Datganiad i'r wasg

Llywodraeth y Deyrnas Unedig a Tata Steel yn sicrhau dyfodol i鈥檙 sector dur yng Nghymru drwy gyhoeddi cynllun trawsnewid gwyrdd ym Mhort Talbot

Mae Llywodraeth y DU a Tata Steel yn cytuno ar becyn buddsoddi ar y cyd i sicrhau dyfodol cynaliadwy ar gyfer cynhyrchu dur ym Mhort Talbot.

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2022 to 2024 Sunak Conservative government
  • Mae Llywodraeth y Deyrnas wedi cytuno ar gynnig gyda Tata Steel i fuddsoddi mewn dulliau mwy gwyrdd o gynhyrchu dur ym Mhort Talbot, gan ddiogelu dyfodol cynhyrchu dur a swyddi medrus yng Nghymru.
  • Byddai buddsoddiad trawsnewidiol 鈥� gan gynnwys un o becynnau cymorth mwyaf Llywodraeth y Deyrnas Unedig erioed 鈥� mewn Ffwrnais Arc Trydan o鈥檙 radd flaenaf yn moderneiddio鈥檙 dull o gynhyrchu dur, ac yn lleihau allyriadau carbon y Deyrnas Unedig tua 1.5%.
  • Heb fuddsoddiad sylweddol, byddai Port Talbot dan fygythiad difrifol, a byddai swyddi鈥檙 8,000 o bobl sy鈥檔 cael eu cyflogi gan Tata Steel yn y Deyrnas Unedig mewn perygl.
  • Bydd buddsoddiad sylweddol, ochr yn ochr 芒鈥檙 Porthladd Rhydd Celtaidd, yn sbarduno twf gwyrdd tymor hir ac yn creu swyddi medrus yn economi de Cymru a鈥檙 Deyrnas Unedig.

Heddiw (15 Medi), mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig a Tata Steel wedi cytuno ar becyn buddsoddi arfaethedig ar y cyd. Bydd y buddsoddiad hwn yn sicrhau dyfodol cynaliadwy ar gyfer cynhyrchu dur ym Mhort Talbot, yn moderneiddio鈥檙 dulliau o gynhyrchu dur i鈥檞 gwneud yn fwy gwyrdd, ac yn diogelu swyddi medrus 鈥� yn amodol ar ymgynghoriad a chymeradwyaeth reoleiddiol.

Mae disgwyl i Tata Steel ddefnyddio 拢1.25 biliwn, gan gynnwys grant sy鈥檔 werth hyd at 拢500 miliwn gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig 鈥� un o becynnau cymorth mwyaf y llywodraeth erioed 鈥� i fuddsoddi mewn Ffwrnais Arc Trydan newydd a fydd yn cynnig dull mwy gwyrdd o gynhyrchu dur yng ngwaith dur Port Talbot, sef yr allyrrwr carbon mwyaf yn y Deyrnas Unedig ar hyn o bryd.

Byddai鈥檙 ffwrnais hon yn cymryd lle鈥檙 ffwrneisi chwyth presennol sy鈥檔 cael eu pweru gan lo 鈥� sy鈥檔 nes谩u at ddiwedd eu hoes 鈥� a byddai鈥檔 lleihau allyriadau carbon y Deyrnas Unedig tua 1.5%.

Mae Tata Steel UK yn cyflogi dros 8,000 o bobl, gan gynnwys yng ngwaith dur Port Talbot, a fyddai o dan fygythiad difrifol oni bai am fuddsoddiad sylweddol i warantu ei ddyfodol. Mae Tata Steel hefyd yn cefnogi tua 12,500 o swyddi eraill yn y gadwyn gyflenwi.

Diolch i ymyrraeth Llywodraeth y Deyrnas Unedig, disgwylir y bydd y cynnig a gyhoeddwyd heddiw 鈥� sy鈥檔 parhau i fod yn destun prosesau gwybodaeth ac ymgynghori dan arweiniad Tata Steel 鈥� yn diogelu dros 5,000 o swyddi ledled y Deyrnas Unedig.

Byddai Llywodraeth y Deyrnas Unedig hefyd yn sicrhau ystod eang o gefnogaeth i unrhyw staff y mae鈥檙 newid yn effeithio arnynt, gan weithio gyda Llywodraeth Cymru a Tata Steel i sefydlu bwrdd pontio pwrpasol i gefnogi gweithwyr a鈥檙 economi leol gyda hyd at 拢100m o gyllid.

Dywedodd Kemi Badenoch, yr Ysgrifennydd Busnes a Masnach:

Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cefnogi ein sector dur, a bydd y cynnig hwn yn sicrhau dyfodol cynaliadwy i ddur Cymru, ac yn diogelu miloedd o swyddi yn y tymor hir.

Mae hwn yn becyn cymorth hanesyddol iawn gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, a bydd yn diogelu swyddi medrus yng Nghymru, ac yn datblygu economi鈥檙 Deyrnas Unedig, yn hybu twf, ac yn helpu i sicrhau diwydiant dur llwyddiannus.

Dywedodd Canghellor y Trysorlys, Jeremy Hunt:

Mae鈥檙 cynnig hwn yn garreg filltir bwysig ar gyfer y sector cynhyrchu dur yn y Deyrnas Unedig 鈥� gan gefnogi twf economaidd cynaliadwy, lleihau allyriadau, a chreu swyddi gwyrdd.

Rydyn ni鈥檔 barod i gamu i mewn i ddiogelu鈥檙 diwydiant gweithgynhyrchu pwysig hwn, ac i gefnogi hwb twf gwyrdd yn ne Cymru.

Mae鈥檙 cynnig pwysig a gyhoeddwyd heddiw yn ychwanegu at fuddsoddiadau mawr eraill a wnaed gan Tata Group mewn technoleg werdd yn y Deyrnas Unedig, gan gynnwys y cyhoeddiad ym mis Gorffennaf am y gigaffatri batri gwerth 拢4 biliwn a fydd yn creu 4,000 o swyddi, ac mae鈥檔 arwydd o ffydd mawr yn y Deyrnas Unedig.

Ochr yn ochr 芒 chynnig Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar gyfer y Porthladd Rhydd Celtaidd 鈥� y mae disgwyl iddo greu 16,000 i swyddi 鈥� a鈥檙 tir ym Mhort Talbot y mae Tata yn disgwyl ei ryddhau i鈥檞 drosglwyddo neu ei werthu yn dilyn y trawsnewidiad o ffwrneisi chwyth, gallai鈥檙 buddsoddiad hwn helpu i greu miloedd o swyddi newydd a rhoi hwb i economi de Cymru a鈥檙 Deyrnas Unedig yn ehangach.

Yn amodol ar brosesau ymgynghori Tata Steel, mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn amcangyfrif y bydd y pecyn cymorth hefyd yn diogelu miloedd o swyddi yng nghadwyn gyflenwi dur y Deyrnas Unedig.

Dywedodd David TC Davies, Ysgrifennydd Cymru:

Mae gwaith dur yn dal i chwarae rhan annatod yn economi Cymru, ac mae鈥檙 pecyn cymorth enfawr hwn gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig yn sicrhau bod gan y diwydiant ddyfodol disglair i gyd-fynd 芒鈥檌 hanes hir a balch yn ne Cymru.

Rydyn ni鈥檔 buddsoddi yn ein diwydiant dur wrth iddo wneud y trawsnewid angenrheidiol i ddulliau cynhyrchu mwy gwyrdd, ac rydyn ni hefyd yn rhoi cymorth ar waith i鈥檙 gweithwyr lleol y mae鈥檙 newidiadau鈥檔 effeithio arnyn nhw.

Dywedodd N Chandrasekaran, Cadeirydd Gr诺p Tata:

Mae鈥檙 cytundeb hwn 芒 Llywodraeth y Deyrnas yn foment dyngedfennol i ddyfodol y Diwydiant Dur ac, yn wir, i鈥檙 gadwyn gwerth ddiwydiannol yn y Deyrnas Unedig. Mae wedi bod yn bleser gweithio gyda Llywodraeth Ei Fawrhydi a鈥檙 Prif Weinidog, Rishi Sunak, i ddatblygu鈥檙 llwybr trawsnewid arfaethedig ar gyfer cynhyrchu dur yn gynaliadwy yn y Deyrnas Unedig.

Bydd y buddsoddiad arfaethedig yn diogelu cyflogaeth sylweddol ac yn gyfle gwych i ddatblygu ecosystem ddiwydiannol sy鈥檔 seiliedig ar dechnoleg werdd yn ne Cymru. Rydyn ni鈥檔 edrych ymlaen at weithio gyda鈥檔 rhanddeiliaid ar y cynigion hyn mewn ffordd gyfrifol.

Mae disgwyl i鈥檙 trawsnewidiad i ddull cynaliadwy o gynhyrchu dur ym Mhort Talbot hefyd arwain at 7% yn llai o allyriadau carbon gan yr holl ddiwydiannau a busnesau yn y Deyrnas Unedig, 22% yn llai o allyriadau yng Nghymru, ac 85% yn llai o allyriadau ar y safle ym Mhort Talbot.

Nodiadau i olygyddion

  • Mae Ffwrnais Arc Trydan yn cynhyrchu dur drwy ddefnyddio cerrynt trydanol i doddi dur neu haearn, tra bod ffwrneisi chwyth yn defnyddio golosg, sef tanwydd carbon-ddwys sydd wedi鈥檌 wneud o lo.
  • Yn dilyn y cyhoeddiad hwn, bydd Tata Steel UK yn hysbysu ac yn ymgynghori 芒 staff ac undebau ynghylch eu cynigion.
  • Bydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cynnig cefnogaeth i unrhyw weithwyr y mae鈥檙 cynigion hyn yn effeithio arnynt 鈥� gan gynnwys Credyd Cynhwysol, a鈥檙 Ganolfan Byd Gwaith drwy Wasanaeth Ymateb Cyflym yr Adran Gwaith a Phensiynau, yn ogystal 芒 gwasanaethau sgiliau ac ailhyfforddi fel rhaglen ReAct Llywodraeth Cymru.
  • Bydd y buddsoddiad hwn yn talu am Ffwrnais Arc Trydan newydd, a chyfleusterau cysylltiedig.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 15 Medi 2023
Diweddarwyd ddiwethaf ar 19 Medi 2023 show all updates
  1. Welsh translation now available.

  2. First published.