Neges Ysgrifennydd Gwladol Cymru ar Ddydd G诺yl Dewi
Mae Jo Stevens yn dathlu cyflawniad Llywodraeth y DU yng Nghymru ar Ddydd G诺yl Dewi eleni ac yn edrych at y flwyddyn i ddod.

Welsh Secretary Jo Stevens.
Am y tro cyntaf fel Ysgrifennydd Gwladol Cymru, mae鈥檔 bleser mawr gennyf ddymuno Dydd G诺yl Dewi Hapus i bawb ledled Cymru!聽
Yn dilyn yr etholiad mis Gorffennaf diwethaf, bu inni addo i gyflawni newid a dyna鈥檔 union beth rydym wedi dechrau ei wneud.
Bu inni addo strydoedd diogelach, ynni gwyrdd, a phwysicaf oll, swyddi newydd a thwf economaidd i bobl ledled Cymru. Yn sail i hyn i gyd oedd yr addewid i drawsnewid y berthynas rhwng llywodraethau Cymru a鈥檙 DU 鈥� partneriaeth sy鈥檔 cyflawni i bobl Cymru.
Ac rydym wedi cychwyn ar y gwaith i gyflawni ein cenadaethau canllaw ledled y wlad. Bydd y gwaith hwn yn parhau i symud yn ei flaen yn gyflym yn ystod 2025.
Rydym eisiau system iechyd sy鈥檔 addas i ddyfodol Cymru ac yng Nghyllideb yr Hydref bu i ni ddarparu鈥檙 setliad mwyaf erioed o 拢21 biliwn i Lywodraeth Cymru. Bellach mae ganddi 拢1.7 biliwn yn ychwanegol y flwyddyn nesaf i鈥檞 wario ar wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, yn enwedig gwella鈥檙 GIG a lleihau amseroedd aros.
Mae gennym ddwy lywodraeth yng Nghymru bellach, sy鈥檔 cydweithio i sicrhau ein bod yn diwygio鈥檙 GIG a gwasanaethau cyhoeddus fel eu bod yn cyflawni i chi.
Wrth i ni wneud ein strydoedd yn fwy ddiogel, gall pobl yng Nghymru ddisgwyl gweld mwy o鈥檙 heddlu allan yn y gymuned.
Rydym yn buddsoddi mewn 13,000 o swyddogion cymdogaeth, swyddogion cymorth cymunedol (PCSO) a chwnstabliaid arbennig ledled Cymru a Lloegr, a bydd y swyddogion hyn yn gweithio i adfer ffordd gweledol a hygyrch o blismona y mae ein cymunedau yn ei haeddu.
Mae cenhadaeth Llywodraeth y DU i wneud Prydain yn un o gewri鈥檙 maes ynni gl芒n yn darparu cyfleoedd anferthol i Gymru.
Yn gynharach yr wythnos hon, roedd gen i鈥檙 pleser mawr o gyhoeddi buddsoddiad mawr o 拢600 miliwn ym mharciau ynni gwynt ar y tir Bute Energy. Bydd y parciau hyn yn cael eu hadeiladu ledled Cymru a byddant yn cynhyrchu鈥檙 ynni gl芒n rydym ei angen, a chreu 2,000 o swyddi wrth wneud hynny.
Mae鈥檙 buddsoddiad hwn yn fargen o bwys i鈥檙 sector yng Nghymru, ac mae鈥檔 sicrhau ein lle fel canolbwynt ar gyfer buddsoddiad mawr mewn ynni gl芒n.
Yn yr un modd, bydd y cyfle anhygoel i greu ffermydd gwynt arnofiol ar y m么r yn rhan hollbwysig o鈥檔 cenhadaeth ynni gl芒n. Gall Cymru arwain y byd yn creu tyrbinau anferth ym moroedd ein harfordir a fydd yn helpu i ostwng biliau ynni a chreu swyddi i鈥檙 dyfodol. Mae denu mwy o鈥檙 buddsoddi hyn i Gymru yn flaenoriaeth eleni.
Yn fwy na dim, ein cenhadaeth yw sbarduno twf economaidd.
Rydym eisoes wedi gweld buddsoddiad anferth yn dod i Ogledd Cymru yn Eren Holding鈥檚 a Kellanova, gan greu a sicrhau cannoedd o swyddi.
Mae鈥檙 ddwy ardal fuddsoddi yng Nghaerdydd a Chasnewydd ac yn Wrecsam a Sir y Fflint yn rhan hanfodol o鈥檔 gwaith gyda Llywodraeth Cymru i roi hwb anferthol i gryfhau sectorau fel y diwylliannau creadigol, gwyddorau bywyd a gweithgynhyrchu uwch.
Rydym wedi cymeradwyo porthladdoedd rhydd Cymru i ddatgloi biliynau mewn buddsoddiadau preifat a chreu bron i 20,000 o swyddi yn ein cymunedau porthladd fel Aberdaugleddau, Port Talbot a Chaergybi.
Bydd ein cynlluniau yn ein gweld yn sbarduno twf yng nghymunedau unigol. Yn gynharach y mis hwn, bu inni gyhoeddi pecyn cyllid gwerth 拢15 miliwn ar gyfer dau brosiect diwylliannol mawr yng Nghymru 鈥� 拢10 miliwn ar gyfer Venue Cymru yng Nghonwy a 拢5 miliwn ar gyfer Pont Gludo Casnewydd. Bydd y cyllid hwn yn helpu i sicrhau bod y tirnodau hyn yn parhau i fod yn adnoddau gwerthfawr ar gyfer eu hardaloedd nhw. Nid diogelu treftadaeth yn unig mae鈥檙 prosiectau hyn; maen nhw hefyd yn ymwneud 芒 sbarduno twf economaidd, yn creu swyddi, ac yn arddangos Cymru fel gwlad sy鈥檔 arwain ym meysydd twristiaeth a diwylliant.
Ac mae ein buddsoddiad yng nghymuned Port Talbot yn destament i鈥檔 penderfyniad i sbarduno twf, ac i beidio a derbyn dirywiad yn ein hardaloedd diwydiannol.
O fewn wythnos o ddod i鈥檙 swydd, bu inni sicrhau bargen well gyda Tata Steel. Ac ychydig wythnosau鈥檔 ddiweddarach, dechreuodd degau o filiynau o bunnoedd gael eu rhyddhau i鈥檙 gymuned 鈥� arian nad oedd wedi鈥檌 wario鈥檔 flaenorol er bod angen clir i gefnogi鈥檙 gweithlu, busnesau lleol a鈥檙 gymuned.
Hyd yma mae dros 拢50 miliwn wedi鈥檌 gyhoeddi. Mae鈥檙 arian hwnnw yn ariannu mentrau ym Mhort Talbot sy鈥檔 amrywio o greu safle diwydiannol gwerth 拢8.2 miliwn yn y dref, gan greu cynhyrchion newydd i鈥檙 diwydiannau dur a metel, i ddarparu cyfleoedd hyfforddiant unigol i weithwyr dur Tata neu eu teuluoedd.
Yn y flwyddyn i ddod, byddaf yn sicrhau bod gweddill arian y Bwrdd Pontio yn cael ei fuddsoddi yng nghymuned Port Talbot.
Mewn dim ond ychydig fisoedd, mae Llywodraeth newydd y DU wedi gwneud cynnydd sylweddol gyda thrawsnewid Cymru, gan adeiladu ar ein cryfderau o ran diwydiant, ynni gwyrdd, a phwysicaf oll, ein pobl. Mae rhagor o waith i鈥檞 wneud, ond rwy鈥檔 gwybod y bydd Cymru yn parhau i fod yn le gwych i gynnal busnes.
Hoffwn anfon fy nymuniadau gorau i bawb sy鈥檔 dathlu ein diwrnod cenedlaethol yng Nghymru a ledled y byd.