Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn ymweld 芒 chyrtiau tennis wedi'u hadnewyddu
Ymwelodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David TC Davies AS 芒 chyrtiau wedi'u hadnewyddu'n llawn ym Mharc Six Bells yn Abertyleri

- Rhoddwyd bywyd newydd i鈥檙 cyrtiau fel rhan o fuddsoddiad sy鈥檔 werth 拢30 miliwn gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig a Sefydliad Tennis yr LTA, wedi ei gyflawni gan yr LTA, i filoedd o gyrtiau mewn cyflwr gwael neu anaddas ledled Prydain.
- Cafodd Parc Six Bells 285 awr o archebion yn ystod y chwe wythnos ers ailagor yn dilyn ymgyrch leol i annog pobl i gymryd rhan
Bu Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David TC Davies AS, yn ymweld 芒 chyrtiau tennis cyhoeddus sydd newydd gael eu hadnewyddu ym Mharc Six Bells, Abertyleri, sy鈥檔 un yn unig o鈥檙 parciau ledled Cymru sy鈥檔 elwa ar fuddsoddiad o 拢30 miliwn gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig a Sefydliad Tennis LTA, a gyflwynir gan LTA, i gyrtiau tennis mewn parciau ledled Prydain.
Mae鈥檙 cyrtiau sydd wedi cael eu hadnewyddu ym Mharc Six Bells wedi cael eu hailwynebu a鈥檜 hailbeintio鈥檔 llawn, er mwyn galluogi鈥檙 gymuned leol i鈥檞 defnyddio nhw unwaith eto, diolch i dros 拢35,000 o gyllid gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig a Sefydliad Tennis yr LTA.
Cafodd y cyrtiau sydd newydd gael eu hadnewyddu werth 285 awr o archebion yn ystod y chwe wythnos ers iddynt ailagor ym mis Mai, sy鈥檔 dangos yr awydd lleol am gyfleoedd i chwarae tennis.
Dywedodd David TC Davies, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn parhau i fuddsoddi鈥檔 sylweddol mewn cyfleusterau ar lawr gwlad, gan helpu cymunedau i sicrhau鈥檙 manteision iechyd a chymdeithasol enfawr a ddaw yn sgil chwaraeon.
Roeddwn wrth fy modd o weld, mor agos at ddiwedd Pencampwriaethau Wimbledon, y cyfleusterau newydd ym Mharc Six Bells a fydd yn galluogi pobl o bob rhan o鈥檙 ardal i roi cynnig ar chwarae tennis ac i genedlaethau o chwaraewyr yn y dyfodol ddatblygu eu sgiliau.
Mae Prosiect Tennis Parciau yn gwneud gwelliannau hollbwysig i gyflwr dros 3,000 o gyrtiau tennis mewn parciau ledled Cymru, Lloegr a鈥檙 Alban, gan roi wyneb newydd ac ailbeintio鈥檙 parciau hynny sydd yn y cyflwr gwaethaf, a chanolbwyntio鈥檔 benodol ar dargedu anghydraddoldebau o ran cyfranogiad. Dyma鈥檙 buddsoddiad mwyaf sylweddol mewn cyrtiau tennis mewn parciau ers cenhedlaeth.
Mae dros 1,000 gyrtiau mewn parciau wedi cael eu hadnewyddu ledled Prydain erbyn hyn. Mae gwaith ar barciau yng Nghymru bellach wedi ei gwblhau ym Mro Morgannwg a Chasnewydd, gyda gwaith yn mynd rhagddo ar safleoedd ar draws Wrecsam, Conwy, Caerffili a Phen-y-bont ar Ogwr, ac ar ei ffordd ar draws nifer o awdurdodau lleol eraill.
Dywedodd Paul Bennett, Pennaeth Cyflawni Buddsoddi mewn Parciau yr LTA:
Mae鈥檙 cyrtiau sydd wedi eu huwchraddio ym Mharc Six Bells yn enghraifft wych o sut mae鈥檙 buddsoddiad trawsnewidiol hwn mewn cyrtiau tennis mewn parciau gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig a Sefydliad Tennis yr LTA yn agor y drws i chwarae tennis yng Nghymru a ledled Prydain.
Mae cyrtiau presennol fel hyn mewn parciau wedi cael eu nodi ar gyfer eu hadnewyddu nid yn unig am y byddant yn cael yr effaith fwyaf ar gyfranogiad, ond oherwydd y byddant yn mynd i鈥檙 afael ag anghydraddoldebau mewn cyfranogiad drwy helpu i ymgysylltu 芒 chymunedau a dangynrychiolir yn draddodiadol mewn tennis.
Gyda鈥檙 cyrtiau wedi ailagor yn llwyddiannus i鈥檙 cyhoedd, rydyn ni鈥檔 edrych ymlaen yn fawr at fanteisio ar y momentwm hwn drwy weithio gyda Chyngor Blaenau Gwent, Tennis Cymru a Chris Hill i gyflwyno Tennis am Ddim mewn Parciau dros y misoedd nesaf.
Fel rhan o鈥檌 hymrwymiad i agor y drws i lawer mwy o bobl, mae鈥檙 LTA yn cefnogi awdurdodau lleol a darparwyr i sicrhau bod amrywiaeth o weithgareddau ar waith ar draws cyrtiau mewn parciau, gan gynnwys sesiynau tennis wythnosol am ddim lle darperir offer. Bydd modd archebu lle yn yr holl gyrtiau ar system archebu ar-lein LTA gyda systemau mynediad g芒t digidol wedi eu gosod ar draws safleoedd, fel bod canfod, archebu a mynd i鈥檙 cwrt mor hawdd a diogel 芒 phosibl i chwaraewyr tennis ledled y wlad. Mae鈥檙 rhaglen wedi ei chynllunio i agor y drws i lawer mwy o bobl, gyda鈥檙 LTA yn anelu at ddenu 500,000 yn fwy o chwaraewyr i barciau bob blwyddyn.
Mae鈥檔 dilyn cynnydd mewn cyfranogiad ar lawr gwlad ledled Prydain, gan gynnwys yng Nghymru. Yn ddiweddar, cyhoeddodd Tennis Cymru, y corff llywodraethu cenedlaethol ar gyfer tennis yng Nghymru, fod 176,000 o oedolion wedi estyn am raced ac wedi chwarae tennis yn y flwyddyn hyd at fis Mai 2023 sy鈥檔 46,000 o gynnydd o鈥檌 gymharu 芒 2019.
Mae mwy o blant hefyd yn chwarae tennis, gyda 154,000 yn chwarae bob blwyddyn, ac mae Arolwg Chwaraeon mewn Ysgolion Chwaraeon Cymru wedi tynnu sylw at y ffaith bod tua 50,000 o blant yn awyddus i roi cynnig ar chwarae tennis.
Mae gwell cyfleusterau cyhoeddus yn helpu i fynd i鈥檙 afael 芒鈥檙 galw hwn, ac mae mwy o bobl ifanc hefyd yn cael cyfle i estyn am raced mewn ysgolion drwy Ysgolion Ieuenctid yr LTA. Drwy鈥檙 rhaglen hon, mae Tennis Cymru a鈥檙 LTA yn cael gwared ar rwystrau rhag cyfranogi drwy hyfforddi dros 650 o athrawon yng Nghymru i gyflwyno鈥檙 rhaglen, gan ddarparu taleb gwerth 拢250 ar gyfer pob ysgol sydd wedi cwblhau hyn i鈥檞 defnyddio am 10 awr o hyfforddiant neu offer Achrededig gan yr LTA.