Gwobrau Busnes y Daily Post gan Stephen Crabb, Ysgrifennydd Gwladol Cymru
Stephen Crabb: "Mae rhestr fer Gwobrau Busnes y Daily Post yn amlygu鈥檙 amrywiaeth enfawr o gwmn茂au cyffrous sydd wedi eu seilio yng ngogledd Cymru"

,
O bobyddion sy鈥檔 gwerthu bara brith i America, i farchnatwyr cyfryngau cymdeithasol arloesol - mae rhestr fer Gwobrau Busnes y Daily Post yn amlygu鈥檙 amrywiaeth enfawr o gwmn茂au cyffrous sydd wedi eu seilio yng ngogledd Cymru.
Mae鈥檙 rhestr fer nodedig hon, gyda chwmn茂au sydd wedi llwyddo dramor, megis Bara Henllan a Livetech, ynghyd 芒 Gr诺p Hamdden Tir Prince a KK Foods, yn amlygu angerdd rhanbarth bywiog sydd 芒 busnesau sy鈥檔 edrych am allan ac yn hyderus ynghylch y dyfodol.
Gyda chymysgedd trawiadol o allforwyr mawr a busnesau bach a chanolig, mae gogledd Cymru yn arwain y ffordd o ran datblygu busnes yng Nghymru. Yn gynharach y mis hwn, cefais brofiad uniongyrchol o鈥檙 uchelgais hynny pan ymwelais 芒 gogledd Cymru a chwrddais 芒 phobl flaenllaw ym maes busnes a diwydiant. Mae ganddynt weledigaeth glir o sut yr hoffent i ogledd Cymru weithredu: awyddus am dwf; elwa ar drethi isel a llai o fiwrocratiaeth; a ffynnu fel rhan annatod o鈥檙 鈥楴orthern Powerhouse鈥�.
Mae鈥檙 鈥楴orthern Powerhouse鈥�, sy鈥檔 ymestyn o ogledd Cymru i Newcastle, yn arwyddocaol iawn i鈥檙 rhan hon o Gymru. Drwy wella鈥檙 cysylltiadau rhwng dinasoedd gogledd Lloegr a throsglwyddo pwerau o鈥檙 canol, mae鈥檙 Llywodraeth yn datgloi potensial y rhanbarth cyfan hwn. Mae dinasoedd gogledd Lloegr yn arwain y ffordd wrth i鈥檙 Llywodraeth ail gydbwyso鈥檙 economi fel nad yw鈥檔 dibynnu gormod ar sector gwasanaethau ariannol Llundain a de ddwyrain Lloegr. Mae gogledd Cymru mewn lle perffaith i elwa ar hyn.
Mae鈥檙 Daily Post wedi cefnogi鈥檙 weledigaeth hon o鈥檙 dechrau un. Mae gan y papur newydd hwn hanes balch o gefnogi busnesau gogledd Cymru a herio Llywodraeth Caerdydd a Llundain er mwyn sicrhau鈥檙 amgylchiadau gorau er mwyn eu helpu i lwyddo. Mae鈥檙 Daily Post yn adnabod gogledd Cymru a bob tro yn hyrwyddo ei hunaniaeth ddeinamig ac unigryw.
Gyda鈥檙 weledigaeth 鈥楴orthern Powerhouse鈥� yn mynd o nerth i nerth, mae hyn yn gyfnod cyffrous i ogledd Cymru a鈥檙 math o gwmn茂au sy鈥檔 cystadlu yng ngwobrau busnes y Daily Post yw鈥檙 rhai sy鈥檔 gyfrifol am arwain y ffordd. Mae eu brwdfrydedd a鈥檜 penderfyniad di-ben-draw am lwyddiant yn newyddion cadarnhaol i swyddi, i ffyniant, ac i bawb sy鈥檔 byw ac yn gweithio yn yr ardal hon.