Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn dathlu llwyddiannau Cymru yn rhestr Anrhydeddau鈥檙 Flwyddyn Newydd yn 2022
Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Simon Hart wedi llongyfarch derbynwyr Anrhydeddau鈥檙 Flwyddyn Newydd eleni.

Mae鈥檙 derbynwyr o Gymru sydd ar restr 2022 yn cynnwys yr Olympiaid Hannah Mills (OBE), am ei gwasanaethau i hwylio ac ymgyrchu amgylcheddol, a Lauren Price (MBE) am wasanaethau i focsio. Mae鈥檙 Paralympiad David Smith (OBE) hefyd wedi cael ei gydnabod am ei wasanaeth aruthrol i鈥檙 gamp Boccia ochr yn ochr 芒 James Roberts sydd wedi derbyn MBE am wasanaethau i rygbi cadair olwyn.
Mae Prif Swyddog Meddygol Cymru, Dr Frank Atherton, yn cael ei urddo鈥檔 farchog am ei r么l arweinyddol yng Nghymru drwy gydol pandemig Covid-19, tra bod cyn Is-Ganghellor Prifysgol De Cymru, yr Athro Julie Lydon, wedi derbyn gwobr am ei gwasanaethau i addysg uwch.
Mae nifer o bobl o bob cwr o Gymru, gan gynnwys Maureen Davies (BEM am wasanaethau i gymunedau yn Ynys M么n) a Joshua Reeves (BEM am ei waith gyda phobl ag anableddau) wedi cael eu hanrhydeddu am eu gwasanaethau i gymunedau ledled Cymru a thu hwnt.
Diolchodd yr Ysgrifennydd Gwladol i鈥檙 derbynwyr am eu hymroddiad, eu llafur caled a鈥檜 llwyddiannau ysbrydoledig.
Dywedodd Simon Hart, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
Unwaith eto rwyf wedi cael fy ysbrydoli gan straeon llawer o bobl ledled Cymru, sy鈥檔 cael eu cydnabod yn haeddiannol ar restr Anrhydeddau鈥檙 Flwyddyn Newydd.
Mae鈥檙 bobl hyn wedi dal ati i wneud cyfraniadau eithriadol mewn cymunedau ledled Cymru, yn ystod blwyddyn heriol iawn.
Mae鈥檔 wych gweld pobl o Gymru o gefndiroedd amrywiol yn cael eu cydnabod. Rwyf wrth fy modd bod eu hymroddiad i鈥檞 cymunedau, dros chwaraeon ac i wasanaethau iechyd yn cael eu cymeradwyo.
Hoffwn longyfarch yr holl dderbynwyr haeddiannol a diolch iddynt am eu gwaith gwerthfawr.
Gan longyfarch y Paralympiad David Smith, a gafodd OBE am wasanaethau i鈥檙 gamp Boccia, dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru Simon Hart:
Yn gynharach eleni daeth David yn chwaraewr Boccia mwyaf addurnedig Prydain erioed. Mae鈥檙 cyflawniad rhagorol hwn a鈥檌 ymrwymiad i鈥檞 gamp yn ei wneud yn unigolyn gwirioneddol ysbrydoledig.
Mae David yn athletwr eithriadol ac yn dderbynnydd haeddiannol o鈥檙 anrhydedd hwn. Llongyfarchiadau David.
Gan longyfarch Joan Scott (fe鈥檌 gelwir yn Jo), a gafodd BEM am wasanaethau yn y gymuned ym Mhwllheli, Gwynedd, dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru Simon Hart:
Yn ogystal 芒 chadw cwsmeriaid yn ddiogel yn Asda fel swyddog diogelwch COVID, mae Jo wedi mynd y tu hwnt o ran ei chymuned drwy gydol cyfnod y pandemig. Nid yn unig y mae hi wedi codi miloedd o bunnoedd ar gyfer elusennau lleol a chenedlaethol, mae hi hefyd wedi dysgu Cymraeg i gysylltu鈥檔 well gyda phawb sy鈥檔 defnyddio鈥檙 siop.
Mae ei hagwedd gadarnhaol a鈥檌 hymroddiad i鈥檞 chymuned yn eithriadol. Mae鈥檔 llawn haeddu鈥檙 anrhydedd hon.
Gan longyfarch Joshua Reeves, a gafodd BEM am wasanaeth i bobl a chanddynt anableddau, dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru Simon Hart:
Mae Joshua wedi cyflawni gwaith gwych fel rhywun sy鈥檔 gweithredu ac yn ymgyrchu dros hawliau鈥檙 anabl.
Yn ogystal ag addysgu pobl ar faterion yn ymwneud ag anabledd yma yng Nghymru, mae鈥檔 ymgyrchu dros y byd hefyd. Rwy鈥檔 diolch iddo am ei ymroddiad dros wella bywydau pobl anabl yng Nghymru a thu hwnt.
Gan longyfarch Maureen Davies, a gafodd BEM ar gyfer gwaith gwirfoddol a gwasanaeth cyhoeddus yn Sir F么n, dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru Simon Hart:
Mae Maureen wedi rhoi dros 45 o flynyddoedd o wasanaeth i Girl Guiding UK, gan fod yn esiampl i gannoedd o ferched ledled Sir F么n. Mae ei gwaith rhagorol a鈥檌 gwasanaeth hir yn golygu ei bod yn llawn haeddu鈥檙 wobr hon. Llongyfarchiadau Maureen.
Gan longyfarch Bnar Talabani, a gafodd MBE ar gyfer gwasanaethau i鈥檙 GIG ac am wneud brechiadau COVID-19 yn hygyrch i gymunedau lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru, dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru Simon Hart:
Mae Bnar wedi goresgyn caledi ac wedi dod yn Arbenigwr Meddygol Trawsblaniad Aren uchel ei pharch.
Bu ei gwaith dros hybu iechyd a lles cymunedau Mwslemaidd a BAME a鈥檌 hymdrechion i chwalu鈥檙 camddealltwriaethau ynghylch brechlyn COVID-19 yn amhrisiadwy.
Rwy鈥檔 diolch am ei holl waith yn cynorthwyo鈥檙 rhaglen frechu ac rwy鈥檔 ei llongyfarch hi ar ei gwobr gwbl haeddiannol.
Gan longyfarch Lauren Price, a gafodd MBE am wasanaeth yn y byd bocsio, dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru Simon Hart:
Roedd campwaith Lauren yn rhan o d卯m Prydain Fawr yn Tokyo dros yr haf yn destun cyffro i filiynau o bobl yn 么l yng Nghymru a gweddill y DU. Mae Lauren yn athletwraig anhygoel ac ysbrydoliaeth go iawn i eraill. Mae ei llwyddiannau yn y byd bocsio cic, p锚l droed a bocsio yn dangos ei hymroddiad eithriadol, ei sgiliau a鈥檌 hysgogiad.
Llongyfarchiadau i Lauren am y wobr gwbl haeddiannol hon.
Gan longyfarch Alison Williams, a gafodd MBE am wasanaethau i addysg a鈥檙 gymuned yn Abertawe, dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru Simon Hart:
Yn ogystal ag arwain ysgol gynradd lwyddiannus, mae Alison hefyd yn gwasanaethu ei chymuned drwy helpu i ariannu parc cymunedol, rhandir gwyrdd, ramp sglefrfyrddio a chlybiau gwyliau. Mae ei hymroddiad i鈥檞 disgyblion a鈥檌 phenderfyniad anhunanol i roi rhywbeth yn 么l i鈥檞 chymuned yn ysbrydoledig.
Hoffwn longyfarch Alison yn fawr ar gael yr anrhydedd hon.