Ysgrifennydd Cymru yn croesawu archeb Airbus am awyrennau gan AirAsia
Ymunodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David Jones a’r Prif Weinidog, David Cameron, yn ffatri gosod adenydd Airbus ym Mrychdyn, Gogledd Cymru,�

Ymunodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David Jones a’r Prif Weinidog, David Cameron, yn ffatri gosod adenydd Airbus ym Mrychdyn, Gogledd Cymru, i groesawu archeb newydd am 100 o awyrennau A320 ychwanegol.
Mae’r contract gydag AirAsia yn cynnwys 64 o awyrennau A320neo ychwanegol a 36 A320ceo ychwanegol a fydd yn gweithredu dros rwydwaith y cludydd. Bydd yr adenydd yn cael eu gwneud yn y ffatri ym Mrychdyn, ac ymunodd y Prif Weinidog a Mr Jones a Phrif Swyddog Gweithredol y Grŵp AirAsia, Tan Sri Dr Tony Fernandes i fynd o amgylch y cyfleuster a chwrdd a rhai o’r staff a fydd yn helpu i adeiladu’r awyrennau.
Mae’r archeb newydd yn cadarnhau sefyllfa AirAsia fel y cwsmer A320 mwyaf yn y byd. Mae’r cludydd nawr wedi archebu 475 awyren un eil gan Airbus, sy’n cynnwys 264 A320neo a 211 A320ceo. Mae dros 100 o awyrennau eisoes wedi cael eu danfon i’r cwmni hedfan ac maent yn hedfan o’i feysydd awyr yn Bangkok, Kuala Lumpur, Jakarta, Manila a Tokyo.
Dywedodd y Prif Weinidog, David Cameron: “Mae hwn yn newyddion rhagorol, ac yn hwb enfawr i’r gweithlu ac i weithgynhyrchu yn y DU.
“Mae cyhoeddiad heddiw yn dangos pa mor gryf yw sector awyrofod y DU a’r rol bwysig sydd ganddo o ran datblygu ac adfer cydbwysedd ein heconomi.
“Bydd y Llywodraeth hon yn dal ati i gefnogi’r diwydiant awyrofod yn y DU; gan dorri trethi busnes, buddsoddi mewn allforion a gweithio mewn partneriaeth gyda’r diwydiant i wneud yn siŵr ei bod wedi’i harfogi’n llawn i gystadlu a ffynnu yn fyd-eang.�
Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David Jones,
“Mae’r buddsoddiad newydd hwn gan AirAsia yn dangos ei fod yn ymddiried yn y dalent ac yng ngallu arloesol gweithlu Airbus, ac mae ei safle ym Mrychdyn yn rhan bwysig o’i lwyddiant yn fyd-eang.
“Rwy’n falch iawn o fod yn y safle ym Mrychdyn heddiw i groesawu’r archeb ddiweddaraf ar lyfrau Airbus, a fydd yn diogelu swyddi 1,500 o bobl yn y safle yng Ngogledd Cymru, a llawer mwy yn ei gadwyn gyflenwi ledled y DU.
Dywedodd Tan Sri Dr Tony Fernandes: “Bydd yr archeb hon yn ateb ein gofynion tymor byr a chanolig ychwanegol o ran twf wrth i’r galw gynyddu ar draws ein rhwydwaith,� meddai, “Mae’r A320 wedi bod yn rhan allweddol o’n llwyddiant, yn ein galluogi ni i gynnig y prisiau rhataf bosib i’n teithwyr ac ailddiffinio teithiau hedfan byr yn Asia yn gyfan gwbl.�
“Mae AirAsia yn un o lwyddiannau mawr diweddar y busnes awyrennau,� meddai John Leahy, Prif Swyddog Gweithredol, Cwsmeriaid, Airbus. “Mae’r hyder sydd gan y cwmni awyrennau yn yr A320 yn cadarnhau dibynadwyedd, effeithlonrwydd ac economeg ddiguro cynnyrch un eil mwyaf modern y byd.�
Dywedodd Tom Williams, Is-Lywydd Gweithredol, Rhaglenni ac uwch gynrychiolydd Airbus yn y DU: “Mae’r archeb hon yn hwb mawr i’r timau ym Mrychdyn ac rydyn ni’n falch iawn o groesawu’r Prif Weinidog a Phrif Weithredwr AirAsia i’r ffatri i weld sgiliau ac arbenigedd y tim ar waith heddiw.
“Rhaid i ni beidio a thanystyried pwysigrwydd gweithgynhyrchu a pheirianneg awyrofod yn y DU, sy’n waith sy’n gofyn am lawer o sgiliau ac sy’n waith o werth mawr, fel mae ein rol bwysig o ran cyfrannu’n sylweddol i awyrennau masnachol Airbus yn ei ddangos.�
Mae fflyd A320 AirAsia yn hedfan i oddeutu 70 o leoliadau ar hyn o bryd, gan ddilyn llwybrau rhwydwaith sy’n cwmpasu 20 o wledydd ar draws Asia. Hefyd, mae’r cwmni cysylltiedig, AirAsia X yn gweithredu A330-300s llydan ar deithiau hwy o Kuala Lumpur i Ogledd Asia ac Awstralia.
Bydd yr archeb ddiweddaraf gan AirAsia yn cynnal 1,500 o swyddi yn y DU yn ogystal a 7,500 arall yn y gadwyn gyflenwi estynedig.
Ym mis Rhagfyr, AirAsia fydd y cwmni cyntaf i hedfan A320s gyda “Sharklets�, a fydd yn arwain at arbedion o ran tanwydd o bron i 4 y cant ar sectorau hwy. Bydd yr arbedion hyn yn cynyddu eto gyda’r A320neo, ble bydd cyfuniad o beiriannau’r genhedlaeth newydd a’r Sharklets yn arwain at ddefnyddio oddeutu 15 y cant yn llai o danwydd.
Teulu’r A320 yw cynnyrch un eil mwyaf modern a phoblogaidd y byd. Hyd yma, mae dros 8,600 o awyrennau wedi cael eu harchebu ac mae dros 5,300 wedi cael eu danfon at dros 370 o gwsmeriaid a gweithredwyr ledled y byd.