Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Cymru鈥檔 ymateb i ffigurau GYC

Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru David Jones wedi ymateb i鈥檙 ystadegau Gwerth Ychwanegol Crynswth (GYC) a ryddhawyd heddiw.

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

GVA statistics published today

Mae鈥檙 ffigurau a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos mai yng Nghymru y cafwyd y cynnydd uchaf ond dau mewn GYC y pen o鈥檙 holl wledydd datganoledig a rhanbarthau Lloegr. Roedd y twf mewn GYC y pen hefyd yn uwch nac ar draws y DU yn gyffredinol.

Fodd bynnag, mae Cymru鈥檔 parhau i fod 芒鈥檙 GYC isaf y pen o unrhyw wlad ddatganoledig neu ranbarth o Loegr; mae GYC y pen yng Nghymru bron i 28% yn is na chyfartaledd y DU.

Dywedodd David Jones, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Dengys y ffigurau GYC a ryddhawyd heddiw fod ein hymdrechion i gydbwyso economi鈥檙 DU eto yn dwyn ffrwyth, a bod Cymru鈥檔 elwa o bolis茂au economaidd y Llywodraeth hon.

Mae鈥檔 galonogol fod y bwlch mewn GYC y pen yng Nghymru dros y flwyddyn ddiwethaf wedi lleihau o鈥檌 gymharu 芒 chyfartaledd y DU.

Fodd bynnag, pery Cymru 芒鈥檙 GYC isaf yn y DU, ac mae鈥檙 sefyllfa honno wedi aros yr un am ymhell dros ddegawd. Rhaid i鈥檔 holl ymdrechion 鈥� yn llywodraethau Cymru a鈥檙 DU - ganolbwyntio ar newid hynny.

Yr oedd Datganiad Hydref y Canghellor yr wythnos diwethaf wedi鈥檌 anelu at bobl ifanc, teuluoedd a busnesau; a chadarnhaodd ein blaenoriaeth fod y Llywodraeth hon yn canolbwyntio ar helpu pobl sy鈥檔 gweithio鈥檔 galed yng Nghymru.

Mae鈥檙 Llywodraeth hon yn ymestyn ystod o fesurau i helpu bron i 200,000 o Fentrau Bach a Chanolig ledled Cymru i gael gwell mynediad at gyllid drwy ddyblu鈥檙 Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach am 12 mis arall o 1 Ebrill 2014. Hefyd, bydd Canolfan Byd Gwaith yn ymestyn eu gwasanaethau i ddarparu cymorth i bobl ifanc 16-17 oed sydd eisiau cael gafael ar brentisiaeth a chyfleoedd hyfforddi. Yn ogystal, mae鈥檙 mesurau yn cynnwys ei gwneud yn haws i fusnesau gyflogi pobl ifanc drwy gael gwared 芒 chyfraniadau Yswiriant Gwladol ar gyfer pobl ifanc dan 21 oed sy鈥檔 ennill llai na 拢813 yr wythnos.

Bydd y mesurau a gyhoeddwyd yn parhau i helpu Cymru a gweddill y DU aros ar y llwybr tuag at adferiad.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 11 Rhagfyr 2013
Diweddarwyd ddiwethaf ar 13 Rhagfyr 2013 show all updates
  1. Adding Welsh translation

  2. First published.