Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn dathlu llwyddiannau Cymru yn rhestr Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd 2023
Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru David TC Davies yn llongyfarch derbynwyr Cymraeg Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd.

Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David TC Davies, wedi llongyfarch y rhai sy鈥檔 derbyn Anrhydeddau鈥檙 Flwyddyn Newydd eleni.
Mae rhestr Anrhydeddau鈥檙 Flwyddyn Newydd yn cydnabod llwyddiannau pobl anhygoel o bob cefndir ar draws y Deyrnas Unedig.
Ymhlith y rhai sy鈥檔 derbyn o Gymru yn rhestr 2023 mae capten Cymru, Sophie Ingle (OBE) am ei gwasanaethau i b锚l-droed, sylfaenydd y manwerthwr Net World Sports Alex Loven (MBE) am wasanaethau i鈥檙 economi ac i鈥檙 gymuned yn Wrecsam a鈥檙 Athro Colin Riordan (CBE), Llywydd ac Is-ganghellor Prifysgol Caerdydd am wasanaethau i addysg uwch.
O fyd gwleidyddiaeth, mae Urdd Marchog ar gyfer AS Rhondda, Chris Bryant, ac AS New Forest East, Julian Lewis, a anwyd yn Abertawe, er gwasanaeth gwleidyddol a chyhoeddus.
Cafodd nifer o bobl eraill o bob cwr o Gymru eu hanrhydeddu gan gynnwys Bill Carne o Hwlffordd (BEM am wasanaethau i chwaraeon ac elusen yn Sir Benfro), June Lovell o鈥檙 Wyddgrug (BEM am wasanaethau i鈥檙 GIG), Nancy Thomas o Drefynwy (BEM am wasanaethau i鈥檙 GIG) a Major Derek Monroe o Aberhonddu sy鈥檔 derbyn MBE am wasanaethau i Gadetiaid y Fyddin.
Diolchodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru i bawb yng Nghymru sydd wedi eu hanrhydeddu am eu gwaith caled a鈥檜 cyflawniadau ysbrydoledig.
Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru David TC Davies:
Rwy鈥檔 cael fy ysbrydoli gan waith amhrisiadwy鈥檙 nifer o bobl o bob cwr o Gymru sy鈥檔 haeddiannol wedi cael eu cydnabod ar Restr Anrhydeddau鈥檙 Flwyddyn Newydd.
Mae鈥檔 wych gweld derbynwyr o Gymru o amrywiaeth eang o gefndiroedd yn cael eu cydnabod. Rwyf wrth fy modd bod eu hymrwymiad i鈥檞 maes - boed yn waith cymunedol, chwaraeon, addysg neu iechyd - wedi cael ei ganmol.
Hoffwn longyfarch pob derbynnydd sy鈥檔 cael eu hanrhydeddu a diolch iddynt am eu cyfraniad.