Stori newyddion

Ysgrifennydd Cymru yn ymweld 芒 chwmni sy鈥檔 datblygu technoleg i drechu Covid-19

Mae Ysgrifennydd Cymru, Simon Hart, wedi gweld gwaith cwmni yng Nghas-gwent sy鈥檔 datblygu technoleg a allai fod yn werthfawr yn y frwydr yn erbyn Covid-19.

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2019 to 2022 Johnson Conservative government
Welsh Secretary and CEO Creo Medical, Craig Gulliford

Welsh Secretary and CEO Creo Medical, Craig Gulliford

Ar ei ymweliad swyddogol cyntaf yng Nghymru ers llacio cyfyngiadau symud y coronafeirws, ymwelodd Mr Hart 芒 Creo Medical, lle clywodd sut y bydd y cwmni鈥檔 defnyddio buddsoddiad o 拢2m gan Brifddinas-Ranbarth Caerdydd i ddatblygu ei dechnoleg Plasma Oer. Dywed y cwmni bod y dechnoleg wedi bod yn effeithiol yn llonyddu a dihalogi feirws Covid-19.

Mewn ymateb i鈥檙 pandemig, bydd Creo Medical yn rhoi blaenoriaeth i ddatblygu technoleg arloesol sy鈥檔 ateb yr anghenion brys a gr毛wyd gan Covid-19, yn cynnwys diheintio cyfarpar diogelu personol a chyfarpar meddygol.

Mae鈥檙 benthyciad o 拢2m, sydd i鈥檞 ad-dalu dros bum mlynedd, wedi鈥檌 ddarparu gan Brifddinas-Ranbarth Caerdydd. Mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i gefnogi ymchwil a datblygu arloesol yng Nghymru ac mae wedi ymrwymo 拢500 miliwn i Brifddinas-Ranbarth Caerdydd, gan ei helpu i gefnogi cwmn茂au arloesol fel Creo Medical.

Dangoswyd amrediad Creo o gynnyrch endosgopi llawfeddygol ynni uwch i Ysgrifennydd Cymru hefyd. Cynhyrchion sydd eisoes yn cael eu defnyddio i chwyldroi triniaeth canser y coluddyn ac y gellid eu defnyddio鈥檔 fuan i drin mathau eraill o ganser, megis canser yr ysgyfaint a chanser pancreatig.

Dywedodd Simon Hart, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae鈥檔 wych gweld cwmn茂au o Gymru yn ymateb i鈥檙 heriau sydd wedi鈥檜 creu gan y pandemig hwn ac yn datblygu technoleg a all wneud gwahaniaeth go iawn yn y frwydr yn erbyn Covid-19.

Bydd buddsoddiad 拢2 filiwn Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn hybu鈥檙 ymchwil arloesol sydd eisoes yn digwydd yn Creo Medical ac yn helpu i wella safle de Cymru fel arweinydd yn natblygiad technoleg feddygol.

Dywedodd Craig Gulliford, Prif Weithredwr Creo:

Roeddem yn falch iawn o groesawu Ysgrifennydd Gwladol Cymru i鈥檔 cyfleusterau yma yng Nghas-gwent. Rydym yn falch o fod wedi defnyddio ein harbenigedd yn datblygu dyfeisiau meddygol arloesol a鈥檜 cymhwyso i鈥檔 technoleg plasma i ddatblygu cynnyrch a allai helpu i atal lledaeniad y Coronafeirws.

Mae gan Gymru enw da iawn am gynhyrchu cwmn茂au gwyddorau bywyd arloesol sy鈥檔 gryf o ran technoleg ac rwyf wrth fy modd ein bod wedi sefydlu llwyfan i ddatblygu offer meddygol tyngedfennol yma yn y DU a fydd o fudd i gleifion canser ledled y byd, ac amddiffyn ein cenedl rhag i COVID-19 gael gafael yma eto.

Dywedodd Peter Fox, Arweinydd Cyngor Sir Fynwy ac Is-gadeirydd Cabinet Prifddinas-Ranbarth Caerdydd:

Mae鈥檔 bleser gan Gabinet Prifddinas-Ranbarth Caerdydd gefnogi Creo Medical i ddatblygu ei dechnoleg Plasma Oer. Ni fyddai鈥檙 arloesi aruthrol hwn mewn sterileiddio wedi gallu dod ymlaen ar adeg well a bydd y dechnoleg newydd hon yn gweddnewid pethau o ran lladd bacteria a firysau. Mae eisoes wedi profi y gall fod yn effeithiol yn erbyn COVID-19.

Mae鈥檙 diwydiant MedTech yn faes datblygu allweddol ac yn gyfle i Brifddinas-Ranbarth Caerdydd. Mae鈥檔 wych fod Creo yma yn ein mysg - mae ar flaen y gad ym myd y gwyddorau meddygol. Mae darparu鈥檙 benthyciad hwn yn sicrhau bod modd datblygu鈥檙 dechnoleg hanfodol hon yn gyflym.

Mae ein rhanbarth yn lle cyffrous i fod ynddo ac mae ein Bargeinion Dinesig yn barod i ddatgloi rhagor o gyfleoedd. Rydyn ni mor falch o fod yn gweithio gyda chwmn茂au blaengar fel Creo Medical ac rydyn ni鈥檔 edrych ymlaen at weithio gyda nhw.

Sefydlwyd arbenigedd Creo Medical fel dylunydd dyfeisiau meddygol arloesol drwy ei amrediad o ddyfeisiau llawfeddygol ynni uwch y gellir eu defnyddio鈥檔 endosgopig i drin ystod eang o gymhlethdodau gastroberfeddol yn ddiogel, gan gynnwys arwyddion cynnar canser y coluddyn. Wedi鈥檌 arloesi yn y DU gan endosgopwyr mwyaf blaengar y GIG, dangoswyd bod defnyddio cynnyrch cyntaf Creo, Speedboat, yn arbed bron i 拢5,000 y driniaeth i ysbytai鈥檙 GIG o鈥檌 gymharu 芒 thechnegau llawfeddygol traddodiadol. Mae technoleg Creo yn caniat谩u i lawdriniaethau a arferai gael eu cynnal dan anesthetig cyffredinol gael eu gwneud yn gyflym ac yn ddiogel fel triniaethau cleifion allanol 鈥� gan roi manteision i鈥檙 GIG o ran economeg a lleihau rhestrau aros, ond hefyd gan roi canlyniadau gwell i gleifion.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 14 Gorffennaf 2020