Stori newyddion

Ysgrifennydd Cymru yn hybu cyfleoedd busnes, addysg a hyfforddiant rhwng y DU a Fietnam

Ac yntau ar daith masnach a buddsoddi yn Asia, mae cyfnod David Jones, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, yn Fietnam wedi dod i ben gyda chyfres o gyfarfodydd yn Hanoi a Dinas Ho Chi Minh i hybu鈥檙 cyfleoedd a鈥檙 manteision i gwmn茂au o Brydain wrth gynnal busnes yn y wlad.

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Yn Hanoi, bu Mr Jones mewn brecwast busnes gydag aelodau o Gr诺p Busnes Prydeinig Fietnam 鈥� gr诺p sy鈥檔 cynrychioli, yn cefnogi ac yn cynorthwyo pobl a busnesau yn Fietnam sydd 芒 chysylltiadau 芒鈥檙 DU.

Bu鈥檙 gr诺p yn trafod y cyfleoedd a鈥檙 sialensiau sy鈥檔 wynebu busnesau sy鈥檔 awyddus i weithio yn y farchnad sy鈥檔 datblygu yn Fietnam, a鈥檙 cymorth sy鈥檔 cael ei ddarparu ar hyn o bryd i fusnesau bach a chanolig sy鈥檔 dymuno allforio i farchnadoedd Asia am y tro cyntaf.

Fis Hydref y llynedd, lansiodd yr Arglwydd Green, y Gweinidog Masnach a Buddsoddi, y cynllun 鈥楬eadstart鈥�. Mae鈥檙 cynllun hwn yn cynnig cymorth i fusnesau bach a chanolig ym Mhrydain drwy gynnig mynediad at rwydweithiau busnes lleol yn Asia a鈥檜 cyflwyno i gwmn茂au o鈥檙 DU sydd eisoes wedi sefydlu eu hunain.

Ar 么l y cyhoeddiad hwn, rhannodd y Prif Weinidog y newyddion y bydd prosiect peilot newydd gwerth 拢8 miliwn i gryfhau gallu grwpiau busnes tramor, fel siambrau masnach, yn cael ei gyflwyno mewn 20 o wledydd allweddol 鈥� gan gynnwys Fietnam.

Dywedodd Mr Jones:

Mae鈥檙 farchnad Asiaidd yn cynnig cyfleoedd enfawr i fusnesau bach a chanolig, ond gall y syniad o fentro i farchnadoedd anghyfarwydd fod yn ddigon brawychus. Ceir amryw o fusnesau o Brydain a fyddai鈥檔 gallu allforio i Dde Ddwyrain Asia, ac mae鈥檙 cynllun hwn yn rhoi鈥檙 cymorth angenrheidiol iddynt gymryd y cam cyntaf hwnnw.

Bydd y prosiect peilot tramor yn helpu i weddnewid y modd y mae鈥檙 DU yn darparu cymorth masnach i fusnesau鈥檙 DU mewn gwledydd tramor, gan sicrhau y bydd y DU yn gallu bod yr un mor gystadleuol 芒 gwledydd fel yr Almaen, yr Unol Daleithiau a Ffrainc 鈥� gwledydd sydd 芒 siambrau cryf mewn gwledydd tramor, a鈥檙 rheini鈥檔 gallu cefnogi busnesau domestig mewn marchnadoedd tramor.

Mae uned newydd wedi cael ei sefydlu ym Masnach a Buddsoddi y DU i fynd 芒鈥檙 prosiect drwy ei gam cyntaf, a bydd yr uned hon yn adeiladu ar drafodaethau ar draws amrywiaeth o gyrff busnes, gan gynnwys Siambrau Masnach Prydain, Cydffederasiwn Diwydiant Prydain, Sefydliad y Cyfarwyddwyr, y Ffederasiwn Cyflogwyr Peirianyddol a鈥檙 Ffederasiwn Busnesau Bach. Bwriad hyn yw gwneud y profiad o dyfu ac ehangu i farchnadoedd tramor yn haws ac yn fwy di-dor i fusnesau yn y DU.

Aeth yn ei flaen:

Drwy gydol fy ymweliad, rwyf wedi cael fy nharo gan y cyfleoedd enfawr sydd ar gael i鈥檙 rheini yn y DU sy鈥檔 darparu gwasanaethau proffesiynol, hyfforddiant ac addysg.

Dywedodd Nick Baird, prif weithredwr Masnach a Buddsoddi y DU:

Mae Asia yn farchnad bwysig dros ben i fusnesau鈥檙 DU ac yn ffynhonnell bwysig sy鈥檔 datblygu o ran buddsoddiad uniongyrchol o dramor i鈥檙 DU. Mae鈥檔 gartref i nifer o鈥檙 econom茂au sy鈥檔 datblygu gyflymaf yn y byd, a cheir yno awydd cynyddol am nwyddau Prydeinig. Mae Masnach a Buddsoddi y DU, drwy ei rwydwaith o staff mewn mwy na 100 o lysgenadaethau a chonsyliaethau ar hyd a lled y byd, yn gweithio鈥檔 galed i wneud yn si诺r bod cwmn茂au o Brydain, yn enwedig busnesau bach a chanolig, yn manteisio ar y cyfle i ddod o hyd i gwsmeriaid newydd ar draws yr ardal.

Cafodd yr Ysgrifennydd Gwladol hefyd gyfle i gyfarfod 芒 David Priestly, Prif Swyddog Gweithredol Rolls Royce yn Fietnam, lle cafodd wybodaeth am ddiddordebau a buddsoddiadau Rolls Royce yn Fietnam ac yn benodol am ddyhead y cwmni i gyflenwi peiriannau i Vietnam Airlines 鈥� dyhead sy鈥檔 cael cefnogaeth gadarn gan Lywodraeth y DU fel prosiect allweddol yn y berthynas masnach a buddsoddi ehangach rhwng y DU a Fietnam.

Yn Ninas Ho Chi Minh, cyfarfu Mr Jones 芒 Madame Nguyen Thi Hong, Is-gadeirydd Pwyllgor y Bobl Dinas Ho Chi Minh, er mwyn hybu arbenigedd busnesau Prydeinig mewn Partneriaethau Cyhoeddus-Preifat, a鈥檙 cyfleoedd uchel eu gwerth sydd ar gael i fusnesau鈥檙 DU wrth i鈥檙 ddinas baratoi i ymroi i鈥檞 rhaglen uchelgeisiol ar gyfer datblygiadau seilwaith a dinesig.

Dinas Ho Chi Minh yw canolbwynt economaidd Fietnam. Mae rhaglen arwyddocaol o brosiectau adfywio ar droed ar gyfer y ddinas, gan gynnwys adeiladu canolfan ariannol newydd yn Thu Thiem, datblygu system reilffordd danddaearol newydd yn y ddinas, ac ailddatblygu maes awyr rhyngwladol Long Thanh.

Mae Madame Hong eisoes wedi cyfarfod 芒 nifer o gwmn茂au o Brydain sy鈥檔 ymwneud 芒鈥檙 meysydd ariannol, dylunio, peirianneg ac adeiladu ac sydd 芒 phresenoldeb yn Fietnam, er mwyn llywio鈥檙 cynlluniau ailddatblygu. Bu hefyd yn ymweld 芒 City UK a Canary Wharf yn Llundain yn gynharach eleni er mwyn cael ffeithiau.

Manteisiodd Mr Jones ar y cyfle i dynnu sylw at yr arbenigedd y gall cwmn茂au o Brydain ei gynnig, ac i s么n am y cymorth y gallant ei roi i ddatblygu鈥檙 prosiectau hyn a鈥檜 hadeiladu.

Dywedodd:

Mae cwmn茂au鈥檙 DU yn arweinwyr drwy鈥檙 byd ym maes rheoli prosiectau seilwaith mawr, a bydd hyn yn amlwg yn faes pwysig i Fietnam yn y blynyddoedd nesaf. Gan ystyried maint y buddsoddiad sydd ei angen, bydd angen modelau cyllid newydd hefyd. Rydym wedi mynd ati鈥檔 frwd i rannu ein profiadau ni o bartneriaethau cyhoeddus-preifat yn ystod ein hymweliad, ac rydym yn gobeithio bod hwn yn faes lle gall cwmn茂au鈥檙 DU gyfrannu eu profiadau o safon fyd-eang.

Cyn i鈥檙 Ysgrifennydd Gwladol gychwyn i Hong Kong 鈥� cam olaf y daith masnach 鈥� cyfarfu ag uwch weithredwyr sy鈥檔 berchen ar gwmn茂au yn Fietnam ac yn eu rheoli. Rhoddodd y cyfarfod gyfle i drafod yr heriau a鈥檙 cyfleoedd sy鈥檔 gysylltiedig 芒 chynnal busnes yn Fietnam, ac i hybu鈥檙 DU fel cyfle posib ar gyfer buddsoddiad busnes.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 22 Mawrth 2013
Diweddarwyd ddiwethaf ar 10 Ebrill 2013 show all updates
  1. Added translation

  2. First published.