Ysgrifennydd Cymru'n Stephen Crabb ymweld 芒 Sioe Frenhinol Cymru
Stephen Crabb: "Rhaid i ni gywain potensial economaidd ein diwydiant bwyd a ffermio yn llawn"

Bydd cefnogi鈥檙 sbectrwm llawn o fywyd gwledig a ffermio yng Nghymru yn ffactor pwysig o ran sicrhau ein ffyniant economaidd yn y dyfodol, yn 么l Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Stephen Crabb, heddiw yn ystod ei ymweld 芒 Sioe Frenhinol Cymru (23 Gorffennaf).
Roedd y maes yn Llanelwedd yn gefndir i鈥檙 cyhoeddiad am ymrwymiad Llywodraeth y DU i helpu鈥檙 sector bwyd a ffermio i ddod 芒 拢7.4 biliwn yn ychwanegol i economi鈥檙 DU dros y pum mlynedd nesaf.
O greu Canolfan Arloesedd Bwyd ar gyfer y DU gyfan i weld rhagor o gynnyrch o Gymru ar y rhestr o Enwau Bwyd Gwarchodedig, nod y mesurau yw creu rhagor o swyddi mewn ardaloedd gwledig a denu mwy o fuddsoddiad i gymunedau lleol Cymru.
I nodi鈥檙 cyhoeddiad, aeth Ysgrifennydd Gwladol Cymru i Sioe Frenhinol Cymru yng gnhwmni David Cameron oedd yn ymweld a鈥檙 Sioe am yr eilwaith mewn dwy flynnedd. Cyfaru鈥檙 ddau 芒 sefydliadau amaethyddol, a gweld yr amrywiaeth o gynnyrch o Gymru sy鈥檔 llenwi silffoedd archfarchnadoedd ac sydd i鈥檞 gweld mewn bariau a thai bwyta ar draws y byd.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Gwladol Stephen Crabb:
Mae Cymru鈥檔 gartref i rai o鈥檙 busnesau bwyd a ffermio mwyaf arloesol yn y DU - gyda鈥檜 gwreiddiau鈥檔 ddwfn yn eu cymunedau ond 芒鈥檜 golwg, yn bwysig iawn, ar y byd.
Mae鈥檔 hollbwysig ein bod ni鈥檔 cywain potensial economaidd ein busnesau gwledig yng Nghymru yn llawn, a hynny gartref a thramor. Dyna pam ein bod ni鈥檔 cael gwared 芒 rhwystrau masnachu er mwyn i ffermwyr allforio i wledydd newydd, ac yn cael gwared ar fiwrocratiaeth er mwyn iddyn nhw allu dal ai i ffermio yn hytrach na gorfod gwneud gwaith papur. Mae ein buddsoddiad gwerth 拢69 miliwn mewn band eang cyflym iawn nawr yn cyrraedd y cartrefi a鈥檙 busnesau hynny yn yr ardaloedd mwyaf anhygyrch yng Nghymru, gan ei gwneud yn haws i ffermwyr ddal ati gyda鈥檜 trafodion cymdeithasol a busnes ar-lein.
Mae hyn i gyd yn rhan o鈥檔 cynllun hirdymor i feithrin diwydiant bwyd a ffermio sy鈥檔 dal i dyfu ac sy鈥檔 creu swyddi i bobl Cymru.
NODIADAU I OLYGYDDION:
Mae Llywodraeth y DU yn gweithio鈥檔 galed i gefnogi鈥檙 diwydiant ffermio a rhoi hwb i鈥檙 economi yng Nghymru drwy:
- Agor marchnadoedd newydd ar gyfer allforio
- Cryfhau r么l dyfarnwr y cod cyflenwi bwydydd
- Annog banciau i helpu ffermwyr mewn cyfnodau anodd
- Parhau i bwyso ar yr UE i gymryd camau pellach yng nghyswllt labelu bwyd
- Cynyddu鈥檙 cyfnod y gall ffermwyr gyfrifo eu helw o ddwy flynedd i bum blynedd o fis Ebrill nesaf.