Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Cymru yn dathlu llwyddiant y rheini sydd wedi cael Anrhydeddau Blwyddyn Newydd

Cymry鈥檔 cael eu cydnabod am eu cyfraniad eithriadol i gymdeithas

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2019 to 2022 Johnson Conservative government
Example of medals received

惭补别鈥檙 Rhestr Anrhydeddau Blwyddyn Newydd yn cydnabod llwyddiannau amrywiaeth helaeth o bobl eithriadol ledled y Deyrnas Unedig.

Mae Simon Hart, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, wedi canmol y rhai sy鈥檔 derbyn Anrhydeddau鈥檙 Flwyddyn Newydd o Gymru. Wrth fynegi ei ddiolchgarwch am eu 鈥渉ymrwymiad cyson i wasanaethu eu cymunedau鈥� llongyfarchodd Mr Hart bawb a oedd yn derbyn y gwobrau.

Dywedodd Simon Hart, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Bob blwyddyn mae鈥檔 ysbrydoliaeth darllen straeon unigolion gweithgar a gafodd eu henwebu am eu hymrwymiad i wella eu cymunedau. A dydy eleni ddim yn eithriad.

Wrth i ni groesawu degawd newydd rydw i鈥檔 falch o weld Cymry o bob math o gefndiroedd yn cael eu cydnabod am eu rolau, gan gynnwys addysgu ac ysbrydoli鈥檙 genhedlaeth nesaf, neu ddarparu gofal eithriadol i bobl h欧n neu anabl.

Hoffwn ddiolch iddyn nhw am eu hymrwymiad cyson i wasanaethu eu cymunedau a gwella bywydau pobl eraill Llongyfarchiadau i bawb a gafodd ei anrhydeddu heddiw.

Gan longyfarch Syr Keith Thomas FBA, a gafodd Gydymaith Anrhydeddus am Wasanaethau i Astudio hanes, dywedodd Simon Hart, Ysgrifennydd Cymru:

Mae Syr Keith wedi ymroi llawer o鈥檌 fywyd i astudio ac addysgu hanes ym Mhrifysgol Rhydychen, yn dilyn ei fagwraeth yn y Wig ym Mro Morgannwg.

Wrth gael ei ystyried yn arloeswr ym maes hanes cymdeithasol, mae wedi cael gyrfa hynod nodedig yn y byd academaidd a bywyd cyhoeddus ac wedi ennill nifer o wobrau am ei waith dros y blynyddoedd.

Rwy鈥檔 falch iawn o longyfarch Syr Keith ar y wobr hon sy鈥檔 cydnabod oes o ymroddiad i broffesiwn mor werthfawr.

Gan longyfarch Jade Jones MBE, a gafodd OBE am wasanaethau i Taekwondo a Chwaraeon, dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Simon Hart:

Mae Jade wedi dod yn un o bersonoliaethau chwaraeon mwyaf adnabyddus y ddegawd ers ei buddugoliaeth yng Ngemau Olympaidd Llundain a Rio.

Mae hi鈥檔 ysbrydoliaeth nid yn unig o fewn taekwondo ond i bob athletwr gobeithiol oherwydd ei disgyblaeth a鈥檌 hymroddiad. Ymrwymiad sydd wedi caniat谩u iddi ddod yn 么l o adfyd ac ennill rhai o deitlau mwyaf ei chwaraeon, gan gynnwys yn ddiweddar ei Phencampwriaeth Byd cyntaf.

Llongyfarchiadau Jade ar dy gyflawniad aruthrol.

Gan longyfarch Cyfarwyddwr Swyddfa Ysgrifennydd Gwladol Cymru Glynne Jones a dderbyniodd CBE am Wasanaethau i鈥檙 Cyhoedd, dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Simon Hart:

惭补别鈥檙 wobr hon yn cydnabod ei gyflawniadau anhygoel yn ystod ei yrfa hir yn y gwasanaeth sifil.

Mae鈥檔 fraint gweithio gyda gwas cyhoeddus mor ysbrydoledig ac yr wyf yn ddiolchgar am ei ymrwymiad diysgog i鈥檞 d卯m a鈥檙 cyhoedd yng Nghmru.

Llongyfarchiadau Glynne, rwy鈥檔 edrych ymlaen at barhau i weithio gyda chi, ar ran Cymru, yn 2020.

Gan longyfarch Loren Dykes, a gafodd MBE am wasanaethau i B锚l-Droed Merched yng Nghymru, dywedodd Simon Hart, Ysgrifennydd Cymru:

Mae poblogrwydd p锚l-droed merched yng Nghymru ac o gwmpas y byd yn tyfu ar raddfa na welwyd mo鈥檌 thebyg o鈥檙 blaen. Mae Loren wedi bod yn rhan greiddiol o sicrhau鈥檙 twf hwn drwy hyfforddi s锚r y dyfodol a dangos i fenywod a merched yr uchelfannau byd-eang y mae modd eu cyrraedd mewn chwaraeon.

Hoffwn longyfarch Loren a dymuno pob llwyddiant iddi yng ngweddill ei gyrfa.

Gan longyfarch Renate Collins, a gafodd BEM am wasanaethau i Addysg am yr Holocost, dywedodd Simon Hart, Ysgrifennydd Cymru:

Mae ymrwymiad Renate i sicrhau bod pobl yng Nghymru yn cael eu haddysgu am erchyllterau鈥檙 Holocost yn haeddu canmoliaeth. Mae ei stori yn ein hatgoffa ni i gyd am y peryglon mae casineb yn peri ymysg cymunedau yn ein cymdeithas.

Hoffwn ei llongyfarch yn wresog am dderbyn yr anrhydedd hwn.

Gan longyfarch Anthony David White, a gafodd BEM am wasanaethau ym maes Meddygaeth yng Nghymru, dywedodd Simon Hart, Ysgrifennydd Cymru:

Drwy ymrwymiad Anthony i ddarparu gofal o ansawdd uchel, mae miloedd o gleifion h欧n yn Wrecsam a鈥檙 ardal gyfagos yn cael triniaeth arbenigol sy鈥檔 canolbwyntio ar sicrhau canlyniadau gwell a鈥檜 hail-integreiddio i鈥檙 gymuned.

Llongyfarchiadau i ti Anthony am gael yr anrhydedd haeddiannol hwn.

Darllenwch restr Anrhydeddau鈥檙 Flwyddyn Newydd ar gyfer 2020 yn llawn ar wefan Swyddfa鈥檙 Cabinet.

DIWEDD

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 27 Rhagfyr 2019