Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Gwladol yn darparu platfform i drafod Parcffordd Gorllewin Cymru

Bydd Alun Cairns yn ymweld ag Abertawe i hyrwyddo gorsaf reilffordd newydd yn Felindre

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2016 to 2019 May Conservative government

Bydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru Alun Cairns yn cyfarfod ag Aelodau Cynulliad, cynghorwyr lleol ac aelodau o Fforwm Busnes Abertawe heddiw i agor trafodaethau ffurfiol ar gynlluniau Llywodraeth y DU ar gyfer gorsaf rheilffordd 鈥楶arcffordd Gorllewin Cymru鈥� ar hen safle gwaith dur Felindre yng ngogledd Abertawe.

Roedd y syniad o Orsaf Parcffordd newydd sy鈥檔 gwasanaethu gorllewin Cymru wedi鈥檌 chynnwys mewn rhestr 20 o geisiadau a wneir gan ddefnyddwyr rheilffyrdd yn ystod ymgynghoriad diweddar ar ddyfodol y fasnachfraint Great Western.

Bellach mae astudiaeth annibynnol gan un o brif arbenigwyr trafnidiaeth y DU wedi dod i鈥檙 casgliad y byddai gorsaf newydd yn sicrhau bydd teithwyr yn arbed amser sylweddol o hyd at chwarter awr bob ffordd wrth iddynt deithio o鈥檙 gorllewin i Gaerdydd, drwy dorri鈥檙 angen i deithio drwy ganol Abertawe.

Mae鈥檙 adroddiad gan yr Athro Stuart Cole, Athro Emeritws Trafnidiaeth ym Mhrifysgol De Cymru yn nodi y byddai鈥檙 orsaf yn lleihau鈥檙 tagfeydd ar yr M4 a鈥檙 prif ffyrdd drwy annog mwy o gymudwyr i deithio ar y rheilffyrdd. Byddai鈥檙 orsaf hefyd yn darparu gwell cysylltedd i mewn ac allan o Abertawe a rhwng cymunedau ar draws De orllewin Cymru gan gynnwys Llanelli, Rhydaman a Gorseinon wrth ddiogelu鈥檙 gwasanaethau presennol i Abertawe a Chastell-nedd.

Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru Alun Cairns:

Bydd gorsaf newydd ar gyfer y rhanbarth hwn yn docyn Gorllewin Cymru i fwy o gyfleoedd, drwy amseroedd teithio cyflymach a gwell cysylltedd 芒 dulliau eraill o drafnidiaeth gyhoeddus a fydd yn darparu cynnig deniadol i fuddsoddwyr ac arbed amser i gymudwyr.

Mae Rhanbarth Dinas Bae Abertawe yn bwysig i economi Cymru a鈥檙 DU a thrwy weithio ar y cyd gyda Llywodraeth Cymru a phartneriaid lleol gallwn manteisio i鈥檙 eithaf ar ei botensial. Edrychaf ymlaen at glywed barn arweinwyr yr awdurdodau a busnesau lleol i glywed sut y gallwn ddarparu ar eu cynlluniau uchelgeisiol ar gyfer y dyfodol.

DIWEDD

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 7 Chwefror 2019