Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Cymru: 鈥淢ae'n hollbwysig cefnogi busnesau yng Nghymru wledig鈥�

David Jones yn cynnal cyfarfod Siambr Fasnach Canolbarth Cymru

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Exports to Asia

Heddiw (9 Ionawr) bydd David Jones, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, yn cynnal cyfarfod o amgylch y bwrdd ag arweinwyr busnes ym Mhowys a Cheredigion i nodi blwyddyn ers sefydlu Siambr Fasnach Canolbarth Cymru.

Lansiodd Siambr Fasnach De Cymru ei changen Canolbarth Cymru ym mis Ionawr 2013 ar y cyd 芒 Gr诺p Gweithgynhyrchu鈥檙 Canolbarth, gyda golwg ar sefydlu cynrychiolaeth benodol ar gyfer busnesau lleol ym Mhowys a Cheredigion.

Bydd Mr Jones yn cwrdd 芒 Graham Morgan, Cyfarwyddwr Siambrau Masnach De a Chanolbarth Cymru, ynghyd ag aelodau鈥檙 siambr yn y cyfarfod yn y Drenewydd i drafod y gwasanaethau cymorth sydd ar gael i fusnesau yn yr ardal sy鈥檔 awyddus i ehangu i farchnadoedd newydd.

O lansio鈥檙 strategaeth Small Business: GREAT Ambition ar gyfer y gefnogaeth sydd ar gael gan Masnach a Buddsoddi y DU (UKTI), bydd Mr Jones yn amlinellu鈥檙 camau a gymerir gan Lywodraeth y DU i gynorthwyo busnesau yng Nghymru. Bydd y trafodaethau hefyd yn canolbwyntio ar y blaenoriaethau ar gyfer twf economaidd a nodwyd ym maniffesto鈥檙 Siambr ynghylch twf economaidd.

Mae鈥檙 maniffesto鈥檔 canolbwyntio ar bedwar maes allweddol, sef seilwaith a chysylltedd; sgiliau ac addysg; cyngor a chymorth i fusnesau; a masnach ryngwladol. Mae hefyd yn amlinellu pecyn o fesurau a fydd, ym marn aelodau鈥檙 Siambr, yn gwneud gwahaniaeth go iawn i ddyfodol economaidd busnesau ar hyd a lled Cymru.

Dywedodd David Jones AS, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Dros y blynyddoedd, mae gwahanol ganghennau Siambrau Masnach wedi chwarae rhan allweddol drwy fod yn llais amlwg dros fusnesau lleol ledled y wlad. Roeddwn yn falch iawn o weld Siambr Fasnach De Cymru yn ehangu ei dylanwad i Ganolbarth Cymru, gan ei fod yn gyfle gwych i greu swyddi a thwf ym Mhowys a thu hwnt.

Mae鈥檔 hollbwysig bod busnesau yn ardaloedd mwyaf gwledig Cymru yn cael cymorth. Nid yn unig maent yn cyfrannu at ein hadferiad economaidd, maent hefyd yn darparu swyddi gwerthfawr ac yn helpu i gryfhau sefyllfa Prydain yn y farchnad fyd-eang.

Os yw Cymru am lwyddo yn y ras fyd-eang, mae angen i ni wneud mwy i helpu cwmn茂au i dyfu ac i lwyddo mewn marchnadoedd rhyngwladol newydd. Rwyf yn edrych ymlaen at drafodaeth fywiog ag arweinwyr busnes er mwyn clywed beth arall y gellir ei wneud i gryfhau鈥檙 economi leol, i sbarduno adfywio ac i hybu ffyniant yn y rhan bwysig hon o Gymru.

Dywedodd Graham Morgan, Cyfarwyddwr Siambrau Masnach De a Chanolbarth Cymru:

Mae鈥檔 bleser gennym groesawu Ysgrifennydd Gwladol Cymru i Ganolbarth Cymru, i weld llwyddiant ac amrywiaeth busnesau yn yr ardal 芒鈥檌 lygaid ei hun. Mae鈥檙 ymweliad yn gyfle gwych i berchnogion busnes ac entrepreneuriaid s么n am y problemau maent yn eu hwynebu ar hyn o bryd, fel datblygu sgiliau a鈥檙 gallu i recriwtio staff priodol.

Ar 么l y cyfarfod, bydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn ymweld 芒 busnesau yn y Drenewydd ac yn y Trallwng sy鈥檔 profi twf sylweddol dramor a gartref.

Yng nghwmni Graham Morgan, bydd Mr Jones yn ymweld yn gyntaf ag enillydd Busnes y Flwyddyn Powys 2013, sef Quartix yn y Drenewydd.

Sefydlwyd Quartix yn 2001, ac mae wedi datblygu i fod yn un o鈥檙 cwmn茂au uchaf ei barch yn y DU ym maes tracio cerbydau. Heddiw, mae dros 5,000 o gwsmeriaid ar draws holl sectorau economi鈥檙 DU bron 鈥� gan gynnwys sefydliadau鈥檙 llywodraeth a鈥檙 gwasanaethau brys 鈥� yn defnyddio鈥檙 system. Cafodd dros 43,000 o unedau eu gosod yn ystod 2013.

Roedd y cerbydau a ddefnyddiwyd yn ystod Gemau Olympaidd a Pharalympaidd Llundain 2012 wedi鈥檜 tracio ag unedau telemateg GPS uwch Quartix, gan roi gwybodaeth amser real am union leoliadau cerbydau ar unrhyw amser.

Mae Quartix yn gweithredu yn Ffrainc yn ogystal 芒鈥檙 DU, ac mae wedi bod yn paratoi i lansio yn UDA yn 2014.

Llwyddodd y busnes, sydd wedi cynyddu ei weithlu o dri i 70 mewn 12 mlynedd, i gipio Gwobr Busnes y Flwyddyn Powys a Gwobr Twf Busnes yng Ngwobrau Busnes Powys ym mis Hydref y llynedd.

Dywedodd Andy Kirk, Cyfarwyddwr Quartix:

Gwelwyd twf o fwy na 50% yn ystod 2013, ac mae hynny鈥檔 deillio o enw da鈥檙 cwmni, ymarferoldeb cynnyrch allweddol a thelerau contract syml. Yn sail i hynny mae gwaith caled ac ymroddiad pob aelod o鈥檔 t卯m rhagorol o weithwyr, sy鈥檔 fedrus iawn ac yn llawn cymhelliant.

Bydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn teithio i鈥檙 Trallwng yn ddiweddarach, lle bydd yn ymweld 芒鈥檙 cwmni cydrannau ceir, CastAlum.

Mae鈥檙 cwmni, sydd wedi ennill enw da yn rhyngwladol, yn cynhyrchu offer llywio, casys trawsyrru a llywio, a chymalau daliant ar gyfer marchnadoedd yn y DU, yr Almaen, Gwlad Pwyl, Canada a Mecsico. Ar 么l llwyddo i gyflenwi darnau i鈥檙 Dwyrain Canol yn y gorffennol, mae鈥檙 cwmni bellach yn ffynhonnell ddatblygu ar gyfer cydran newydd i鈥檙 ardal honno.

Heddiw, mae gan un o bob deg cerbyd sy鈥檔 cael ei gynhyrchu ar gyfer cyflenwyr Ewropeaidd offer llywio sydd wedi鈥檌 weithgynhyrchu gan CastAlum.

Bydd Mr Jones yn cyfarfod 芒 Chadeirydd CastAlum, Peter Radcliffe, a鈥檙 Rheolwr AD, Hannah Barrett, a fydd wedyn yn ei dywys ar daith o amgylch y safle cynhyrchu.

Dywedodd Peter Radcliff:

Mae llwyddiant CastAlum i ehangu wedi deillio o鈥檔 gallu a鈥檔 parodrwydd i fuddsoddi mewn technoleg ac offer arloesol, sy鈥檔 ein galluogi i aros ar flaen y gad o ran gofynion cynyddol ein cwsmeriaid am gyflenwadau o safon.

Mae鈥檙 ffaith ein bod wedi gallu cadw ac ehangu sgiliau, gan sicrhau parhad y gweithlu 鈥� rhywbeth sydd wedi cyfrannu鈥檔 fawr at ein hallbwn ac at effeithlonrwydd o ran ansawdd 鈥� hefyd wedi bod yn allweddol yn hyn o beth.

Wrth symud ymlaen, bydd alwminiwm yn cyfrannu鈥檔 sylweddol at y cysyniad lightweighting, a fydd yn gwneud y cyfraniad pwysicaf at wella allyriadau cerbydau yn ystod y blynyddoedd nesaf. Credwn y byddwn, oherwydd ein sylfaen sgiliau a鈥檔 technoleg, mewn sefyllfa dda i fanteisio ar yr ymgyrch hon i greu cerbydau sy鈥檔 fwy effeithlon yn amgylcheddol.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 9 Ionawr 2014