Ysgrifennydd Cymru鈥檔 trafod Uwchgynhadledd Nato gydag arweinwyr busnes yn GE Aviation
Menywod mewn busnes a Datganiad yr Hydref 2014 hefyd ar frig agenda cyfarfod y Gr诺p Cynghori ar Fusnes.
Secretary of State for Wales David Jones
Mae arweinwyr busnes wedi trafod Uwchgynhadledd Nato, menywod yn y gweithlu a Datganiad yr Hydref gydag Ysgrifennydd Gwladol Cymru.
Clywodd David Jones AS syniadau gan fusnesau 鈥� gan gynnwys uwch swyddogion gweithredol o鈥檙 Celtic Manor lle cynhelir Uwchgynhadledd Nato 鈥� ynghylch sut orau i hyrwyddo Cymru fel dewis gyrchfan i fuddsoddwyr mewn cyfarfod o Gr诺p Cynghori ar Fusnes Swyddfa Cymru yn GE Aviation yn Nantgarw.
Caiff eu barn hwy ei fwydo i gynnig busnes ehangach a chynlluniau i gynnal Uwchgynhadledd Fuddsoddi Swyddfa Cymru ym mis Tachwedd i hyrwyddo Cymru fel y man lle cynhaliwyd ymweliad y ddirprwyaeth ryngwladol fwyaf mewn hanes 芒鈥檙 Deyrnas Unedig.
Dywedodd David Jones, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
Fel un o gyflogwyr awyrofod ac amddiffyn mwyaf Cymru a buddsoddwr allweddol yn yr economi ac yn y gweithlu Cymreig, mae鈥檔 addas ein bod wedi cynnal y cyfarfod hwn yn GE Aviation.
Bydd uwchgynhadledd NATO yn darparu i Gymru gyfle na welwyd ei debyg i fusnesau Cymreig arddangos popeth gorau sydd ganddynt i鈥檞 gynnig i gynulleidfa fyd-eang o biliynau. Rwyf eisiau manteisio ar y cyfle hwn y tu hwnt i鈥檙 uwchgynhadledd i sicrhau bod Cymru鈥檔 cael budd economaidd parhaus o gynnal cynhadledd fasnach ryngwladol yng Nghymru.
Yr oeddwn yn awyddus i gasglu barn arweinwyr busnes yng Nghymru ynghylch sut orau i gyflwyno ein cryfderau fel cyrchfan ar gyfer buddsoddi mewnol a gwneud y gorau o鈥檙 cyfleoedd ar gyfer ein hallforwyr o safon fyd-eang.
Mae鈥檔 hanfodol ein bod yn cyflwyno cynnig cydlynol gan fusnesau ac yn dangos darlun modern o economi Cymru sy鈥檔 barod ac yn alluog i gwrdd ag anghenion y gymuned fusnes ryngwladol.
Ymunwyd 芒 Mr Jones yn y cyfarfod gan Weinidog y Swyddfa Gymreig y Farwnes Randerson a arweiniodd drafodaeth ar agenda鈥檙 llywodraeth i hyrwyddo menywod mewn busnes.
Erbyn hyn menywod yw 48% o鈥檙 gweithlu yng Nghymru ac ym mis Mai eleni cyhoeddwyd bod gan bob cwmni FTSE 100 fenyw ar ei fwrdd.
Yn ystod y cyfarfod, tynnodd y Farwnes Randerson sylw at y rolau pwysig sydd gan y llywodraeth a busnesau o ran annog menywod a merched ifanc i fod 芒鈥檙 hyder i anelu鈥檔 uchel a chyrraedd eu potensial llawn yn y gweithle.
Dywedodd y Farwnes Randerson:
Mae nod y llywodraeth hon o greu cymdeithas decach a mwy cydradd yn cynorthwyo i yrru ymlaen y newid diwylliannol sydd ei angen i sicrhau y gall menywod wneud y gorau o鈥檜 cyfleoedd yn y man gwaith ar gyfer twf economaidd i鈥檙 dyfodol.
Er ei bod yn glir bod cyfleoedd fel hyn yn cynyddu yng Nghymru, yr her a wynebwn yw sicrhau bod mwy o fenywod yn cymryd mantais arnynt.
Rwy鈥檔 benderfynol o wneud fy rhan yn yr ymdrech hon ac rwy鈥檔 gobeithio gweld mwy o fusnesau yng Nghymru yn creu polis茂au sy鈥檔 deg i fenywod ac yn gwneud y gorau o鈥檙 sgiliau a鈥檙 doniau sylweddol sydd gan fenywod i鈥檞 cynnig.
Yn ystod y cyfarfod, cymerodd yr Ysgrifennydd Gwladol y cyfle hefyd i gasglu barn aelodau am y cynigion polisi yr hoffent eu gweld yn cael eu cynnwys yn Natganiad yr Hydref y Canghellor yn ddiweddarach eleni er mwyn ysgogi twf economaidd.
Bydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn awr yn rhannu鈥檔 cynigion gyda鈥檙 Canghellor am ystyriaeth.
Gwybodaeth bellach:
- Sefydlwyd Gr诺p Cynghori Busnes Swyddfa Cymru yn 2010 i edrych ar yr amgylchedd busnes yng Nghymru ac i wrando ar farn arweinwyr busnes Cymru.