Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Cymru yn ymateb i Ystadegau鈥檙 Farchnad Lafur

Ffigurau Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos gostyngiad pellach yn lefelau diweithdra yng Nghymru.

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Labour Market

Mae cynllun economaidd hirdymor y Llywodraeth hon yn gweithio ar gyfer pobl Cymru, yn 么l David Jones, Ysgrifennydd Cymru, heddiw (11 Mehefin), wrth i ffigurau swyddogol ddatgelu gostyngiad pellach yn y lefelau diweithdra yng Nghymru.

Mae鈥檙 ffigurau cyflogaeth diweddaraf a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) yn datgelu bod diweithdra wedi gostwng 3,000 dros y chwarter diwethaf. Mae diweithdra ymysg pobl ifanc hefyd wedi gweld gostyngiad o 1,300 y mis hwn, gyda 5,500 yn llai o bobl ifanc yn hawlio Lwfans Ceisio Gwaith o gymharu 芒鈥檙 adeg hon y llynedd.

Er bod ffigurau heddiw hefyd yn datgelu bod nifer y bobl mewn cyflogaeth yng Nghymru wedi gostwng 17,000 o gymharu 芒鈥檙 chwarter diwethaf, mae 10,000 yn fwy o bobl yn gweithio yng Nghymru erbyn hyn o gymharu 芒鈥檙 llynedd.

Dywedodd David Jones Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Wythnos diwethaf, nododd Araith y Frenhines y cam pwysig nesaf yng nghynllun economaidd hirdymor y llywodraeth. Mae鈥檙 ffigurau heddiw yn dangos bod y cynllun yn gweithio ac mae鈥檙 mesurau y mae鈥檙 llywodraeth hon wedi鈥檜 rhoi ar waith wedi rhoi Cymru ar y trywydd cywir tuag at sicrhau economi gryfach a gwytnach.

Fodd bynnag, allwn ni ddim llaesu dwylo. Mae effaith dirywiad 2008 i鈥檞 theimlo o hyd ac mae mwy o waith i鈥檞 wneud o hyd. Mae ein cynllun ni yn un hirdymor, ac nid yw鈥檔 ateb byrdymor. Mae angen i ni sicrhau bod pawb yng Nghymru yn gallu cael budd o farchnad swyddi sy鈥檔 gwella a鈥檙 economi sy鈥檔 tyfu. Mae pob swydd a gaiff ei chreu yn golygu bod gan deulu arall fwy o sicrwydd ariannol a rhagolygon mwy llewyrchus yn y dyfodol.

Y risg fwyaf i sicrwydd economaidd Cymru yn y dyfodol fyddai rhoi鈥檙 gorau i gynllun sy鈥檔 gosod y sylfeini ar gyfer dyfodol mwy ariannol sicr i Brydain, ar gyfer pobl syn gweithio鈥檔 galed a鈥檜 teuluoedd.

Gweler y ffigurau cyflogaeth diweddaraf

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 11 Mehefin 2014