Ysgrifennydd Cymru yn ymweld 芒 De Affrica i feithrin cysylltiadau masnach ar y cyd
Bydd Alun Cairns yn ymuno 芒鈥檙 Prif Weinidog a busnesau o Gymru ar daith fasnach bwysig

Mae鈥檔 bryd i ni fynd 芒鈥檔 cysylltiadau buddsoddi a masnach i lefel cwbl newydd wrth i ni adael yr Undeb Ewropeaidd. Dyma fydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns, yn ei ddweud heddiw pan fydd yn annerch cynulleidfa fusnes ryngwladol yn Cape Town (28 Awst).
Mae鈥檙 Ysgrifennydd Gwladol wedi ymuno 芒鈥檙 Prif Weinidog ar ymweliad 芒 De Affrica, lle byddant yn cwrdd ag amrywiaeth o fusnesau i drafod cyfleoedd masnach a buddsoddi gyda Chymru a鈥檙 Deyrnas Unedig.
Mae鈥檙 Prif Weinidog wedi gwahodd gweinidog y Cabinet ar y daith fasnach. Bydd y gweinidog yn gweithio gyda hi a鈥檙 cynrychiolwyr busnes sy鈥檔 teithio yno hefyd i edrych ar sut gall partneriaethau newydd rhwng y Deyrnas Unedig a De Affrica ychwanegu gwerth i economi鈥檙 Deyrnas Unedig a chreu cyfleoedd newydd yn y farchnad i fusnesau o Brydain.
Bydd Alun Cairns yn traddodi araith i gynulleidfa o dros 120 o gynrychiolwyr busnesau rhyngwladol tra bydd yn y wlad. Bydd hefyd yn cael cyfarfod dwyochrog 芒 Chomisiynydd EM newydd Affrica, Emma Wade-Smith OBE, am y posibilrwydd o greu cysylltiadau masnach cryfach rhwng y Deyrnas Unedig a De Affrica.
Bydd hefyd yn cynnal cyfarfod 芒 WESGRO - yr asiantaeth swyddogol sy鈥檔 hyrwyddo twristiaeth, masnach a buddsoddi ar gyfer Cape Town a Thalaith y Western Cape. WESGRO yw鈥檙 pwynt cyswllt cyntaf i brynwyr o dramor, allforwyr lleol a buddsoddwyr sy鈥檔 dymuno manteisio ar y potensial di-ben-draw ar gyfer busnesau yn y rhanbarth.
Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
Mae De Affrica yn un o bartneriaid masnach allweddol y Deyrnas Unedig - mae鈥檔 gynghreiriad strategol, cadarn a hirsefydlog i鈥檙 Deyrnas Unedig yn Affrica ac yn rhyngwladol.
Rwy鈥檔 edrych ymlaen at archwilio鈥檙 cyfleoedd masnach sydd ar gael yma i fusnesau Cymru, er mwyn adeiladu ar y berthynas bwysig hon a helpu i greu rhagor o gyfleoedd buddsoddi ac allforio i gwmn茂au yn y ddwy diriogaeth.
Mae dau gwmni o Gymru ymhlith y 29 o fusnesau sy鈥檔 cael eu cynrychioli sy鈥檔 ymuno ag Alun Cairns a鈥檙 Prif Weinidog ar y daith fasnach - Hydro Industries o Langennech a Sure Chill o Gaerdydd.
Bydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn trafod y cyfleoedd i鈥檙 cwmn茂au fanteisio i鈥檙 eithaf ar y farchnad technoleg werdd yn Affrica mewn cyfarfodydd 芒 Green Cape a South South North - sefydliad sy鈥檔 gweithio gyda busnesau, buddsoddwyr, academia a鈥檙 llywodraeth i helpu i ddatgloi potensial buddsoddi a chyflogaeth gwasanaethau a thechnolegau gwyrdd.
Ychwanegodd Alun Cairns:
Dim ond dwy enghraifft o gwmn茂au arloesol o Gymru yw Hydro a Sure Chill, sy鈥檔 gwneud cyfraniad sylweddol i werth allforion Cymru a ddaeth i gyfanswm o 拢16.4 biliwn y llynedd - cynnydd o 12.3% o鈥檌 gymharu 芒鈥檙 flwyddyn flaenorol.
Mae鈥檙 daith fasnach hon yn tanlinellu ymrwymiad Llywodraeth y Deyrnas Unedig i barhau gyda鈥檙 twf hwnnw. Rwy鈥檔 gobeithio y byddwn ni鈥檔 helpu i agor drysau i fusnesau o Gymru sy鈥檔 chwilio am gyfleoedd i ehangu a ffynnu mewn marchnadoedd rhyngwladol.
Yn ystod ei daith, bydd Ysgrifennydd Cymru hefyd yn manteisio ar y cyfle i gwrdd 芒鈥檙 Cymry ar Wasgar o Gymdeithas Cymru y Penrhyn i drafod cryfder y cysylltiadau diwylliannol rhwng Cymru a De Affrica.