Ysgrifennydd Cymru: Pedair cenedl y DU yn ‘Well gyda'i gilydd'
David Jones i roi araith � ‘Devolution in the Continuing Union�

The Union Jack Flag
Bydd pleidlais ‘ia� yn y refferendwm ar annibyniaeth yn yr Alban yn “fenter fawr� ac yn “naid i dir dieithr� i bobl yr Alban. Dyna fydd neges David Jones, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, wrth annerch Cymdeithas y Durham Union heno (nos Iau 28 Tachwedd 2013).
Bydd Mr Jones yn rhoi ei araith ‘Devolution in the Continuing Union� yn sgil cyhoeddi Papur Gwyn yr Alban ar annibyniaeth.
Bydd yn dweud nad yw’r ddogfen yn “rhoi atebion credadwy i gwestiynau sylfaenol bwysig�, megis arian, pensiynau a chost annibyniaeth, a’i bod “yn ymddangos fel pe na bai yn ddim byd mwy na rhestr o ddyheadau a luniwyd i guddio gwir ystyr annibyniaeth.�
Disgwylir i Mr Jones ddweud fod “yr Alban eisoes yn rhan o un o uniadau mwyaf llwyddiannus y byd� a bod datganoli yn golygu y bydd yr Alban yn gallu gwneud penderfyniadau pwysig sy’n effeithio ar fywyd bob dydd.
Bydd Mr Jones hefyd yn dweud fod yr Alban, fel Cymru, yn “elwa o ddwy ddeddfwrfa a dwy lywodraeth sy’n gweithio dros eu buddiannau�, gan bwysleisio mai model datganoli hyblyg sydd fwyaf priodol i’r Deyrnas Unedig.
Bydd yn dweud na fydd annibyniaeth yn “creu uniad newydd� ond, yn hytrach, bydd yr Alban yn gadael y Deyrnas Unedig, gan beri “newid sylfaenol a diwrthdro nad oes modd ei fesur cyn y refferendwm.�
Bydd yn pwysleisio, os bydd pobl yr Alban yn pleidleisio ‘ia� ym mis Medi 2014, “bydd angen trafod eu dyfodol â dwsinau o wledydd a fydd yn gweithredu er budd eu dinasyddion eu hunain, nid er budd yr Alban, ar faterion megis arian, amddiffyn a ffiniau.�
Bydd yn dweud bod busnesau, prifysgolion a sefydliadau presennol y Deyrnas Unedig yn elwa o economi gref “heb eu llesteirio gan ffiniau a thollau, gydag arian cyfred cryf,� ac y byddai “pleidleisio o blaid annibyniaeth yn golygu y byddai hyn i gyd yn y fantol�.
NODIADAU I OLYGYDDION
-
Bydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn rhoi ei araith ‘Devolution in the Continuing Union� am oddeutu 20:30 o’r gloch ddydd Iau 28 Tachwedd yng Nghymdeithas y Durham Union, Pemberton Buildings, Palace Green, Durham, County Durham.
-
Cymdeithas ddadlau a sefydlwyd yn 1842 gan fyfyrwyr Prifysgol Durham yw Cymdeithas y Durham Union.