Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Gwladol Cymru'n cwrdd 芒 phrentisiaid sy鈥檔 gweithio ar fand eang tra chyflym

Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Robert Buckland, yn ymweld 芒 Chanolfan Dysgu Cenedlaethol Cymru cwmni cyfathrebu Openreach, i weld hyfforddiant ar gyfer recriwtiaid newydd

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2019 to 2022 Johnson Conservative government
Secretary of State for Wales, Sir Robert Buckland, at Openreach's National Training Centre in Newport

Secretary of State for Wales, Sir Robert Buckland, at Openreach's National Training Centre in Newport

Yn ddiweddar ymwelodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Sir Robert Buckland, a Chanolfan Dysgu Cenedlaethol Cymru Openreach i weld hyfforddiant ar gyfer recriwtiaid newydd sy鈥檔 dod 芒 band eang tra chyflym i Gymru.

Mae鈥檙 Ganolfan newydd gwerth sawl miliwn yng Nghasnewydd yn rhoi cyfle i ddarparwr beiranwyr a rhai profiadol i brofi sgiliau newydd mewn stryd sy鈥檔 adlewyrchu鈥檙 byd go iawn, wrth ailgreu鈥檙 rhwydwaith yn y byd mawr.

Dros y blynyddoedd diwethaf, mae Openreach wedi recriwtio llawer o bobl er mwyn lledu band eang ffeibr cyflawn drwy Gymru a gweddill y Deyrnas Unedig. Mae鈥檙 ganolfan ddysgu yn chwarae r么l integrol wrth alluogi鈥檙 busnes i gyrraedd y targed o wasanaethu 25 miliwn cartref a busnes yn y DU erbyn mis Rhagfyr 2026.

Yng Nghymru, ar hyn o bryd mae oddeutu 160 prentis Openreach - o bob oedran - yn derbyn hyfforddiant, gydag oedran cyfartalog o 31. Wrth ymweld 芒鈥檙 ganolfan, cyfarfu Ysgrifennydd Gwladol Cymru 芒 nifer o brentisiaid sydd wedi penderfynu dod yn beirianwyr yn hwyrach yn eu gyrfaoedd, yn cynnwys Mariaisabel Ferrandez o Gaerdydd. Yn ddiweddar, graddiodd Mariaisabel o鈥檌 phrentisiaeth gydag Openreach ar 么l treulio nifer o flynyddoedd fel technegydd ambiwlans brys gyda Gwasanaeth Ambiwlans Cymru. Roedd am newid ei gyrfa er mwyn gweithio yn yr awyr agored a chael cyfle i ddysgu a datblygu ei gyrfa, felly penderfynodd Mariaisabel roi cynnig ar Openreach.

Esboniodd Mariaisabel:

Roeddwn wedi ystyried newid gyrfa am gyfnod ond heb bennu beth yn union roeddwn am wneud. Roedd ffrindiau wedi dweud bod Openreach yn gyflogwr da ac yn edrych i recriwtio mwy o fenywod fel peirianwyr, felly edrychais i weld y math o waith roedd yn cynnig.

Wrth wneud hynny, sylweddolais mai bod yn beiriannydd Openreach oedd y peth iawn i mi.

Mae hyfforddiant canolfan Casnewydd yn ardderchog.

Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Syr Robert Buckland:

Erbyn hyn mae pawb yn deall pa mor bwysig yw cysylltiadau band eang cyflym a dibynadwy.

Roedd yn wych gweld ffrwyth buddsoddiad Openreach yn ei rwydwaith ffeibr cyflawn, ynghyd 芒 hyfforddi a datblygu recriwtiaid newydd a pheirianwyr profiadol.

Yn ogystal, roedd yn dda cyfarfod recriwtiaid newydd fel Mariaisabel a chlywed am eu cyfraniad gwerthfawr at yr economi wrth adeiladu rhwydwaith tra-chyflym i wasanaethu鈥檙 wlad gyfan.

Dywedodd Kim Mears, rheolwr gyfarwyddwraig Openreach a chadeirydd Bwrdd Openreach Cymru:

Mae Canolfan Ddysgu Cenedlaethol Cymru yn adlewyrchu ymroddiad y cwmni nid yn unig wrth barhau i ddysgu a datblygu, ond hefyd i gefnogi Cymru gyfan.

Bydd y rhan helaeth o鈥檙 recriwtiaid yn dod yma i Gasnewydd i dderbyn hyfforddiant cyn mynd allan i鈥檙 byd go iawn a鈥檔 helpu i adeiladu ein rhwydwaith ffeibr cyflawn yn gyflym ar draws y wlad.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 10 Awst 2022