Tirwedd Llechi Cymru wedi cael ei henwebu ar gyfer statws Treftadaeth y Byd UNESCO
Mae Tirwedd Llechi Gogledd-orllewin Cymru wedi cael ei henwebu ar gyfer Statws Treftadaeth y Byd UNESCO

Slate Landscape of North West Wales has been nominated for UNESCO World Heritage Status
- Os bydd yn llwyddiannus, ardal y tirwedd llechi fydd y trydydd safle ar ddeg ar hugain o Safleoedd Treftadaeth y Byd UNESCO yn y DU
- Byddai鈥檔 ymuno 芒鈥檙 rhestr fyd-eang llawn bri, sy鈥檔 cynnwys y Grand Canyon, Dinas y Fatican, Mur Mawr Tsieina a Machu Picchu
Gallai Tirwedd Cloddio Llechi Gogledd-orllewin Cymru fod yn Safle Treftadaeth y Byd nesaf y DU, cyhoeddodd y Gweinidog Treftadaeth, Helen Whately, heddiw wrth iddi gyflwyno鈥檙 enwebiad ffurfiol i UNESCO.
Os bydd yr enwebiad yn cael ei dderbyn, y tirwedd fydd y trydydd safle ar ddeg ar hugain o Safleoedd Treftadaeth y Byd UNESCO yn y DU, a鈥檙 pedwerydd yng Nghymru. Y safleoedd eraill yng Nghymru yw Traphont Dd诺r Pontcysyllte, Tirwedd Ddiwydiannol Blaenafon a Chestyll a Muriau Trefi Edward I yng Ngwynedd.
Roedd y tirwedd hon - sy鈥檔 ymestyn drwy sir Gwynedd yng Nghymru - yn arwain y gad o ran cynhyrchu ac allforio llechi yn ystod y ddeunawfed ganrif. Roedd llechi wedi cael eu cloddio yng ngogledd Cymru am dros 1,800 o flynyddoedd ac wedi cael eu defnyddio i adeiladu rhan o gaer Rufeinig Segontiwm yng Nghaernarfon a chastell Edward I yng Nghonwy. Fodd bynnag, dim ond yn ystod y Chwyldro Diwydiannol y gwelwyd cynnydd yn y galw wrth i ddinasoedd ledled y DU ddatblygu, gyda llechi鈥檔 cael eu defnyddio鈥檔 aml ar doeau ffatr茂oedd a chartrefi gweithwyr.
Erbyn y 1890au, roedd y diwydiant llechi鈥檔 cyflogi tua 17,000 ac yn cynhyrchu 485,000 tunnell o lechi y flwyddyn. Cafodd y diwydiant effaith enfawr ar bensaern茂aeth fyd-eang. Roedd llechi o Gymru yn cael eu defnyddio ar nifer o adeiladau, terasau a phalasau ar draws y byd, gan gynnwys Neuadd San Steffan, yr Adeilad Arddangos Brenhinol, Melbourne, Awstralia a Neuadd y Ddinas Copenhagen, Denmarc.
Dywedodd Gweinidog Treftadaeth y DU, Helen Whately:
Mae鈥檙 tirwedd lechi anhygoel yn arwyddocaol iawn i Ogledd-orllewin Cymru a鈥檌 threftadaeth ddiwydiannol. Mae鈥檙 ardal yn cael ei disgrifio fel rhywle sydd wedi 鈥榯oi byd y bedwaredd ganrif ar bymtheg鈥� ac mae llechi o鈥檙 chwareli鈥檔 dal i gael dylanwad ar bensaern茂aeth y byd.
Mae鈥檙 enwebiad hwn yn ffordd wych o gydnabod pwysigrwydd treftadaeth chwareli llechi Cymru, a bydd yn arwain at fanteision nid yn unig i Wynedd ond i Ogledd Cymru gyfan, drwy ddenu ymwelwyr, hybu buddsoddiad a chreu swyddi.
Yn ogystal 芒鈥檙 galw rhyngwladol am lechi o Gymru, rhwng 1780 a 1940 roedd yr ardal yn gartref i nifer o ddatblygiadau cynhenid mewn prosesu cerrig a chwarela a thechnoleg rheilffyrdd ar gyfer ardaloedd mynyddig.
Erbyn heddiw, mae鈥檙 tirwedd wedi cael ei thrawsnewid ar raddfa aruthrol oherwydd y cannoedd o flynyddoedd o gloddio yn yr ardal. Mae鈥檙 enwebiad i UNESCO yn adlewyrchu hyn ac arwyddoc芒d rhyngwladol llechi Cymru o ran 鈥榯oi byd y bedwaredd ganrif ar bymtheg鈥�.
Mae Tirwedd Llechi Gogledd-orllewin Cymru wedi cael ei chyflwyno鈥檔 ffurfiol i UNESCO erbyn hyn fel enwebiad nesaf y DU ar gyfer Rhestr Treftadaeth y Byd yr Adran dros faterion Digidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon ar y cyd 芒 Llywodraeth Cymru a Chyngor Gwynedd.
Bydd y Cyngor Rhyngwladol ar Henebion a Safleoedd nawr yn ystyried y safle dros y flwyddyn nesaf, cyn bydd y safle鈥檔 cael ei ystyried yng nghyfarfod y Pwyllgor Treftadaeth yn 2021. Rhagwelir y bydd penderfyniad yn cael ei wneud ynghylch statws Tirwedd Llechi Cymru yn ystod cyfarfod Pwyllgor Treftadaeth y Byd UNESCO yn 2021.
Dywedodd Gweinidog Llywodraeth y DU dros Gymru, David TC Davies:
Mae tirwedd trawiadol arall yng Nghymru wedi cael ei henwebu鈥檔 ffurfiol i鈥檞 chynnwys ar restr o rai o ryfeddodau鈥檙 byd - anrhydedd haeddiannol iawn, ac un sy鈥檔 cydnabod y r么l sylweddol y mae鈥檙 rhanbarth hwn wedi鈥檌 chwarae yn y diwydiant llechi yn y DU a ledled y byd yn ein gorffennol diwydiannol.
Heddiw, bydd yr enwebiad yn rhoi hwb arall i鈥檙 diwydiant twristiaeth ac yn ysgogi rhagor o fuddsoddi ar draws Gogledd-orllewin Cymru.
Dywedodd Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth Llywodraeth Cymru, yr Arglwydd Elis-Thomas:
Rydyn ni wrth ein bodd fod Tirwedd Llechi Gogledd Cymru鈥檔 cael ei chyflwyno fel enwebiad nesaf y DU ar gyfer Safle Treftadaeth y Byd. Mae gan Gymru dreftadaeth ddiwydiannol unigryw ac amrywiol sy鈥檔 haeddu cael ei dathlu.
Mae鈥檙 enwebiad hwn yn rhoi rhagor o gydnabyddiaeth i鈥檙 tirwedd eithriadol hon - sydd wedi鈥檌 gwreiddio yn ein daeareg a鈥檔 diwylliant ni, ond sy鈥檔 arwyddocaol yn fyd-eang. Hoffwn ddiolch i鈥檙 holl bartneriaid am eu gwaith caled yn paratoi鈥檙 cais, a hoffwn ddymuno鈥檔 dda i鈥檙 cais wrth iddo gael ei gyflwyno鈥檔 ffurfiol.
Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros Ddatblygu鈥檙 Economi, y Cynghorydd Gareth Thomas:
Rwy鈥檔 credu y bydd y rhan fwyaf o bobl yn cytuno bod angen mwy o ddealltwriaeth o arwyddoc芒d diwydiant llechi Cymru a鈥檌 r么l nid yn unig o ran ffurfio ein cymunedau, ein hiaith a鈥檔 diwylliant, ond hefyd o ran toi鈥檙 byd ac allforio technolegau a phobl yn fyd-eang. Mae鈥檙 cam pwysig hwn yn y broses yn newyddion da wrth i ni gyflwyno ein henwebiad i UNESCO.
Mae鈥檙 cais yn ein helpu ni i ddathlu a chydnabod ein diwylliant, ein treftadaeth a鈥檔 hiaith unigryw, a bydd hefyd yn agor y drws i gyfleoedd adfywio鈥檙 economi ledled yr ardal, gan gynnwys y diwydiant chwarela presennol, sgiliau traddodiadol a chrefft ynghyd 芒 cheisio creu twristiaeth gynaliadwy a chyfleoedd gwaith gwerth uchel yng Ngwynedd.
Nodiadau i olygyddion
Yr Adran dros faterion Digidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon sy鈥檔 gyfrifol am fodloni gofynion Confensiwn Treftadaeth y Byd yn y DU. Mae hyn yn cynnwys cynnal ac adolygu鈥檙 Rhestr Amodol o safleoedd, enwebu safleoedd newydd yn ffurfiol a sicrhau bod safleoedd presennol yn cael eu cadw, eu gwarchod ac yn rhan o fywyd y gymuned.
Tirwedd Ddiwydiannol Blaenafon, cestyll a muriau trefi鈥檙 drydedd ganrif ar ddeg a adeiladwyd gan y Brenin Edward I yng Ngwynedd a Thraphont Dd诺r Pontcysyllte yw Safleoedd Treftadaeth y Byd UNESCO eraill yng Nghymru.
Bydd Dinas Caerfaddon, a gafodd ei chynnwys ar restr Treftadaeth y Byd yn 1987 yn wreiddiol, yn cael ei hystyried ar gyfer dynodiad deuol yn ystod haf 2020, fel rhan o enwebiad trawswladol ar gyfer Trefi Ffynhonnau Ewrop, ynghyd ag un ar ddeg o drefi ffynhonnau eraill yn Ewrop.
Dyma Safleoedd Treftadaeth Byd UNESCO eraill yn y DU:
Diwylliannol:
- Tirwedd Ddiwydiannol Blaenafon (2000)鈥�
- Palas Blenheim (1987)鈥�
- Eglwys Gadeiriol Caergaint, Abaty St Augustine, ac Eglwys St Martin (1988)鈥�
- Cestyll a Muriau Trefi Edward I yng Ngwynedd (1986)鈥�
- Dinas Caerfaddon (1987)鈥�
- Tirwedd Mwyngloddio Cernyw a Gorllewin Dyfnaint (2006)鈥�
- Melinau Dyffryn Derwent (2001)鈥�
- Castell Durham a鈥檙 Gadeirlan (1986)鈥�
- Ffiniau鈥檙 Ymerodraeth Rufeinig (1987, 2005, 2008)鈥�
- Ogof Gorham (2016) 鈥�
- Calon Cyfnod Neolithig Ynysoedd Orkney (1999)鈥�
- Tref Hanesyddol St George a鈥檙 Ceyrydd Cysylltiedig, Bermuda (2000)鈥�
- Ceunant Ironbridge (1986)鈥�
- Lerpwl 鈥� Dinas Arforol Fasnachol (2004)鈥�
- Greenwich Forwrol (1997)鈥�
- New Lanark (2001)鈥�
- Hen Dref a Thref Newydd Caeredin (1995)鈥�
- Palas Westminster ac Abaty Westminster, gan gynnwys Eglwys St Margaret (1987)鈥�
- Traphont Dd诺r a Chamlas Pontcysyllte (2009) 鈥�
- Gerddi Botaneg Brenhinol, Kew (2003)鈥�
- Saltaire (2001)鈥�
- C么r y Cewri, Avebury a Safleoedd Cysylltiedig (1986)鈥�
- Parc Brenhinol Studley gan gynnwys Adfeilion Abaty Fountains (1986)鈥�
- Ardal y Llynnoedd yn Lloegr (2017)鈥�
- Pont Reilffordd Forth (2015)鈥�
- T诺r Llundain (1988)鈥�
- Arsyllfa Jodrell Bank (2019)鈥�
Naturiol:
- Arfordir Dorset a Dwyrain Dyfnaint (2001)鈥�
- Giant鈥檚 Causeway ac Arfordir Causeway (1986)鈥�
- Ynysoedd Gough ac Inaccessible (1995, 2004)鈥�
- Ynys Henderson (1988)鈥� 鈥�
Cymysg:
- St Kilda (1986, 2004, 2005)鈥�