Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Cymru鈥檔 nodi 20 mlynedd o ddatganoli yng Nghymru

Datganiad Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns, i nodi 20 mlynedd ers y bleidlais dros greu Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2016 to 2019 May Conservative government
Senedd

Senedd

Dywedodd Alun Cairns:

Mae datganoli yng Nghymru wedi datblygu llawer yn ystod yr 20 mlynedd ers y refferendwm. Nawr mae鈥檙 Senedd yn rhan annatod o鈥檔 tirlun cyfansoddiadol - gan wneud penderfyniadau allweddol ar faterion sy鈥檔 effeithio ar fywyd bob dydd.

Rydw i鈥檔 hapus gyda鈥檙 cyfraniad mae鈥檙 Llywodraeth yma wedi鈥檌 wneud at siwrnai datganoli yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae鈥檙 setliad datganoli wedi cael ei ailysgrifennu - y pecyn mwyaf pellgyrhaeddol ac arwyddocaol o bwerau i gael eu datganoli erioed i Gymru.

Rydyn ni wedi hwyluso refferendwm 2011, pryd cafodd y Cynulliad bwerau llawn i lunio deddfau; sefydlwyd Comisiwn Silk i ystyried datganoli mwy o bwerau; llywiwyd Deddf Cymru drwy鈥檙 Senedd a chyflwynwyd fframwaith ariannol sy鈥檔 gwarantu cyllid teg i Gymru yn y tymor hir.

Hefyd rydyn ni wedi helpu i roi pwerau gwirioneddol yn nwylo pobl Cymru ar lefel leol drwy gyfrwng bargeinion Rhanbarthau Dinesig Abertawe a Chaedydd, ac mae trafodaethau ar sicrhau cytundeb twf ar gyfer Gogledd Cymru ar droed eisoes.

Rydyn ni mewn cyfnod arall o newid i ddatganoli yng Nghymru yn awr - y datganoli ar bwerau a ddaw yn 么l i ni fel gwlad pan fyddwn yn gadael yr UE. Rydyn ni wedi bod yn glir o鈥檙 dechrau y bydd canlyniad y broses yn arwain at gynnydd sylweddol ym mhwerau gwneud penderfyniadau鈥檙 Cynulliad a Llywodraeth Cymru.

Ni fydd Llywodraeth y DU yn datganoli ac anghofio. Rydyn ni鈥檔 herio Llywodraeth Cymru yn awr i gynhyrchu twf, hyrwyddo arloesi, cynyddu cynhyrchiant a darparu gwell gwasanaethau cyhoeddus. Dyma beth mae pobl Cymru ei eisiau a dyma beth maen nhw鈥檔 ei haeddu.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 18 Medi 2017