Ysgrifennydd Cymru yn croesawu 拢243 miliwn o gymorth gan Lywodraeth y DU ar gyfer ffermwyr Cymru
Heddiw, fe wnaeth y Canghellor gyhoeddi 拢243 miliwn o gyllid i gefnogi ffermwyr Cymru pan fydd y DU yn gadael yr UE.

- Bydd yr arian yn cynnal lefel cyllid y Taliadau Uniongyrchol ar yr un gyfradd 芒鈥檙 llynedd.
- Bydd hyn yn rhoi sicrwydd i ffermwyr, a fydd yn rhoi hyder iddynt ar gyfer y flwyddyn nesaf.
Heddiw (Dydd Llun 30 Rhagfyr) fe wnaeth Simon Hart, Ysgrifennydd Cymru, groesawu cyhoeddiad y Canghellor y bydd Llywodraeth Cymru yn cael 拢243 miliwn o gyllid gan Lywodraeth y DU i gefnogi ffermwyr pan fydd y DU yn gadael yr UE y flwyddyn nesaf.
Fe wnaeth Sajid Javid gadarnhau y bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i gefnogi ffermwyr pan fydd y DU yn gadael cynllun Taliadau Uniongyrchol y Polisi Amaethyddol Cyffredin, a fydd yn caniat谩u i ffermwyr ledled Cymru gynllunio ar gyfer y dyfodol, hau eu cnydau a gofalu am eu da byw gyda hyder.
Dywedodd Sajid Javid, Canghellor y Trysorlys:
Pan fyddwn yn gadael yr UE ac yn torri鈥檔 rhydd o鈥檙 Polisi Amaethyddol Cyffredin, byddwn yn gallu cefnogi ein cymunedau gwledig hollbwysig 鈥� sy鈥檔 un o gonglfeini bywyd yn y DU 鈥� gyda system decach a llai biwrocrataidd.
Gall ffermwyr ddechrau鈥檙 flwyddyn newydd yn hyderus, gan wybod ein bod yn eu cefnogi ac y byddwn yn gallu ffynnu ar 么l Brexit.
Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Simon Hart:
Mae鈥檙 cyllid hwn yn dangos ymrwymiad Llywodraeth y DU i roi sicrwydd a chymorth i ffermwyr Cymru. Mae hefyd yn amlygu鈥檙 cyfleoedd helaeth sydd ar gael i ni wrth i ni adael yr Undeb Ewropeaidd.
Bydd rheoli鈥檙 cyllid hwn yn caniat谩u i ni fynd ati鈥檔 well i gynrychioli鈥檙 bobl rydyn ni鈥檔 eu gwasanaethu, gan sicrhau bod ein cymunedau ffermio鈥檔 cael yr hyn sydd ei angen arnynt i ffynnu ar 么l i ni adael yr Undeb Ewropeaidd.
DIWEDD.