Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Cymru鈥檔 nodi lansio Digwyddiadau Cofio Canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf

Gan mlynedd yn ddiweddarach, bydd hanes effaith y Rhyfel Byd Cyntaf yn cael ei rannu a鈥檌 goff谩u ar draws y cenedlaethau.

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

First World War Centenary

Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David Jones AS, yn annog cymunedau a phobl o bob oed i ddod ynghyd i nodi a chofio bywydau鈥檙 rheini a fu fyw, a fu鈥檔 ymladd ac a fu farw yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.

Bydd gwasanaeth ar gyfer arweinwyr y Gymanwlad yng Nghadeirlan Glasgow a gwylnos yng ngolau cannwyll yn Abaty Westminster ar 4 Awst yn nodi cychwyn rhaglen ar gyfer y DU gyfan i nodi canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf.

Cynhelir cyfres o ddigwyddiadau diwylliannol, wedi鈥檜 cynllunio i anrhydeddu gwasanaeth ac aberth y rhai a fu鈥檔 ymladd, ac a fydd hefyd yn adrodd straeon y mwyafrif a arhosodd gartref, mewn rhaglen dros bedair blynedd.

Wrth wneud y cyhoeddiad heddiw, dywedodd David Jones, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Bydd digwyddiadau cofio canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf yn helpu鈥檙 genhedlaeth bresennol a鈥檙 cenedlaethau i ddod i ddysgu am hanes pob dyn neu fenyw yr effeithiodd y digwyddiad arwyddocaol hwn arnynt.

Pa un a fyddwch yn ystyried natur rhyfel, yn cofio am aelodau鈥檙 teulu a wasanaethodd yn y rhyfel, neu鈥檔 ymweld 芒 chofeb, mae鈥檔 gyfle i鈥檔 helpu i ddeall ein gorffennol yn well 鈥� a sut mae hynny鈥檔 dal i鈥檔 siapio ni heddiw.

Dros bedair blynedd y canmlwyddiant, bydd Llywodraeth y DU yn arwain y genedl mewn digwyddiadau coff谩u. Bydd pum dyddiad allweddol yn cael eu nodi, yn ogystal 芒 4 Awst: canmlwyddiant y glaniadau yn Gallipoli, Brwydr Jutland, diwrnod cyntaf Brwydr y Somme, diwrnod cyntaf Passchendaele, ac yn olaf, Diwrnod y Cadoediad.

Mae鈥檙 Llywodraeth hefyd yn lansio gwefan newydd yn arbennig ar gyfer y canmlwyddiant, a bydd logo arbennig ar gael i bawb sy鈥檔 trefnu eu digwyddiadau eu hunain yn ystod y cyfnod, i鈥檞 helpu i ddangos beth maent yn ei wneud.

Bydd yn cynnwys y newyddion diweddaraf am gynlluniau鈥檙 Llywodraeth ar gyfer nodi鈥檙 canmlwyddiant, a bydd yn fodd o weld beth mae eraill yn ei wneud hefyd.

NODIADAU I OLYGYDDION

鈥aw鈥檙 cyhoeddiad heddiw yn dilyn araith ym mis Hydref 2012 gan y Prif Weinidog, David Cameron, ble nododd ddull gweithredu鈥檙 DU ar gyfer nodi鈥檙 canmlwyddiant Link text

鈥ae o leiaf 拢1miliwn y flwyddyn ar gael gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri am chwe blynedd hyd at 2019. Bydd yn darparu grantiau rhwng 拢3,000 a 拢10,000 gan alluogi grwpiau o bob cwr o鈥檙 DU i archwilio, diogelu a rhannu eu treftadaeth o鈥檙 Rhyfel Byd Cyntaf ac ehangu eu dealltwriaeth o effaith y gwrthdaro.

Bydd prosiectau llwyddiannus yn cynnwys:

鈥mchwilio i dreftadaeth leol gan ei nodi a鈥檌 chofnodi; 鈥reu archif neu gasgliad cymunedol; 鈥atblygu dehongliad newydd o dreftadaeth drwy arddangosfeydd, llwybrau, apiau ar gyfer ffonau clyfar, ac ati; 鈥waith ymchwil, ysgrifennu a pherfformio deunyddiau creadigol yn seiliedig ar ffynonellau treftadaeth; a 鈥all y rhaglen newydd hefyd ddarparu cyllid ar gyfer diogelu cofebion rhyfel.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 10 Mehefin 2013