Ysgrifennydd Cymru: Gall economi Gogledd Cymru fanteisio鈥檔 llawn ar HS2
Llwybr HS2 rhwng Gorllewin Canolbarth Lloegr a Crewe yn agor 6 blynedd yn gynnar

Heddiw cadarnhaodd y Canghellor George Osborne y bydd y cyswllt rheilffordd cyflym rhwng Gorllewin Canolbarth Lloegr a Crewe yn agor yn 2027 鈥� 6 blynedd yn gynt na鈥檙 disgwyl.
O ran Gogledd Cymru, bydd yr orsaf ganolog arfaethedig yn Crewe yn cynnig gwasanaethau cyflym i deithwyr ac yn creu cyfleoedd busnes a swyddi newydd yn y rhanbarth.
Disgwylir y bydd y llwybr newydd hwn yn lleihau amseroedd teithio鈥檔 sylweddol ac yn cynyddu capasiti rheilffyrdd prysur, a dywedwyd ers tro y bydd yn gatalydd sylweddol i hybu twf ac i sicrhau cydbwysedd rhwng econom茂au rhanbarthol ledled y wlad unwaith eto.
Mae gogledd-ddwyrain Cymru a gogledd-orllewin Lloegr yn creu un endid economaidd, a bydd y ddau ranbarth yn cydweithio mwy byth yn dilyn y cyswllt HS2.
Dywedodd Stephen Crabb, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
Gallai鈥檙 cyhoeddiad hwn, sef y bydd y cyswllt HS2 rhwng Gorllewin Canolbarth Lloegr a Crewe yn agor chwe blynedd yn gynt na鈥檙 disgwyl, wir drawsnewid rhagolygon economaidd Gogledd Cymru.
Bydd y rheilffordd hon yn agor y drws i Bwerdy鈥檙 Gogledd, sy鈥檔 ymestyn o ogledd Cymru i Newcastle, gan ddod 芒 chyfleoedd busnes a swyddi newydd yn ei sgil.
Ond mae鈥檙 weledigaeth yn mynd gam ymhellach na hynny. Bydd y galw cynyddol yn dilyn y cyswllt HS2 hefyd yn helpu i gryfhau鈥檙 achos busnes dros foderneiddio rheilffyrdd gogledd Cymru. Mae Swyddfa Cymru yn gweithio鈥檔 agos gydag awdurdodau lleol a grwpiau busnes yng ngogledd Cymru i ddatblygu鈥檙 achos busnes hwn, fel rhan o鈥檔 huchelgais ganolog i greu economi gryfach i鈥檙 DU gyfan.