Stephen Crabb: "Penderyn yn stori o lwyddiant yng Nghymru."
Ymwelodd Ysgrifennydd Cymru Stephen Crabb 芒 distyllfa Penderyn yn Aberhonddu heddiw i weld lle mae un o gynhyrchion mwyaf cyffrous Cymru yn cael ei wneud.
Welsh Secretary Stephen Crabb with Penderyn Distillery Managing Director Stephen Davies
Distyllfa Penderyn yw鈥檙 unig un o鈥檌 fath yng Nghymru, ac mae鈥檔 un o鈥檙 lleiaf yn y byd. Dim ond pymtheg mlynedd sydd ers y distyllu cyntaf ac fe lansiwyd ei wisgi brag sengl yn 2004.
Mae brand Penderyn yn tyfu o ran cyfaint ac o ran adnabyddiaeth ledled y byd, yn Ffrainc, yr Almaen ac Ewrop yn ogystal 芒 marchnadoedd newydd yn Awstralia a Taiwan.
Cwblhawyd y prosiect i ehangu鈥檙 ddistyllfa yr haf diwethaf ac mae鈥檙 datblygiad hwn wedi helpu i gynyddu cynhyrchu鈥檙 ddistyllfa o 150,000 potel o wisgi brag sengl y flwyddyn i rhwng 400,000 o a 500,000.
Yn arwain at Wythnos Twristiaeth Cymru, gwelodd Stephen Crabb y ganolfan ymwelwyr drawiadol 鈥榮y鈥檔 denu 35,000 o ymwelwyr bob blwyddyn
Dywedodd Stephen Crabb:
Mae Penderyn yn lwyddiant Cymreig ac yn ysbrydoliaeth i entrepreneuriaid ar draws Cymru.
Mewn dim ond 15 mlynedd , mae鈥檙 cwmni ifanc hwn wedi dangos yr hyn y gellir ei gyflawni pan fyddwch yn cyfuno arloesedd ac uchelgais gyda chynnyrch gwych a hunaniaeth Gymreig gref.
Mae Penderyn yn arloeswr ar gyfer ein diwydiant bwyd a diod, yn gwerthu wisgi Cymreig mewn 16 o wledydd ac yn paratoi鈥檙 ffordd ar gyfer busnesau eraill yng Nghymru i lwyddo fel allforwyr.
Dim syndod fod miloedd o bobl yn ymweld 芒鈥檙 ddistyllfa bob blwyddyn i brofi ansawdd wisgi Cymreig a chryfder ein diwydiant bwyd a diod.