Stori newyddion

Ysgrifennydd Cymru yn edrych ymlaen at y Flwyddyn Newydd

Ysgrifennydd Gwladol Cymru Jo Stevens yn edrych yn 么l ar 2024 ac ymlaen i'r flwyddyn i ddod.

Welsh Secretary Jo Stevens at Ty William Morgan in Cardiff

Ym mis Gorffennaf eleni, pleidleisiodd Cymru鈥檔 bendant dros newid.

Cefais y fraint o gael fy mhenodi鈥檔 Ysgrifennydd Gwladol benywaidd cyntaf Cymru, gyda chenhadaeth glir sef cyflawni鈥檙 hyn a addawsom.

Yn yr etholiad, fe wnaethom addo strydoedd mwy diogel, ynni gwyrdd ac, yn anad dim, swyddi newydd a thwf economaidd i bobl ledled Cymru. Fe ddywedom y byddem yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i wella a diwygio gwasanaethau cyhoeddus, gyda mwy o arian i鈥檙 GIG a gwasanaethau cyhoeddus eraill ar 么l mwy na degawd o esgeulustod.

Yn sail i hyn i gyd roedd yr addewid o drawsnewid y berthynas rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru.

Rydym wedi bwrw iddi鈥檔 ddi-oed.

Mae鈥檙 ffraeo dinistriol wedi mynd, ac yn lle hynny mae partneriaeth mewn grym sy鈥檔 wir yn cyflawni dros pobl Cymru am y tro cyntaf mewn cenhedlaeth.

Roedd y Gyllideb wedi darparu鈥檙 setliad uchaf erioed o 拢21 biliwn i Lywodraeth Cymru, gyda 拢1.7 biliwn yn ychwanegol y flwyddyn nesaf i鈥檞 wario ar wasanaethau cyhoeddus i wella gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru fel y GIG a lleihau rhestrau aros.

Bydd Llywodraeth Cymru yn gwario mwy na 拢600 miliwn mewn arian newydd ar iechyd a gofal cymdeithasol y flwyddyn nesaf.

Mae pobl ledled Cymru yn bendant eu bod eisiau cael gwasanaethau iechyd gwell.

Rydym hefyd eisiau rhoi mwy o arian ym mhocedi pobl a thyfu ein heconomi.

Mae鈥檙 Ardaloedd Buddsoddi yng Nghaerdydd a Chasnewydd a Wrecsam a Sir y Fflint yn rhan hanfodol o鈥檔 gwaith gyda Llywodraeth Cymru i roi hwb enfawr i gryfderau sectorau fel y diwydiannau creadigol, gwyddorau bywyd a gweithgynhyrchu uwch.

Rydym wedi rhoi鈥檙 golau gwyrdd i borthladdoedd rhydd Cymru, fel y gallant ddatgloi biliynau o fuddsoddiad preifat a sbarduno bron i 20,000 o swyddi yn ein cymunedau mewn porthladdoedd fel Aberdaugleddau, Port Talbot a Chaergybi.

Rwyf wedi lansio gr诺p cynghori economaidd arloesol gyda busnesau, undebau a phrifysgolion o bob cwr o Gymru i wneud yn si诺r ein bod ar flaen y gad o ran buddsoddi yn ein prif sectorau, yn ogystal 芒 datgloi swyddi a diwydiannau鈥檙 dyfodol.

Rhan hanfodol o hyn fydd y cyfle euraid yn sgil gwynt arnofiol ar y m么r. Gall Cymru arwain y byd o ran creu tyrbinau enfawr ar y m么r, i helpu i leihau biliau ynni a chreu swyddi鈥檙 dyfodol. Dod 芒鈥檙 buddsoddiad hwnnw i Gymru yw fy mlaenoriaeth gyntaf yn gynnar yn y flwyddyn newydd.

Mae Swyddfa Cymru a r么l Ysgrifennydd Cymru wedi cael bywyd newydd ynddynt, gyda llais cryf i Gymru wrth fwrdd y Cabinet unwaith eto.

Pan gefais fy mhenodi ym mis Gorffennaf, roeddwn yn synnu o ddarganfod bod y 拢80 miliwn o gymorth i weithwyr a busnesau ym Mhort Talbot, a addawyd gan y llywodraeth flaenorol, yn rhan o鈥檙 biliynau o ymrwymiadau gwariant a oedd heb gael eu hariannu.

Fy nod oedd brwydro鈥檔 galed am yr arian hwnnw. Wythnosau鈥檔 ddiweddarach, llwyddais i gyhoeddi miliynau o bunnoedd o arian newydd i gefnogi gweithwyr a busnesau. Fe wnaeth ein Cyllideb gyntaf gadarnhau鈥檙 拢80 miliwn hwnnw yn llawn. Mewn pedwar mis yn unig mae tair cronfa sy鈥檔 werth mwy na 拢40 miliwn bellach ar waith, gyda mwy i ddod.

Ar 么l blynyddoedd o anghytuno a sefyllfa ddisymud, rhoddodd Llywodraeth y DU 拢25 miliwn i Lywodraeth Cymru allu cynnal a diogelu tomennydd glo. Nid oes darlun gwell o鈥檙 berthynas newydd rhwng y ddwy lywodraeth na鈥檙 cydweithrediad hwn ar fater sy鈥檔 peri pryder mawr i bobl mewn cannoedd o gyn-gymunedau glofaol ledled Cymru.

Rydym wedi sicrhau bod yr anghyfiawnder hanesyddol i fwy na 100,000 o gyn-lowyr wedi dod i ben. Byddant bellach yn derbyn biliynau a gafodd eu cadw o鈥檜 pensiynau, felly byddant yn derbyn traean yn fwy bob blwyddyn.

Diogelu arian ar gyfer gweithwyr dur Port Talbot, cyllid am y tro cyntaf ar gyfer tomennydd glo, a chyfiawnder i lowyr Cymru 鈥� tri pheth na fyddai wedi digwydd heb gynrychiolydd yn siarad dros Gymru yn y Cabinet ac ar draws llywodraeth y DU.

Ond dim ond megis dechrau y mae鈥檙 llywodraeth newydd hon, a byddwn yn symud ymhellach ac yn gyflymach fyth yn 2025 wrth i ni gyflawni ein Cynllun ar gyfer Newid.

Gall pobl yng Nghymru ddisgwyl gweld mwy o heddlu yn 么l ar y strydoedd, yn eu cadw鈥檔 ddiogel. Yn gynharach y mis yma, b没m yn agor canolfan newydd ar gyfer Heddlu Gwent yn y Fenni er mwyn i swyddogion allu gwasanaethu鈥檙 dref yn well.

Rydym yn buddsoddi mewn 13,000 yn ychwanegol o swyddogion cymdogaeth, Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu, a chwnstabliaid arbennig ledled Cymru a Lloegr. Bydd y swyddogion hyn yn gweithio i adfer y plismona gweladwy a hygyrch y mae ein cymunedau鈥檔 ei haeddu.

Byddwn hefyd yn bwrw ymlaen 芒 chynlluniau cyffrous ar gyfer ein rhwydwaith rheilffyrdd. Nid yw Cymru wedi cael y buddsoddiad mewn rheilffyrdd y mae ei angen ac y mae鈥檔 ei haeddu. Fy nod yw mynd i鈥檙 afael 芒 hyn yn y flwyddyn i ddod, wrth i ni weithio gyda Llywodraeth Cymru i adeiladu a rhedeg y gwasanaethau sydd eu hangen ar bobl bob dydd a helpu econom茂au lleol i dyfu.聽

Ym mis Awst, ymunais ag Ysgrifennydd Trafnidiaeth Cymru, Ken Skates, i gyhoeddi y byddai nifer y trenau sy鈥檔 rhedeg ar brif reilffordd Gogledd Cymru yn cynyddu 50%.鈥疍yna newid y bydd pobl yn gallu ei weld ar y platfformau. Nid addewid afrealistig nad yw byth yn cael ei wireddu.

Ni allwn fynd yn 么l mewn amser a newid y ffordd yr aeth y llywodraeth Geidwadol ati i greu, categoreiddio a chamreoli鈥檙 prosiect HS2, ond fe fyddwn yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ac eraill i sicrhau y bydd gwasanaethau i deithwyr yn cael eu trawsnewid am genedlaethau i ddod.

Mae dyfodol disglair o鈥檔 blaenau i Gymru yn 2025 ac wedi hynny. Gyda Eluned a minnau 鈥� partneriaeth mewn grym 鈥� mae llais Cymru yn gryf unwaith eto. Gallwn ni godi ein gobeithion a鈥檔 huchelgeisiau wrth i ni roi ein cenedl yn flaenllaw, mewn degawd o adnewyddu cenedlaethol.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 30 Rhagfyr 2024