Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn cwrdd ag arweinwyr busnes ar bontio鈥檙 UE

Roedd y cyfarfod yn cynnwys cynrychiolwyr o sefydliadau gan gynnwys CBI Cymru a Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru i drafod newidiadau sydd ar y gweill i'r ffordd y mae busnesau'n gweithio gyda'r UE

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2019 to 2022 Johnson Conservative government

Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru Simon Hart wedi cwrdd 芒 sefydliadau busnes allweddol i drafod parodrwydd ar gyfer diwedd cyfnod pontio鈥檙 UE.

Yn dilyn ymadawiad y DU o鈥檙 Undeb Ewropeaidd, bydd diwedd y cyfnod pontio ar ddiwedd mis Rhagfyr yn golygu bydd rheolau newydd a fydd yn effeithio ar bobl, busnesau a theithio i鈥檙 UE ac oddi yno.

P鈥檜n a gyrhaeddir cytundeb masnach 芒鈥檙 UE neu beidio, o 1 Ionawr bydd newidiadau i鈥檙 ffyrdd gall busnesau mewnforio ac allforio nwyddau, y broses o gyflogi pobl o鈥檙 UE a鈥檙 ffordd y darperir gwasanaethau ym marchnadoedd yr UE, felly mae Llywodraeth y DU yn annog busnesau i baratoi.

Roedd cyfarfod yr wythnos diwethaf, a gynhaliwyd ar ddydd Iau (25 Hydref) yn cynnwys CBI Cymru, Siambrau masnach de a gogledd Cymru, Ffederasiwn Busnesau Bach yng Nghymru a Sefydliad y Cyfarwyddwyr.

Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru Simon Hart:

Ar hyn o bryd mae pob busnes yn gweithredu dan amgylchiadau heriol iawn, ond serch hynny mae鈥檔 hanfodol eu bod yn paratoi ar unwaith ar gyfer ein perthynas newydd 芒鈥檙 UE, y tu allan i鈥檙 farchnad sengl a鈥檙 undeb y tollau. Oni bai bod busnesau yn gweithredu yn awr, mae perygl y bydd hyn yn torri ar draws eu ffordd o weithredu.

Bydd busnesau鈥檔 chwarae rhan hanfodol o sicrhau diwedd didrafferth i鈥檙 cyfnod pontio a bydd Llywodraeth y DU yno i鈥檞 cefnogi wrth i ni symud ymlaen ar ddechrau鈥檔 newydd i Gymru a鈥檙 DU.

Gall busnesau darganfod beth sydd angen iddynt wneud wrth ymweld 芒 gov.uk/transition a defnyddio鈥檙 offeryn wirio.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 19 Hydref 2020