Datganiad i'r wasg

Neges Dydd G诺yl Dewi Ysgrifennydd Gwladol Cymru

Ysgrifennydd Gwladol Cymru Simon Hart yn diolch i bobl Cymru am eu haberthiadau dros y flwyddyn ddiwethaf yn ei neges Dydd G诺yl Dewi.

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2019 to 2022 Johnson Conservative government
Picture of Simon Hart MP

Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru Simon Hart wedi talu teyrnged i bobl Cymru yn ei neges Dydd G诺yl Dewi.

Gan dynnu sylw at yr aberth a wnaed yn ystod pandemig Covid-19, mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn diolch i weithwyr ar y rheng flaen. Mae Mr Hart hefyd yn edrych ymlaen at y flwyddyn i ddod, gan dynnu sylw at gynnydd cyflwyniad y brechlyn a chynlluniau Llywodraeth y DU ar gyfer twf ac adferiad yng Nghymru.

Yn 么l Ysgrifennydd Gwladol Cymru Simon Hart:

Mae鈥檙 12 mis diwethaf wedi bod heb gynsail. Dydd G诺yl Dewi diwethaf, ni allem fod wedi rhagweld y flwyddyn i ddod na hyd yn oed y byddem yn mynd i鈥檙 cyfyngiadau cyntaf ledled y DU ychydig o wythnosau鈥檔 ddiweddarach, a鈥檙 tarfu ar fywyd arferol sydd wedi dilyn.

Mae鈥檙 flwyddyn ers hynny wedi bod yn un o drasiedi ac rwy鈥檔 cydymdeimlo o鈥檙 galon 芒 theuluoedd ac anwyliaid o dros 5,000 o bobl yng Nghymru sydd wedi marw neu sy鈥檔 dioddef o ganlyniad i鈥檙 feirws ofnadwy hwn.

Dyma fu鈥檙 cyfnod mwyaf heriol ers yr Ail Ryfel Byd - yng Nghymru, ar draws y DU ac ar draws y byd. Bu ymdrech enfawr gan y pobl sy鈥檔 gweithio ar reng flaen y pandemig ledled Cymru. Cafodd rhai eu cydnabod yn haeddiannol yn Anrhydeddau鈥檙 Flwyddyn Newydd, ond ni chydnabuwyd miloedd fwy a hoffwn dalu teyrnged i bob un ohonynt a diolch iddynt am eu gwaith anhunanol. A diolch hefyd i bob un person yng Nghymru am yr aberthau y maent wedi鈥檜 gwneud yn ystod y 12 mis diwethaf.

Mae Llywodraeth y DU hefyd wedi gweithio i ddarparu cymorth i bobl a busnesau drwy鈥檙 amhariad y mae鈥檙 pandemig wedi鈥檌 achosi. Rydym wedi darparu mwy na 拢2.7 biliwn o gymorth uniongyrchol i fusnesau yng Nghymru drwy鈥檙 Cynllun Benthyciadau Ymyrraeth Busnes Coronafeirws a Benthyciadau Ailgydio yn ogystal 芒 chynlluniau fel ffyrlo a chymorth i鈥檙 hunangyflogedig sydd wedi cefnogi hanner miliwn o bobl yng Nghymru yn unig 鈥� un o bob tri o鈥檙 gweithlu.

Mae Trysorlys y DU hefyd wedi darparu 拢6.6bn o gyllid ychwanegol i Lywodraeth Cymru eleni ar gyfer ei ymateb i鈥檙 pandemig.

Rydym hefyd wedi sefydlu mwy na 50 o ganolfannau profi ledled Cymru, wedi cyflenwi miliynau o eitemau PPE ac wedi sicrhau bod bron i 300 o berson茅l o Luoedd Arfog y DU yng Nghymru i gefnogi GIG Cymru.

Ond gallwn nawr weld y ffordd allan o鈥檙 pandemig o ganlyniad i鈥檙 rhaglen frechu barhaus. Mae cyflymder ei ddatblygiad a鈥檌 gyflwyniad ledled y DU wedi bod yn syfrdanol. Mae鈥檔 arwain y byd ac mae Cymru鈥檔 chwarae rhan fawr drwy gyfleuster Wockhardt yn Wrecsam lle mae brechlyn Rhydychen-AstraZeneca yn cael ei gynhyrchu.

Gyda鈥檙 brechlyn yn cael ei gyflwyno鈥檔 barhaus gallwn ddechrau edrych i鈥檙 flwyddyn sydd i ddod. Yn ddiweddarach yr wythnos hon bydd y Canghellor yn cyflwyno ei Gyllideb, gan osod y cwrs cyllidol ar gyfer adferiad, ffyniant, swyddi, twf a chwyldro diwydiannol gwyrdd. Mae gennym waith enfawr i鈥檞 wneud ac rydym yn canolbwyntio fel llywodraeth ar gael y DU yn 么l ar y trywydd iawn a lefelu鈥檙 DU cyfan. Yng Nghymru mae hyn yn golygu adeiladu ar gynnydd rhagorol ein Cynlluniau Dinas a Thwf, buddsoddi mewn diwydiannau adnewyddadwy a seilwaith a darparu cyllid i鈥檙 cymunedau sydd ei angen fwyaf.

Cyn yr hyn a fydd, yn fy marn i, yn flwyddyn o adferiad a thwf i鈥檔 holl gymunedau, rwy鈥檔 dymuno Dydd G诺yl Dewi hapus i bawb yng Nghymru a鈥檙 holl Gymry ledled y byd.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 1 Mawrth 2021