Ysgrifennydd Cymru yn mynychu gwasanaeth i goff谩u 100 mlynedd ers diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf
Alun Cairns: Ddiwrnod y Cadoediad yn nodi un o鈥檙 adegau mwyaf arwyddocaol yn hanes ein cenedl.

Mae ein dyled o ddiolchgarwch i genedlaethau o berson茅l y Lluoedd Arfog yn anfesuradwy, meddai Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns, heddiw wrth iddo baratoi i ymuno 芒鈥檙 miliynau o bobl ledled y DU sy鈥檔 mynychu digwyddiadau a gwasanaethau cofio ar Ddiwrnod y Cadoediad.
Bydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn cynrychioli Llywodraeth y DU mewn gwasanaeth diolchgarwch yn Eglwys Gadeiriol Llandaf. Bydd yn ymuno 芒 gwesteion gan gynnwys Eu Huchelderau Brenhinol ac Iarll ac Iarlles Wessex, a hynny i goff谩u canmlwyddiant ers diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf.
Yn 1918 ar yr unfed awr ar ddeg o鈥檙 unfed diwrnod ar ddeg o鈥檙 unfed mis ar ddeg, llofnodwyd Cadoediad y Rhyfel Byd Cyntaf mewn cerbyd tr锚n yng Nghoedwig Compi猫gne yng ngogledd Ffrainc, gan berson茅l milwrol a oedd yn cynrychioli Ffrainc, yr Almaen a Phrydain Fawr.
100 mlynedd yn ddiweddarach, bydd miloedd o aelodau鈥檙 cyhoedd yn gorymdeithio heibio鈥檙 Senotaff yn Whitehall i nodi鈥檙 canmlwyddiant, a hynny fel rhan o Orymdaith y Bobl. Ar yr un pryd, bydd pobl yn cael eu hannog i ganu clychau ledled y byd, wrth i Lywodraeth y DU geisio efelychu鈥檙 don o ryddhad a roddwyd yn 1918.
Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
Ddydd Sul, bydd pobl o bob cefndir yn ymgynnull mewn gwasanaethau cofio ledled y DU i nodi un o鈥檙 adegau mwyaf arwyddocaol yn hanes ein cenedl.
Wrth i鈥檙 digwyddiadau canmlwyddiant ddirwyn i ben, rhaid i ni roi blaenoriaeth ar sicrhau ein bod ni鈥檔 parhau i gadw hanes y Rhyfel Byd Cyntaf yn fyw. Uchelgais Llywodraeth y DU oedd cynnal digwyddiad coff谩u gwirioneddol genedlaethol, gan ddarparu sylfaen i greu gwaddol diwylliannol ac addysgol, yn ogystal 芒 sicrhau y bydd yr aberth a鈥檙 gwasanaeth a roddwyd gan mlynedd yn 么l yn dal i gael ei gofio ymhen can mlynedd.
Rwy鈥檔 falch o gynrychioli Llywodraeth y DU a chael bod yn rhan o鈥檙 profiad arbennig hwn o fyfyrio yn Eglwys Gadeiriol Llandaf heddiw. Dewch i ni gyd gymryd saib i gofio am y bobl a gollodd eu bywyd a鈥檙 bobl y bydd eu haberth a鈥檜 dewrder yn cael eu hanrhydeddu am amser maith ar ein holau ni.
Mae blwyddyn y canmlwyddiant yn disgyn ar yr un flwyddyn ag y cafodd Diwrnod Lluoedd Arfog y DU ei gynnal yn Llandudno a鈥檙 flwyddyn yr aeth Ysgrifennydd Gwladol Cymru i Affganistan i weld 260 milwr y Gwarchodlu Cymreig sydd wedi鈥檜 lleoli yn y brifddinas, Kabul.
Roedd Nigel Adams, Gweinidog Llywodraeth y DU yng Nghymru, hefyd yn bresennol yn agoriad y Maes Coffa yng Nghaerdydd yn gynharach yn yr wythnos. Talodd deyrnged i gofio am y bobl a fu farw yn ystod y rhyfel drwy osod croes bren gyda鈥檌 deyrnged bersonol ei hun arni i鈥檙 bobl a gollodd eu bywyd.
Bydd gwasanaethau ddydd Sul yn nodi diwedd rhaglen canmlwyddiant Llywodraeth y DU, sef rhaglen pedair blynedd lle cynhaliwyd digwyddiadau coffa cyson i geisio adrodd stori鈥檙 holl wledydd a oedd yn gysylltiedig 芒鈥檙 Rhyfel Byd Cyntaf. Y fyddin fwyaf o wirfoddolwyr oedd Byddin Brydeinig India, a wnaeth ddarparu tua 1.3miliwn o filwyr o gredoau amrywiol. Bydd cynrychiolwyr o Ganolfan India yn bresennol yn Eglwys Gadeiriol Llandaf ddydd Sul i nodi鈥檙 cyfraniad arwyddocaol hwn i ymdrech y rhyfel.
Ychwanegodd Alun Cairns:
Mae Llywodraeth y DU bob amser wedi ceisio sicrhau bod gweithgareddau cofio yn tynnu sylw at gyfraniadau o bob cwr o鈥檙 Gymanwlad, yn ogystal 芒 sicrhau eu bod yn berthnasol i bobl o bob ethnigrwydd a chred yr oedd eu cyndeidiau鈥檔 gysylltiedig 芒鈥檙 rhyfel. Rwy鈥檔 gobeithio y bydd llawer mwy o bobl nawr yn ymwybodol o鈥檙 cyfraniad a wnaeth eu perthnasau i鈥檙 Rhyfel Byd Cyntaf. Hefyd, rwy鈥檔 gobeithio y bydd llawer mwy o bobl yn gwybod yn union faint o bobl 鈥� o bob ethnigrwydd, hil a chred 鈥� wnaeth frwydro dros y rhyddid rydyn ni i gyd yn ei fwynhau heddiw.