Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Cymru yn nodi Diwrnod y Cofio yn y Bathdy Brenhinol

Stephen Crabb yn bathu darn arian Diwrnod y Cofio

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2015 to 2016 Cameron Conservative government
Remembrance Day

Remembrance Day

Mae ein dyled o ddiolchgarwch i genedlaethau o berson茅l y Lluoedd Arfog yn anfesuradwy, meddai Stephen Crabb, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, heddiw yn ystod ymweliad 芒鈥檙 Bathdy Brenhinol yn Llantrisant.

Roedd Mr Crabb yn bresennol mewn seremoni Diwrnod y Cofio yng nghwmni staff y Bathdy Brenhinol a rhai o gyn-filwyr yr Ail Ryfel Byd, lle bydd yn gosod torch ar y gofeb ryfel sydd ar y safle.

Yn ystod yr ymweliad, wnaeth hefyd bathu darn arian 拢5 arbennig i nodi Diwrnod y Cofio 2015 ar ran y Bathdy Brenhinol, er cof am arwyr brwydrau鈥檙 gorffennol a鈥檙 presennol.

Ar y darn arian gwelir cyfansoddiad ingol gan un o ysgythrwyr y Bathdy Brenhinol, Glyn Davies. Wrth gymryd byrhoedledd fel ei thema, cafodd ei ysbrydoli nid yn unig gan golled bersonol ond hefyd y cysyniad o drawsnewid meysydd Fflandrys

Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Stephen Crabb:

Heddiw, bydd miloedd o bobl ledled Cymru yn gwisgo eu pabi gyda balchder, ac yn ymgynnull ger cofebion rhyfel i nodi aberth ein milwyr ar draws y byd.

Mae鈥檙 darn arian Diwrnod y Cofio yn ffordd deilwng o barchu鈥檙 rhai a gollodd eu bywydau yn gwasanaethu ein gwlad. Mae鈥檔 fraint cael y cyfle hwn i dalu鈥檙 deyrnged fechan ond arwyddocaol hon heddiw i鈥檙 nifer o genedlaethau a gollwyd ar faes y gad.

Ymysg y rhai a fydd yn ymuno 芒鈥檙 Ysgrifennydd Gwladol yn y gwasanaeth Coffa bydd yr awyr-lefftenant Russell Rusty Waughman o Swydd Warwick, awyr-lefftenant John Moore o鈥檙 Bont-faen a Swyddog Gwarant Doug Mustoe.

Hedfanodd yr awyr-lefftenant Waughman DFC (y Groes Hedfan Neilltuol), sy鈥檔 94 oed, awyrennau bomio Lancaster ar ddyletswyddau arbennig yn Sgwadron fawreddog 101 yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Hedfanodd awyr-lefftenant Moore, sy鈥檔 92 oed, 27 o hediadau awyrennau bomio Lancaster ar gyrchoedd ar draws Ewrop gyda鈥檙 Rheolaeth Awyrennau Bomio yn ystod yr Ail Ryfel Byd, cyn cael ei anafu pan laniodd ei awyren yn ddisymwth ar 么l cael ei difrodi tra鈥檙 oedd ar gyrch. Ar 么l gwella o鈥檌 anafiadau, hedfanodd John awyrennau Dakotas i鈥檙 adain drafnidiaeth.

Ychwanegodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Bydd yn anrhydedd enfawr cwrdd 芒鈥檙 awyr-lefftenant Moore a鈥檙 awyr-lefftenant Waughman heddiw. Maen nhw鈥檔 ddynion a ddangosodd ddewrder anhygoel a gwroldeb anhygoel - a hynny yn erbyn amgylchiadau anghyffredin. Mae ein dyled o ddiolchgarwch iddyn nhw, ac i鈥檙 rhai na ddaeth yn 么l adref, yn anfesuradwy, a heddiw rydym yn dweud diolch. Fe鈥檜 cofiwn.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 11 Tachwedd 2015