn eithriad, ac yn y pandemig byd-eang presennol mae eu gwaith yn eu cymunedau yn fwy gwerthfawr nag erioed.
Llongyfarchiadau i鈥檙 pedwar derbynwyr o Gymru sydd i gyd yn llwyr haeddu鈥檙 wobr hon am y r么l gadarnhaol y maent yn ei chwarae mewn cymdeithas.
Dywedodd y Farwnes Barran, y Gweinidog dros Gymdeithas Sifil:
Mae鈥檙 wobr fawreddog hon yn cydnabod y gwaith pwysig sy鈥檔 cael ei wneud gan wirfoddolwyr ledled y wlad a hoffwn longyfarch yr holl enillwyr am eu gwaith caled a鈥檜 hymroddiad yn cefnogi eu cymunedau.
Elusennau, mentrau cymdeithasol a鈥檜 gwirfoddolwyr yw calon ein cymunedau. Yn y cyfnod heriol hwn, maent wedi dwys谩u eu hymateb ac wedi bod yn hanfodol i鈥檙 ymdrech genedlaethol, ac rydym i gyd yn ddiolchgar am hynny.
Meddai Bob Chapman, Ysgrifennydd yr Ymddiriedolwyr yn llyfrgell gymunedol Cymer Afan:
Mae鈥檔 wych i ennill y wobr hon i gydnabod y cyfraniad y mae ein gwirfoddolwyr yn ei wneud i鈥檔 cymuned leol 鈥� rydym i gyd wrth ein boddau! Mae hwn yn ardal dan anfantais sylweddol ac rydym i gyd yn gweithio鈥檔 ddiflino i roi cyfleoedd i bobl na fyddent ar gael fel arall yma.
Cyhoeddir y rhai sy鈥檔 derbyn Gwobr y Frenhines am Wasanaeth Gwirfoddol bob blwyddyn ar 2 Mehefin, sef pen-blwydd coroni鈥檙 Frenhines.
Gellir enwebu unrhyw gr诺p dan arweiniad gwirfoddolwyr sy鈥檔 cynnwys dau neu fwy o bobl sy鈥檔 cael effaith gadarnhaol ar fywydau pobl eraill mewn ffordd eithriadol i gael gwobr. Mae鈥檔 rhaid i gr诺p fodloni鈥檙 gofynion cymhwystra cyn y gellir prosesu鈥檙 enwebiad hyd at gamau asesu鈥檙 dyfarniad. Gellir cael mwy o fanylion ar wefan Gwobr y Frenhines am Wasanaeth Gwirfoddol.
Y dyddiad cau am enwebiadau ar gyfer y gwobrau yn 2021 yw 25 Medi 2020.