Stori newyddion

Ysgrifennydd Cymru yn nodi buddsoddiad Aston Martin mewn gweithgynhyrchu cerbydau heb allyriadau yn safle Sain Tathan

Aston Martin yn buddsoddi 拢50 miliwn yn ei gyfleuster newydd yn Sain Tathan yng Nghymru

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2016 to 2019 May Conservative government
picture of Aston Martin Car in front of jets at Aston Martin

picture of Aston Martin Car in front of jets at Aston Martin

Mae Alun Cairns, Ysgrifennydd Cymru wedi croesawu鈥檙 cyhoeddiad heddiw y bydd Aston Martin yn buddsoddi 拢50 miliwn yn ychwanegol yn ei gyfleuster newydd yn Sain Tathan, Cymru. Dyma fydd ei ganolfan ar gyfer trydaneiddio a chartref y brand, Lagonda. Bydd y buddsoddiad yn creu 200 o swyddi ychwanegol ar y safle. Bydd y ffatri newydd yn denu hyd at 750 o swyddi tra medrus i dde Cymru.

Daw鈥檙 cyhoeddiad hwn ar y diwrnod y mae鈥檙 Prif Weinidog yn amlinellu 鈥榗enhadaeth uchelgeisiol鈥� Llywodraeth y DU i sicrhau bod y DU ar flaen y gad o ran dylunio a gweithgynhyrchu cerbydau heb allyriadau. Bydd yn amlinellu hyn yn ystod ei hanerchiad yn Uwchgynhadledd gyntaf erioed y wlad ar Gerbydau Heb Allyriadau, a gynhelir yn Birmingham.

Wrth nodi cyhoeddiad Aston Martin heddiw, dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae鈥檙 cyhoeddiad hwn yn hwb mawr i鈥檙 rheini sy鈥檔 gweithio yng nghyfleuster gweithgynhyrchu newydd, o鈥檙 radd flaenaf Aston Martin yn Sain Tathan. Rwy鈥檔 falch y bydd sgiliau a thalentau gweithlu o Gymru yn darparu鈥檙 cynnyrch o safon uchel y mae鈥檙 brand blaenllaw hwn o Brydain yn adnabyddus amdano ledled y byd.

Cenhadaeth Llywodraeth y DU ydy sicrhau bod y wlad ar flaen y gad o ran dylunio a gweithgynhyrchu cerbydau heb allyriadau. Mae鈥檙 ffaith fod cwmni sy鈥檔 uchel ei barch ar draws y byd, yn dewis Cymru fel y ganolfan ragoriaeth ar gyfer ei raglen trydaneiddio yn dyst i鈥檙 hyn sydd gan ein gwlad i鈥檞 gynnig i鈥檙 sector modurol. Rwy鈥檔 edrych ymlaen at weld y cynlluniau arloesol yn cael eu gwireddu yn ystod y misoedd a鈥檙 blynyddoedd nesaf.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 11 Medi 2018