Ysgrifennydd Cymru yn croesawu cynllun moderneiddio Network Rail i Gymru
Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David Jones, wedi croesawu cyhoeddi cynlluniau busnes strategol Network Rail heddiw [dydd Mawrth 8fed Ionawr�

Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David Jones, wedi croesawu cyhoeddi cynlluniau busnes strategol Network Rail heddiw [dydd Mawrth 8fed Ionawr 2013]. Mae’r cynllun yn cadarnhau y bydd bron i £1bn yn cael ei fuddsoddi yn rhwydwaith rheilffyrdd Cymru dros y 5 mlynedd nesaf, gyda Network Rail hefyd yn cyflwyno ei strategaeth moderneiddio 10 mlynedd ar gyfer y rhwydwaith cyfan ledled Cymru. Â
Yn y buddsoddiad mwyaf a welodd rhwydweithiau rheilffyrdd Cymru ers oes Fictoria, mae Network Rail hefyd wedi ymrwymo i ail-signalu rheilffyrdd ar draws Cymru, gan ddechrau gyda’r llwybrau o’r Fflint i Landudno ac o Gasnewydd i Amwythig. Bydd hyn yn golygu siwrneiau cynt rhwng Gogledd a De Cymru, gan leihau costau a chynyddu capasiti ar gyfer teithwyr.  Â
Dywedodd David Jones:Â Â
“Mae rhwydwaith rheilffyrdd modern yng Nghymru yn hollbwysig ar gyfer tyfu ein heconomi ac rwyf yn falch bod Network Rail, y mae gennyf berthynas agos a nhw, wedi cadarnhau eu rhaglen moderneiddio 10 mlynedd ar gyfer Cymru heddiw. Â
“A minnau yn rhywun a fydd yn defnyddio trenau’n rheolaidd, gwn fod ail-signalu nifer o reilffyrdd ledled Cymru yn newyddion da i bob teithiwr ac rwyf yn arbennig o falch mai’r cysylltiadau pwysig rhwng y gogledd a’r de fydd rhai o’r cyntaf i gael eu huwchraddio. Mae’r ail-signalu rhwng Casnewydd ac Amwythig hefyd yn nodi dechrau’r rhaglen adeiladu i drydaneiddio prif reilffordd De Cymru a gyhoeddwyd gennym y llynedd. Â
Rydym yn croesawu’r cadarnhad y bydd y prif lwybr rhwng Llundain a Chaerdydd yn cael ei drydaneiddio erbyn 2018, gan leihau amseroedd teithio a helpu i wneud Cymru yn lle mwy deniadol i fyw a chynnal busnes.  Â
Nodiadau i Olygyddion:Â Â
1. I gael rhagor o wybodaeth am Gynllun Busnes Strategol Network RailÂ